{"id":8613,"date":"2022-07-20T07:00:38","date_gmt":"2022-07-20T06:00:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8613"},"modified":"2022-07-17T15:14:50","modified_gmt":"2022-07-17T14:14:50","slug":"cambrian-butcher-ben","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-butcher-ben\/","title":{"rendered":"Blwyddyn gofiadwy i Ben, y cigydd, sydd wedi ennill gwobr arall i brentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-butcher-ben\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-butcher-ben\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;n argoeli i fod yn flwyddyn gofiadwy i\u2019r cigydd crefftus Ben Roberts sydd eisoes wedi ennill mwy nag un wobr.<\/p>\n<div id=\"attachment_14745\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/Ben-Roberts-Butchery-scaled-e1657903312311.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14745\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/Ben-Roberts-Butchery-scaled-e1657903312311.jpg\" alt=\"Ben Roberts yn derbyn ei wobr.\" width=\"460\" height=\"305\" class=\"size-full wp-image-14745\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14745\" class=\"wp-caption-text\">Ben Roberts, Rheolwr Siop, yn derbyn gwobr Prentis y Flwyddyn oddi wrth Arwyn Watkins OBE, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p><\/div>\n<p>O fewn ychydig wythnosau, mae Ben, 30 oed, o M. E. Evans Traditional Butchers, Owrtyn, wedi ennill dwy wobr Prentis y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Daeth y gyntaf yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yng Nghaerdydd. Bellach, cafodd ei gydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Yn ogystal, bydd Ben yn cystadlu gyda Th\u00eem Cigyddiaeth Crefft Cymru yn Her Cigyddion y Byd yn America ym mis Medi, daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills UK 2021 a chafodd ei benodi\u2019n Llysgennad Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru, wedi rhoi\u2019r hyder a\u2019r hunan-fri iddo ragori yn ei grefft.<\/p>\n<p>Ers iddo gwblhau ei brentisiaeth, cafodd Ben ei ddyrchafu o fod yn rheolwr siop yn Owrtyn i reoli busnes cyfan M. E. Evans. Mae bellach yn symud ymlaen i wneud Prentisiaeth mewn Rheoli Busnes, gyda chynlluniau i barhau \u00e2\u2019i daith ddysgu.<\/p>\n<p>Dywedodd Ben: \u201cRoedd safon y gystadleuaeth ar gyfer y wobr hon yn anhygoel a\u2019r ddau arall oedd yn y rownd derfynol yn llawn haeddu ennill hefyd. Bydd yn cymryd amser i mi sylweddoli mai fi yw&#8217;r gorau allan o&#8217;r holl bobl yn y categori.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau&#8217;n rhoi\u2019r cyfle i chi wthio&#8217;ch hun yn y gweithle. Mae\u2019r potensial ar gyfer datblygu&#8217;ch gyrfa trwy brentisiaethau yn enfawr.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p> \u201cFy ngobaith r\u0175an ydi y gallaf ennill fy nhrydedd wobr eleni yn Her Cigyddion y Byd. Byddai hynny\u2019n ddiweddglo gwych i\u2019r flwyddyn.\u201d<\/p>\n<p>Y cystadleuwyr eraill yn rownd derfynol Prentis y Flwyddyn oedd Despoina Tsolakaki, 27, The Danish Bakery, Caerdydd a Kayla Millon, Whitbread \u2013 Premier Inn, Crossways, Caerffili sy\u2019n byw ym Mhort Talbot.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwobrau&#8217;n cydnabod cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori yn rhaglenni hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian mewn prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth. Cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty a Sba&#8217;r Metropole, Llandrindod ar 14 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn, Llanelli a Llanelwedd ac mae&#8217;n darparu prentisiaethau seiliedig ar waith ledled Cymru. <\/p>\n<p>Cafodd Ben, enillwyr y gwobrau eraill a\u2019r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu llongyfarch gan Arwyn Watkins OBE, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, am eu llwyddiant er gwaethaf y trafferthion a achoswyd gan y pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p> \u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn dangos ymroddiad unigolion a chwmn\u00efau i\u2019r rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru,\u201d meddai. \u201cMae Ben wedi dangos sut y gall prentisiaid symud ymlaen yn eu gyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;n argoeli i fod yn flwyddyn gofiadwy i\u2019r cigydd crefftus Ben Roberts sydd eisoes wedi ennill mwy nag un wobr. O fewn ychydig wythnosau, mae Ben, 30 oed, o M. E. Evans Traditional Butchers, Owrtyn, wedi ennill &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-butcher-ben\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8613","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8613","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8613"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8613\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8651,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8613\/revisions\/8651"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8613"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8613"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8613"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}