{"id":8691,"date":"2022-12-05T08:00:06","date_gmt":"2022-12-05T08:00:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8691"},"modified":"2022-11-29T04:38:43","modified_gmt":"2022-11-29T04:38:43","slug":"gethin-evans-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans-2\/","title":{"rendered":"Hysbyseb deledu\u2019n dod ag enwogrwydd i Gethin, y Llysgennad Prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/gethin-evans-2\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans-2\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Gethin Evans, sy\u2019n brentis plymer, wedi dod i amlygrwydd ledled Cymru diolch i hysbyseb ar S4C yn hyrwyddo prentisiaethau.<\/p>\n<div id=\"attachment_15262\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Gethin-Evans-1-e1666201652446.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15262\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Gethin-Evans-1-e1666201652446.jpg\" alt=\"Gethin with his employer standing by the work van.\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-15262\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15262\" class=\"wp-caption-text\">Mae Gethin Evans, Llysgennad Prentisiaethau, wrth ei fodd \u00e2 gwaith plymer<\/p><\/div>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Gethin, 33, o Aberystwyth, wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau am yr ail flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>Yn ystod yr haf, mae Gethin, sy\u2019n gweithio i AHE (Aber Heating Engineers), yn gobeithio cwblhau ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi trwy City &#038; Guilds, wedi\u2019i chyflenwi gan Hyfforddiant Ceredigion.<\/p>\n<p>Trwy fod yn Llysgennad, mae\u2019n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, yn cynnwys i cyfle i ymddangos yn yr hysbyseb ar S4C. Cafodd yr hysbyseb sylw mawr gan iddi gael ei dangos yn ystod egwyl hanner amser un o g\u00eamau p\u00eal-droed Cymru. <\/p>\n<p>Mae wedi cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram a drefnir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a\u2019r NTfW lle mae\u2019n s\u00f4n am brentisiaethau a\u2019i swydd, yn aml mewn ffordd hwyliog a difyr. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n dweud wrth bawb nad dim ond pobl sydd newydd adael yr ysgol sy\u2019n gwneud prentisiaeth,\u201d meddai Gethin, a fu\u2019n gweithio gyda chwmni argraffu am 12 mlynedd cyn newid gyrfa er mwyn cynnal ei deulu.  \u201cRwy\u2019n enghraifft berffaith o hynny.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd \u00e2 gwaith plymer ac rwy\u2019n teimlo\u2019n gartrefol gydag AHE sy\u2019n eich cefnogi i symud ymlaen ac sy\u2019n gwmni da i weithio iddyn nhw. Rwy\u2019n mwynhau fy mhrentisiaeth achos rwy\u2019n dysgu sgiliau newydd. Mae tri ohonon ni wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen gyda\u2019n gilydd ac rydyn ni\u2019n bownsio syniadau rhwng y naill a\u2019r llall.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019n bwysig iawn bod cyfleoedd i wneud prentisiaethau\u2019n ddwyieithog lle bo modd. Mae prentisiaethau\u2019n wych achos does dim ffordd well o ddysgu\u2019ch crefft nag yn y gweithle.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi symud ymlaen i weithio ar brosiectau mwy o faint ac mae ganddo ei fan waith ei hunan. Mae&#8217;n mwynhau bod ar alwad gan fod hynny\u2019n gyfle i wella&#8217;i brofiad a&#8217;i sgiliau wrth orfod datrys gwahanol broblemau plymio a gwresogi ar ei ben ei hun.<\/p>\n<p>Gethin oedd yn gyfrifol am berswadio&#8217;i hen ffrind a chyn-gydweithiwr yn y cwmni argraffu, Sion Jones o Aberystwyth, i wneud prentisiaeth.  Mae Sion bellach yn gwneud yn dda fel saer coed ac mae yntau, fel Gethin, yn Llysgennad Prentisiaethau.<\/p>\n<p>Cafodd Gethin ei enwebu&#8217;n Llysgennad Prentisiaethau gan Annabel Cooper, asesydd gyda Hyfforddiant Ceredigion Training. <\/p>\n<p>\u201cMae Gethin yn dod ymlaen yn dda iawn ac mae\u2019n frwd iawn dros y Gymraeg a\u2019i brentisiaeth,\u201d meddai. \u201cMae wedi dangos y gallwch newid gyrfa\u2019n llwyddiannus beth bynnag yw eich oedran, gyda help prentisiaeth.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ceredigiontraining.co.uk\/hafan\/\">ceredigiontraining.co.uk\/hafan<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans-2#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Gethin Evans, sy\u2019n brentis plymer, wedi dod i amlygrwydd ledled Cymru diolch i hysbyseb ar S4C yn hyrwyddo prentisiaethau. Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Gethin, 33, o Aberystwyth, wedi\u2019i benodi\u2019n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gethin-evans-2\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8691","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8691"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9072,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8691\/revisions\/9072"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}