{"id":8685,"date":"2022-12-05T08:00:20","date_gmt":"2022-12-05T08:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8685"},"modified":"2022-11-29T15:57:32","modified_gmt":"2022-11-29T15:57:32","slug":"elen-lewis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/elen-lewis\/","title":{"rendered":"Elen, y Llysgennad Prentisiaethau, yn teimlo galwad i ofalu"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/elen-lewis\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/elen-lewis\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Elen Lewis yn datblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, diolch i Brentisiaeth Sylfaen ddwyieithog yng Nghartref Gofal Blaenmarlais, Arberth.<\/p>\n<p><div id=\"attachment_15382\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Elen-Lewis-1-scaled-e1669737222779.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15382\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Elen-Lewis-1-scaled-e1669737222779.jpg\" alt=\"Elen Lewis standing outside the care home in her uniform.\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-15382\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15382\" class=\"wp-caption-text\">Elen Lewis sy\u2019n Brentis.<\/p><\/div><\/strong><\/p>\n<p>Mae Elen, 19, sy\u2019n byw yn Arberth, yn teimlo galwad i ofalu a gallai ystyried hyfforddi i fod yn nyrs mewn ysbyty yn y dyfodol. <\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Elen wedi\u2019i phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Dechreuodd weithio yng Nghartref Gofal Blaenmarlais 18 mis yn \u00f4l, ar \u00f4l dilyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro.  Ar hyn o bryd, mae\u2019n gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy City &#038; Guilds, wedi\u2019i gyflenwi gan yr un coleg, ac mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3.<\/p>\n<p>Mae Elen yn hapus i siarad Cymraeg a Saesneg er mwyn gwella ei sgiliau iaith ac meddai: \u201cRwy\u2019n cael boddhad mawr yn fy swydd, yn gofalu am ein preswylwyr ac yn dod i&#8217;w nabod. Mae rhai ohonyn nhw\u2019n mwynhau cael sgwrs yn Gymraeg.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n falch o fod yn Llysgennad Prentisiaethau oherwydd, meddai, mae\u2019n rhoi cyfle iddi hybu\u2019r Gymraeg: \u201cMae prentisiaethau&#8217;n dda gan eu bod nhw\u2019n rhoi cyfle i bobl ennill cyflog wrth ddysgu. Dyna un o\u2019r prif resymau pam nad oedd gen i ddiddordeb mewn mynd i&#8217;r brifysgol.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn rhoi cyfle i ddysgu yn eich dewis iaith ac maen nhw&#8217;n annog pobl i ddefnyddio\u2019r Gymraeg, sy\u2019n bwysig.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cRydyn ni wedi siarad Cymraeg yn fy nheulu i ers cenedlaethau. Mae\u2019n iaith unigryw i\u2019n gwlad ni a dylid ei gwarchod.  Mae\u2019n fonws go iawn pan fyddwch chi\u2019n cael swydd sy&#8217;n rhoi cyfle i chi siarad Cymraeg a Saesneg.\u201d<\/p>\n<p>Helen Hill yw dirprwy reolwr Cartref Gofal Blaenmarlais, sydd \u00e2 22 o breswylwyr a 30 o staff, yn cynnwys pedwar prentis. Er mai dim ond dau o\u2019r preswylwyr sy\u2019n siarad Cymraeg, mae\u2019n credu ei bod yn bwysig iddyn nhw gael sgwrsio yn eu dewis iaith.<\/p>\n<p>\u201cR\u0177n ni&#8217;n hoffi rhoi\u2019r cyfle i\u2019n staff wneud prentisiaethau dwyieithog os ydyn nhw&#8217;n dymuno,\u201d meddai.  \u201cRwy\u2019n un o bum aelod o&#8217;r staff sy\u2019n siarad Cymraeg ac rwy&#8217;n falch o\u2019r iaith ac o fy nhreftadaeth.\u201d<\/p>\n<p>Mae Janice Morgan, swyddog datblygu\u2019r Gymraeg yng Ngholeg Sir Benfro, wedi cymryd r\u00f4l ychwanegol fel tiwtor cefnogi dwyieithrwydd, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.<\/p>\n<p>\u201cMae Elen yn Llysgennad Prentisiaethau rhagorol ac mae&#8217;n llawn sylweddoli pwysigrwydd defnyddio ei sgiliau Cymraeg yn y gwaith wrth siarad \u00e2 phreswylwyr a staff yn eu hiaith gyntaf,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.pembrokeshire.ac.uk\/course-category\/prentis\/?lang=cy\">pembrokeshire.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/elen-lewis#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Elen Lewis yn datblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, diolch i Brentisiaeth Sylfaen ddwyieithog yng Nghartref Gofal Blaenmarlais, Arberth. Mae Elen, 19, sy\u2019n byw yn Arberth, yn teimlo galwad i ofalu a gallai ystyried &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/elen-lewis\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8685","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8685","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8685"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8685\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9126,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8685\/revisions\/9126"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8685"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8685"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8685"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}