{"id":8696,"date":"2023-01-16T08:00:05","date_gmt":"2023-01-16T08:00:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8696"},"modified":"2022-11-29T05:06:59","modified_gmt":"2022-11-29T05:06:59","slug":"ifan-wyn-phillips-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips-2\/","title":{"rendered":"Yr iaith Gymraeg yn bwysig i Lysgennad Prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ifan-wyn-phillips-2\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips-2\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn hollbwysig er mwyn hybu\u2019r iaith ledled Cymru, yn \u00f4l y prentis trydanwr, Ifan Wyn Phillips.<\/p>\n<div id=\"attachment_15264\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/IFan-Phillips-1-e1666201788617.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15264\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/IFan-Phillips-1-e1666201788617.jpg\" alt=\"Ifan standing by work van.\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-15264\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15264\" class=\"wp-caption-text\">Y prentis, Ifan Wyn Phillips, wrth ei waith.<\/p><\/div>\n<p>Mae Ifan, 21 oed, o Grymych, Sir Benfro, yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gosodiadau Trydan trwy EAL, a gyflenwir yn ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro, ar \u00f4l cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen fis Medi diwethaf.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog, mae wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau am y drydedd flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae hefyd yn llysgennad y Gymraeg i Goleg Sir Benfro.<\/p>\n<p>Fis Hydref diwethaf, enillodd Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae\u2019r wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis at y bywyd a&#8217;r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaethau.<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. <\/p>\n<p>Yn rhinwedd ei benodiad yn Llysgennad, bu Ifan ym Mharc y Scarlets, Llanelli, yn siarad \u00e2 disgyblion ysgolion uwchradd am ei waith a manteision prentisiaethau. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram a drefnir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a\u2019r NTfW yn ystod yr Wythnos Brentisiaethau yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n mwynhau helpu i hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog ac roedd yn braf cael gwobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am fy ngwaith,\u201d meddai.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn bwysig iawn hysbysebu\u2019r iaith a\u2019i hyrwyddo er mwyn denu cymaint o bobl ag sy\u2019n bosibl i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019n cadw\u2019r iaith a\u2019r traddodiadau\u2019n fyw ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.&#8221;<\/p>\n<p>Ifan yw\u2019r drydedd genhedlaeth i weithio ym musnes y teulu, cwmni contractwyr trydan D. E. Phillips a\u2019i Feibion, a sefydlwyd yn Sir Benfro gan ei dad-cu. Mae\u2019n gweithio ar dai, busnesau a ffermydd.<\/p>\n<p>Dewisodd wneud prentisiaeth er mwyn ymuno \u00e2 busnes y teulu gan nad oedd y brifysgol yn apelio ato.  \u201cMae\u2019n well gen i weithio \u00e2 fy nwylo ac mae\u2019r brentisiaeth yn gyfle i weithio, dysgu ac ennill cyflog,\u201d esboniodd.<\/p>\n<p>Mae Coleg Sir Benfro\u2019n helpu Ifan ac eraill i barhau i ddysgu yn y Gymraeg. Mae aelod o\u2019r staff sy\u2019n siarad Cymraeg yn helpu \u00e2\u2019r adolygiadau ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr siarad Cymraeg.<\/p>\n<p>Mae Janice Morgan, swyddog datblygu\u2019r Gymraeg yn y Coleg, wedi cymryd r\u00f4l ychwanegol fel tiwtor cefnogi dwyieithrwydd, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.<\/p>\n<p>\u201cMae Ifan yn dal yn llysgennad gwych dros y Gymraeg ar ran y coleg ac mae\u2019n manteisio ar bob cyfle a gaiff. Dyna a arweiniodd at ennill y wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,\u201d meddai Janice. \u201cMae wedi dod yn fwy hyderus ers iddo gael ei benodi\u2019n Llysgennad y Gymraeg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.pembrokeshire.ac.uk\/course-category\/prentis\/?lang=cy\">pembrokeshire.ac.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips-2#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn hollbwysig er mwyn hybu\u2019r iaith ledled Cymru, yn \u00f4l y prentis trydanwr, Ifan Wyn Phillips. Mae Ifan, 21 oed, o Grymych, Sir Benfro, yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gosodiadau Trydan &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-wyn-phillips-2\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8696","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8696","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8696"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8696\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9071,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8696\/revisions\/9071"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8696"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8696"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8696"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}