{"id":8678,"date":"2022-12-12T08:00:23","date_gmt":"2022-12-12T08:00:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8678"},"modified":"2022-12-12T13:07:12","modified_gmt":"2022-12-12T13:07:12","slug":"ben-pittaway","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ben-pittaway\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau dwyieithog yn saern\u00efo gyrfa mewn gwaith coed"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ben-pittaway\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ben-pittaway\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Ben Pittaway yn gwneud Prentisiaeth ddwyieithog mewn Gwaith Coed gyda\u2019r nod o gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu.<\/p>\n<div id=\"attachment_15253\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Ben-Pittaway-2-e1666198123534.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15253\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Ben-Pittaway-2-e1666198123534.jpg\" alt=\"Ben standing in the workshop\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-15253\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15253\" class=\"wp-caption-text\">Mae\u2019r Llysgennad Prentisiaethau Ben Pittaway yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd Ben, 21, o Bort Talbot, brofiad fel plastrwr ar \u00f4l gadael yr ysgol ond penderfynodd ar \u00f4l ychydig y byddai gwaith coed yn ei siwtio\u2019n well a dechreuodd weithio i gwmni D. C. Carpentry and Joinery yn y dref dros ddwy flynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel 3 mewn Gwaith Coed ar Safle gyda City &#038; Guilds, wedi\u2019i chyflenwi gan Pathways Training, Gr\u0175p Colegau NPTC yn Abertawe.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yn y gwaith o fod yn brentis saer coed,\u201d meddai Ben. \u201cRwy\u2019n hoffi\u2019r rhyddid o weithio yn rhywle gwahanol bob dydd, cwrdd \u00e2 phobl wahanol a chael y cyfle i roi angerdd yn fy ngwaith.<\/p>\n<p>\u201cFues i\u2019n gwneud gwaith plastrwr am 18 mis ond sylweddolais nad dyna ro\u2019n i am ei wneud. Mae gen i lawer i\u2019w ddysgu o hyd ond rwy\u2019n edrych ymlaen at yrfa dda.\u201d<\/p>\n<p>Mae Ben wedi pasio cwrs i fod yn gymwys i osod drysau t\u00e2n o dan oruchwyliaeth ac mae\u2019n gobeithio dal i ddysgu sgiliau newydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ymfalch\u00efo ei fod wedi\u2019i ddewis yn Llysgennad Prentisiaethau ac meddai: \u201cMae siarad Cymraeg yn bwysig i mi achos y Gymraeg yw\u2019n hiaith genedlaethol ni. Rwy o blaid rhoi\u2019r cyfle i ddysgwyr wneud prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog. Mae fy asesydd, Wyn Williams, yn cynnal yr asesiadau yn ddwyieithog.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cOs oes rhywun yn ystyried gwneud prentisiaeth ddwyieithog, fy nghyngor i yw iddyn nhw fynd amdani. Dyna\u2019r ffordd orau o ddysgu popeth am y gwaith y byddwch yn ei wneud ac ennill cyflog ar yr un pryd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Mr Williams, sy\u2019n ddarlithydd gwaith coed yng Ngr\u0175p Colegau NPTC yn Abertawe, bod Ben wedi dechrau dysgu ar gwrs aml-grefft cyn dewis anelu am yrfa mewn gwaith coed.<\/p>\n<p>\u201cMae Ben yn gweithio\u2019n galed, mae\u2019n dysgu sgiliau\u2019n gyflym ac mae\u2019n cymryd camau breision ymlaen,\u201d meddai. <\/p>\n<p>Dywedodd Darren Cockings, rheolwr gyfarwyddwr D. C. Carpentry and Joinery: \u201cMae Ben yn ifanc, yn frwdfrydig ac mae\u2019n symud ymlaen yn dda \u00e2\u2019i grefft. Mae\u2019n gwneud gwaith amrywiol yn cynnwys gosod drysau t\u00e2n, ystafelloedd ymolchi a cheginau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n un o\u2019r ychydig bobl sy\u2019n siarad Cymraeg yn y busnes ond bydden ni\u2019n croesawu rhagor achos mae\u2019n lles i\u2019r busnes ac mae llawer o\u2019n cleientiaid yn awyddus i weithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.nptcgroup.ac.uk\/cy\/prentisiaethau\/\">nptcgroup.ac.uk\/cy\/prentisiaethau<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ben-pittaway#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ben Pittaway yn gwneud Prentisiaeth ddwyieithog mewn Gwaith Coed gyda\u2019r nod o gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu. Cafodd Ben, 21, o Bort Talbot, brofiad fel plastrwr ar \u00f4l gadael yr ysgol ond penderfynodd ar \u00f4l &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ben-pittaway\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8678","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8678","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8678"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8678\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9076,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8678\/revisions\/9076"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8678"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8678"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8678"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}