{"id":8683,"date":"2023-01-16T08:00:40","date_gmt":"2023-01-16T08:00:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8683"},"modified":"2022-11-29T04:47:30","modified_gmt":"2022-11-29T04:47:30","slug":"cedron-sion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cedron-sion\/","title":{"rendered":"Cyfieithydd yn cyfuno Prentisiaeth Uwch a gwaith actio"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cedron-sion\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cedron-sion\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Cedron Sion wedi cytuno i fod yn Llysgennad Prentisiaethau wrth iddo gyfuno\u2019i waith fel cyfieithydd a\u2019i uchelgais ym myd actio.<\/p>\n<div id=\"attachment_15258\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Cedron-Sion-1-e1666198777752.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15258\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Cedron-Sion-1-e1666198777752.jpg\" alt=\"Cedron sitting at computer with headphones on.\" width=\"460\" height=\"322\" class=\"size-full wp-image-15258\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15258\" class=\"wp-caption-text\">Mae Cedron Sion, Llysgennad Prentisiaethau, yn cyfuno\u2019i waith fel cyfieithydd a\u2019i uchelgais ym myd actio.<\/p><\/div>\n<p>Rai misoedd ar \u00f4l cwblhau Gradd mewn Actio, cafodd Cedron, 26, o Borthmadog, ei dderbyn i wneud prentisiaeth mewn cyfieithu gyda\u2019r T\u00eem Gwasanaethau Cymraeg yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW\/AaGIC).<\/p>\n<p>  Ar \u00f4l ychydig fisoedd, cafodd swydd cyfieithydd llawn amser yn yr adran ac erbyn hyn mae\u2019n gweithio tuag at Dystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu (y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau). Cynigir y Brentisiaeth Uwch hon gan Agored Cymru a\u2019i chyflenwi trwy gyfrwng y Gymraeg gan Goleg G\u0175yr, Abertawe.<\/p>\n<p>Cyn gwneud gradd BA mewn Actio yn y Central School of Speech and Drama yn Llundain, roedd Cedron wedi dilyn blwyddyn o gwrs BA Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. <\/p>\n<p>Roedd y cwrs ym Mangor, ynghyd \u00e2\u2019r cwrs Lefel A Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, wedi cadarnhau ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. Dywed Cedron ei fod wedi mwynhau aildroedio\u2019r llwybr academaidd wrth weithio ar unedau\u2019r brentisiaeth. Maent yn ei ysgogi i ymchwilio i\u2019r gwahanol agweddau ar y proffesiwn cyfieithu, yn cynnwys elfennau moesegol, cymdeithasol-ddiwylliannol ac ieithyddol, meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n mwynhau\u2019r amrywiaeth,\u201d dywedodd. \u201cGall y gwaith gynnwys cyfieithu cofnodion, cyflwyniadau meddygol ac adnoddau addysgol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Brentisiaeth Uwch rwy\u2019n ei dilyn yn cynnwys unedau ymchwil sy\u2019n golygu tyrchu i wahanol haenau\u2019r proffesiwn ac felly ddod i ddeall fy ngwaith yn well.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n credu bod prentisiaeth yn ddull gwerthfawr o ddysgu mewn ffordd ymarferol, gan fireinio\u2019ch crefft wrth weithio.\u201d<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, penodwyd Cedron yn Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae wedi cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram er mwyn rhannu ei brofiadau a s\u00f4n am gyfleoedd i wneud prentisiaethau dwyieithog yng Nghymru. <\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cDwi wedi bod yn falch o fy etifeddiaeth Gymreig erioed, yn enwedig yr iaith,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n galonogol iawn cael gweithio mewn sefydliad sy\u2019n pwysleisio gwerth yr iaith Gymraeg yng Nghymru a\u2019r tu hwnt.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Huw Owen, rheolwr Gwasanaethau Cymraeg AaGIC: \u201cMae Cedron yn berson dawnus a chydwybodol iawn. Mae ei sgiliau yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg yn anhygoel. Mae\u2019n ddewis delfrydol i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Huw hefyd fod y galw am brentisiaethau a gwasanaethau dwyieithog yn AaGIC yn tyfu\u2019n gyflym. \u201cRydyn ni\u2019n gweld bod mwy a mwy o bobl ifanc yn holi am gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n ddyletswydd arnon ni i roi cyfleoedd i\u2019n staff i ddysgu yn eu dewis iaith.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Einir-Wyn Hawkins, asesydd a chydgysylltydd masnachol Coleg G\u0175yr, Abertawe, bod Cedron yn ddelfrydol i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cDros y blynyddoedd, rwy wedi ymdrechu i gynnwys elfen ddwyieithog ym mhob rhaglen os yw\u2019n ymarferol ac yn berthasol,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n bleser gweithio gyda Cedron. Mae ei Gymraeg ysgrifenedig a llafar a\u2019i waith ymchwil bob amser o safon uchel iawn ac mae\u2019n wych ei weld yn datblygu ei sgiliau fel cyfieithydd.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019n hyfryd cael y cyfle i drafod gyda chynrychiolwyr cyflogwr Cedron yn Gymraeg bob amser hefyd. Dyma\u2019r tro cyntaf i ni gyflawni pob agwedd ar y Brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bob cam o\u2019r ffordd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/aagic.gig.cymru\/\">aagic.gig.cymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cedron-sion#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Cedron Sion wedi cytuno i fod yn Llysgennad Prentisiaethau wrth iddo gyfuno\u2019i waith fel cyfieithydd a\u2019i uchelgais ym myd actio. Rai misoedd ar \u00f4l cwblhau Gradd mewn Actio, cafodd Cedron, 26, o Borthmadog, ei dderbyn i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cedron-sion\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8683","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8683","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8683"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8683\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9074,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8683\/revisions\/9074"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8683"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8683"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8683"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}