{"id":8681,"date":"2023-01-09T08:00:50","date_gmt":"2023-01-09T08:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8681"},"modified":"2022-11-29T04:42:20","modified_gmt":"2022-11-29T04:42:20","slug":"catrin-morgan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/catrin-morgan\/","title":{"rendered":"Agor meithrinfa yw breuddwyd Catrin sy\u2019n Llysgennad Prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/catrin-morgan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/catrin-morgan\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Wrth wneud prentisiaeth ddwyieithog, mae Catrin Morgan yn gwireddu ei huchelgais o weithio gyda phlant bach a hoffai agor ei meithrinfa ei hunan rhyw ddiwrnod.<\/p>\n<div id=\"attachment_15256\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Catrin-Morgan-1-e1666198541907.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15256\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Catrin-Morgan-1-e1666198541907.jpg\" alt=\"Catrin Morgan sitting by window\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-15256\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15256\" class=\"wp-caption-text\">Catrin Morgan, sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Mae Catrin, 18, o Bontarddulais, yn gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant (Ymarfer) gyda City &#038; Guilds, wedi\u2019i chyflenwi gan Pathways Training sy\u2019n rhan o Gr\u0175p Colegau NPTC. Mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch er mwyn gwireddu ei huchelgais.<\/p>\n<p>Dechreuodd mewn swydd ran-amser yng Nghylch Meithrin Pontarddulais yn Eglwys Gymunedol Bont Elim fis Medi diwethaf. Cyn hynny, roedd wedi gwneud cymhwyster Gofal Plant, Lefel 2 yng Ngholeg G\u0175yr, Abertawe gyda lleoliad ym meithrinfa Prifysgol Abertawe. <\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Catrin wedi\u2019i phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n mwynhau fy mhrentisiaeth yng Nghylch Meithrin Pontarddulais yn fawr,\u201d meddai Catrin, sydd hefyd \u00e2 swydd ran-amser yn siop Primark. \u201cRwy wedi bod eisiau gweithio gyda phlant erioed achos rwy wrth fy modd yn eu gweld yn datblygu ac yn gallu eu helpu.<\/p>\n<p>\u201cGobeithio y gallaf weithio fy ffordd i fyny i lefel uwch a chael swydd lawn amser yn y Cylch. Fy nod yw agor fy meithrinfa fy hunan rhyw ddiwrnod.\u201d<\/p>\n<p>Wrth s\u00f4n am ei r\u00f4l fel Llysgennad Prentisiaethau, dywedodd ei bod yn awyddus i roi gwybod i bobl am fanteision prentisiaethau a dwyieithrwydd.<\/p>\n<p>\u201cMae gwneud prentisiaeth yn ardderchog achos rwy\u2019n gallu dysgu mwy mewn diwrnod nag y byddwn i mewn wythnos yn y coleg,\u201d meddai Catrin. \u201cTrwy fod yn Llysgennad, rwy\u2019n gallu helpu i s\u00f4n wrth bobl eraill am fanteision dysgu yn y gweithle fel prentis os nad ydyn nhw\u2019n si\u0175r beth i\u2019w wneud.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy\u2019n credu bod gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi ac rwy\u2019n hoffi siarad a dysgu Cymraeg yn y Cylch.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae Eira Mainwaring, rheolwr Cylch Meithrin Pontarddulais, yn un o bedwar o staff sydd naill ai wedi gwneud prentisiaeth neu\u2019n gweithio tuag at un.<\/p>\n<p>\u201cMae Catrin wedi ffitio i mewn yn dda iawn ac mae\u2019r brentisiaeth yn gam tuag at weddill ei gyrfa,\u201d meddai. \u201cMae prentisiaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill cyflog wrth ennill cymhwyster a chael gwybod beth y mae swydd yn ei olygu mewn gwirionedd.<\/p>\n<p>\u201cFe ddechreuais i wirfoddoli ddeng mlynedd yn \u00f4l. Yna, fe wnes i brentisiaeth gyda\u2019r Mudiad Meithrin ac arweiniodd hynny at Brentisiaeth Uwch. Roedd y cyfle i wneud prentisiaeth a chael profiad ymarferol yn y gweithle yn ddewis gwych i mi.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Claire Quick, tiwtor ac asesydd Catrin o Pathways Training: \u201cMae Catrin yn nyddiau cynnar ei phrentisiaeth ac mae wedi gwneud yn dda iawn yn ei hasesiadau. Mae\u2019n gweithio gyda phlant dwy a thair oed ac mae ei sgiliau a\u2019i hyder yn datblygu gyda chefnogaeth Eira a\u2019i staff.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.nptcgroup.ac.uk\/cy\/prentisiaethau\/\">nptcgroup.ac.uk\/cy\/prentisiaethau<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/catrin-morgan#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Wrth wneud prentisiaeth ddwyieithog, mae Catrin Morgan yn gwireddu ei huchelgais o weithio gyda phlant bach a hoffai agor ei meithrinfa ei hunan rhyw ddiwrnod. Mae Catrin, 18, o Bontarddulais, yn gweithio tuag at Brentisiaeth ddwyieithog Lefel &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/catrin-morgan\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8681","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8681","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8681"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8681\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9075,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8681\/revisions\/9075"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8681"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8681"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8681"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}