{"id":8675,"date":"2022-08-17T07:30:03","date_gmt":"2022-08-17T06:30:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8675"},"modified":"2022-09-13T16:42:07","modified_gmt":"2022-09-13T15:42:07","slug":"callum-fennell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/callum-fennell\/","title":{"rendered":"Callum, y gweithiwr gofal, yn s\u00f4n am fanteision prentisiaethau i bobl ifanc"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/callum-fennell\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/callum-fennell\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Gyda miloedd o bobl ifanc ledled Cymru&#8217;n disgwyl yn bryderus am eu canlyniadau TGAU a Lefel A y mis hwn, mae Callum Fennell sy&#8217;n weithiwr gofal wedi tynnu sylw at fanteision prentisiaeth i rai sy\u2019n gadael yr ysgol.<\/p>\n<div id=\"attachment_14824\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/PO_200722_CALLUM_04-sml-e1660580799740.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14824\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/PO_200722_CALLUM_04-sml-e1660580799740.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-14824\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14824\" class=\"wp-caption-text\">Callum Fennell<\/p><\/div>\n<p>Mae Callum, 18, yn falch iawn iddo ddewis prentisiaeth er mwyn datblygu gyrfa werth chweil ar \u00f4l teimlo nad oedd yr ysgol yn addas iddo.<\/p>\n<p>Aeth i weithio yng Nghartref Gofal Preswyl Bethany yng Nghas-gwent pan oedd yn 16 oed ac mae ei hyder, ei sgiliau a\u2019i ragolygon am yrfa oll wedi\u2019u trawsnewid trwy gymryd Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddarperir gan y darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT.<\/p>\n<p>Wrth wneud prentisiaeth mae Callum yn ennill arian wrth ddysgu ac mae&#8217;n cael y profiad ymarferol sydd mor bwysig i lawer o gyflogwyr yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae swyddi i&#8217;w cael mewn 23 o sectorau, yn amrywio o adeiladwr, triniwr gwallt, cogydd a chynorthwyydd deintyddol i beiriannydd, dadansoddwr seiberddiogelwch, ariannydd banc a gosodwr prif bibellau nwy. <\/p>\n<p>Cynigir prentisiaethau ar bedair lefel, gydag un yn addas i bob dysgwr, o Brentisiaeth Sylfaen sy\u2019n cyfateb i bum p\u00e0s TGAU, i Brentisiaeth Gradd sy\u2019n cyfateb i radd baglor lawn. Caiff prentisiaid ddysgu\u2019n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, caiff pobl ifanc elwa ar y Warant i Bobl Ifanc, sef adduned gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb o dan 25 oed yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, canfod swydd neu fynd yn hunangyflogedig.<\/p>\n<p>Gallant siarad \u00e2 Cymru\u2019n Gweithio, sy\u2019n cynnig cyngor diduedd am yrfaoedd yn ddi-d\u00e2l ac a all eu helpu i weld beth yw eu hopsiynau. Ewch i <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/dechrau-dy-stori\">cymrungweithio.llyw.cymru\/dechrau-dy-stori<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844 i gael gwybod rhagor.<\/p>\n<p>Mae Callum yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy ddewis prentisiaeth. Mae ei gyflogwr yn ei annog i symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 ar \u00f4l cwblhau ei gymhwyster presennol ac mae Callum yn awyddus i barhau i weithio yn y sector gofal.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau\u2019r bobl rwy\u2019n eu cefnogi, ac rwy\u2019n teimlo fy mod i wedi datblygu fel person ers i mi ddechrau fy mhrentisiaeth,\u201d meddai. \u201cMae fy nghyflogwr wedi rhoi\u2019r cyfle i mi dyfu yn fy ngwaith.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p> \u201cFy nod yn y pen draw yw symud i swydd uwch lle gallaf roi meddyginiaethau, arwain t\u00eem, delio ag argyfyngau a chysylltu \u00e2 gweithwyr proffesiynol allanol. Trwy weithio\u2019n galed, rwy\u2019n hyderus y gallaf i gyrraedd y nod hwn yn fy ngyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Emma Jones, asesydd Callum gydag ACT: \u201cMae Callum wedi meithrin cymaint o hyder a sgiliau ers iddo ddechrau ei brentisiaeth yn fachgen swil 16 oed. Mae\u2019r preswylwyr wrth eu bodd ag ef ac mae agwedd gefnogol iawn ei gyflogwr, sy\u2019n barod i roi hwb iddo, yn golygu ei fod yn ffynnu. <\/p>\n<p>Dywedodd Emily Jarvis, dirprwy reolwr Cartref Gofal Preswyl Bethany: \u201cCallum yw\u2019r prentis cyntaf i ni ei gyflogi sydd newydd adael yr ysgol, ond mae\u2019n sicr yn rhywbeth y bydden ni\u2019n ei wneud eto.<\/p>\n<p> \u201cMae\u2019n gwneud yn dda iawn, bob amser yn hapus ac yn llawn bywyd ac mae&#8217;n ffitio&#8217;n dda yn y t\u00eem. Rwy\u2019n credu bod prentisiaethau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn fuddiol iawn gan eu bod yn cynnig profiad go iawn yn y gweithle yn hytrach nag astudio yn yr ystafell ddosbarth.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymraeg.acttraining.org.uk\/?force=2\">acttraining.org.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/callum-fennell#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Gyda miloedd o bobl ifanc ledled Cymru&#8217;n disgwyl yn bryderus am eu canlyniadau TGAU a Lefel A y mis hwn, mae Callum Fennell sy&#8217;n weithiwr gofal wedi tynnu sylw at fanteision prentisiaeth i rai sy\u2019n gadael yr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/callum-fennell\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8675","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8675","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8675"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8675\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8869,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8675\/revisions\/8869"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8675"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8675"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8675"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}