{"id":8689,"date":"2023-01-09T08:00:28","date_gmt":"2023-01-09T08:00:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8689"},"modified":"2022-11-29T05:01:36","modified_gmt":"2022-11-29T05:01:36","slug":"ella-davies","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ella-davies\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau\u2019n cael swydd ei breuddwydion gyda\u2019r Urdd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ella-davies\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ella-davies\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Ella Davies wedi cael swydd ei breuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon ar gyfer ysgolion a chymunedau yng Nghwm Rhondda, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, diolch i brentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru.<\/p>\n<div id=\"attachment_15260\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Ella-Davis-1-e1666199196617.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15260\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Ella-Davis-1-e1666199196617.jpg\" alt=\"Ella standing on a rugby pitch.\" width=\"460\" height=\"309\" class=\"size-full wp-image-15260\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15260\" class=\"wp-caption-text\">Ella Davies sy\u2019n brentis.<\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019r ferch 19 oed, o Ystrad Rhondda, wrth ei bodd yn gweithio gyda phlant fel rhan o\u2019i Phrentisiaeth mewn Datblygu Chwaraeon y mae\u2019n ei gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg gyda\u2019r Urdd. Cyn hynny, gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae Ella&#8217;n un o sylfaenwyr Fforwm Prentisiaethau\u2019r Urdd sydd wedi\u2019i gynllunio i gefnogi prentisiaid a thrafod pynciau fel iechyd meddwl, cydraddoldeb ac amrywiaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gweithio hefyd gyda chlybiau ac ysgolion ar gynllun i gael mwy o ferched a menywod ifanc rhwng wyth a 25 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.<\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, mae wedi\u2019i phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae Ella wedi cyfrannu at sesiwn feddiannu Instagram, a drefnwyd gan yr NTfW a\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu cyfleoedd Cymraeg i brentisiaid yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae&#8217;n gweithio gyda thua 50 o ysgolion yn ei hardal ac yn dweud ei bod wrth ei bodd yn y gwaith gan fod pob diwrnod yn wahanol. Llwyddodd i gael y brentisiaeth gyda\u2019r Urdd ym mis Medi 2020 ar \u00f4l gwneud cais am nad oedd yn awyddus i fynd i\u2019r brifysgol a\u2019i bod am ennill cyflog wrth ddysgu yn y gweithle.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n argymell prentisiaethau i fy mherthnasau ifanc pan fydda i&#8217;n siarad \u00e2 nhw ac rwy&#8217;n ceisio bod yn batrwm iddyn nhw,\u201d meddai Ella. Ar ddiwedd ei phrentisiaeth, hoffai barhau i weithio i\u2019r Urdd neu fynd yn athrawes ysgol gynradd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n barod iawn i argymell prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.  \u201cWrth symud ymlaen i fyd gwaith, rwy&#8217;n credu y dylai pobl gael y cyfle i ddefnyddio\u2019r iaith maen nhw wedi ei defnyddio yn yr ysgol a gartref,\u201d meddai.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy wedi bod yn frwd dros y Gymraeg erioed.  Roedd fy rhieni eisiau i mi gael addysg Gymraeg ac roedden nhw wrth eu bodd pan gefais i&#8217;r brentisiaeth gyda\u2019r Urdd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau\u2019r Urdd: \u201cMae Ella&#8217;n gwneud ei hail brentisiaeth gyda\u2019r Urdd ac mae&#8217;n aelod allweddol o\u2019r t\u00eem.  Mae hi hefyd yn batrwm gwych i brentisiaid yn eu blwyddyn gyntaf ac i eraill sy\u2019n ystyried gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/prentisiaethau\/\">urdd.cymru\/cy\/prentisiaethau<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ella-davies#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Ella Davies wedi cael swydd ei breuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon ar gyfer ysgolion a chymunedau yng Nghwm Rhondda, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, diolch i brentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru. Mae\u2019r ferch 19 oed, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ella-davies\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8689","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8689","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8689"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8689\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9073,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8689\/revisions\/9073"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8689"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8689"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8689"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}