{"id":8666,"date":"2022-08-09T07:30:08","date_gmt":"2022-08-09T06:30:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8666"},"modified":"2022-08-09T12:49:07","modified_gmt":"2022-08-09T11:49:07","slug":"heiw-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/heiw-2\/","title":{"rendered":"Awdurdod gofal iechyd yn ymateb i\u2019r galw am ddysgu\u2019n ddwyieithog"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/heiw-2\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/heiw-2\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae awdurdod sy\u2019n chwarae rhan flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a phennu ffurf y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru wedi dechrau cynnig prentisiaethau dwyieithog i\u2019w weithwyr.<\/p>\n<div id=\"attachment_14772\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/WNS_040822_Huw_Owen_Heiw_005-scaled-e1659957294868.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14772\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/WNS_040822_Huw_Owen_Heiw_005-scaled-e1659957294868.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-14772\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14772\" class=\"wp-caption-text\">Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau\u2019r Gymraeg yn AaGIC<\/p><\/div>\n<p>Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn 2018 i eistedd ochr yn ochr \u00e2\u2019r ymddiriedolaethau a\u2019r byrddau iechyd fel rhan o GIG Cymru. Mae\u2019n cyflogi 570 o staff.<\/p>\n<p>Mae gofyn i AaGiC sicrhau bod y sgiliau cywir gan y bobl gywir i ddarparu gofal iechyd o\u2019r radd flaenaf i bobl Cymru.<\/p>\n<p>Dywed Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau\u2019r Gymraeg yn AaGIC, fod mwy o\u2019r staff yn dymuno dysgu\u2019r iaith a mwy o\u2019r bobl ifanc sy\u2019n ymgeisio am swyddi yn holi am gyfleoedd i ddysgu neu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae AaGIC yn cefnogi dau brentis, un yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig a\u2019r llall yn ddwyieithog. Mae cynlluniau i gyflogi rhagor o brentisiaid eleni.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo AaGIC am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.  <\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy\u2019n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r galw am wasanaethau dwyieithog yn cynyddu\u2019n gyson a\u2019n tasg ni yw cynnig cyfleoedd i\u2019n staff gael dysgu yn eu dewis iaith,\u201d meddai Huw.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau ar gynnydd yma yn AaGIC gan fod mwy o bobl ifanc o\u2019r farn nad y brifysgol, o anghenraid, yw\u2019r llwybr gorau ar gyfer eu gyrfa nhw. Rydyn ni fel cwmni\u2019n cyfuno prentisiaethau \u00e2 chyrsiau prifysgol.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau\u2019n helpu fwyfwy i bontio\u2019r bwlch rhwng Lefel \u2018A\u2019 yn yr ysgol, y brifysgol a chyfleoedd i ailhyfforddi yn nes ymlaen mewn bywyd.\u201d<\/p>\n<p>Mae AaGIC o\u2019r farn y dylai pobl sy\u2019n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gael cyfle i gyfathrebu yn eu dewis iaith, meddai.<\/p>\n<p>\u201cYn aml, os yw pobl yn siarad Cymraeg gartref, maen nhw\u2019n fwy cyfforddus o lawer os gallan nhw siarad yr iaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Profwyd mewn llawer o wledydd bod hynny\u2019n arwain at well canlyniadau,\u201d meddai Huw.<\/p>\n<p>\u201cMae bwrdd AaGIC yn gryf o blaid yr iaith Gymraeg. Mae pob un o\u2019n prif swyddogion ni naill ai\u2019n rhugl yn y Gymraeg neu\u2019n dysgu ac mae hynny\u2019n siarad cyfrolau.<\/p>\n<p>\u201cMae pob math o fusnesau a sefydliadau\u2019n cydnabod gwerth economaidd dwyieithrwydd.\u201d<\/p>\n<p>Y cyntaf o weithwyr AaGIC i gychwyn ar brentisiaeth a gyflenwir yn y Gymraeg yn unig yw Cedron Sion, 26 oed, o Borthmadog, sy\u2019n gyfieithydd gyda Th\u00eem Gwasanaethau\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae Cedron, sy\u2019n Llysgennad Prentisiaethau, yn gweithio ar Brentisiaeth Uwch mewn Ymarfer Cyfieithu (y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau) a gynigir gan Agored Cymru a\u2019i chyflenwi gan Goleg G\u0175yr Abertawe. <\/p>\n<p>Dywedodd hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, Ryan Evans: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio \u00e2 chwsmeriaid sy\u2019n siarad Cymraeg.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cGall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i\u2019r cyflogwr.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cMae AaGIC yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cMae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy\u2019n ymwneud \u00e2 phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.  <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a\u2019u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a\u2019u cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd am brentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffonio 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gcs.ac.uk\/cy\/apprenticeships-wales\">gcs.ac.uk\/cy\/apprenticeships-wales<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae awdurdod sy\u2019n chwarae rhan flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a phennu ffurf y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru wedi dechrau cynnig prentisiaethau dwyieithog i\u2019w weithwyr. Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn 2018 i eistedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/heiw-2\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8666","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8666","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8666"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8666\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8670,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8666\/revisions\/8670"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8666"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8666"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8666"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}