{"id":8705,"date":"2023-01-16T08:00:21","date_gmt":"2023-01-16T08:00:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8705"},"modified":"2022-11-29T05:09:59","modified_gmt":"2022-11-29T05:09:59","slug":"kameron-harrhy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kameron-harrhy\/","title":{"rendered":"Llysgennad Prentisiaethau\u2019n symud o\u2019r dosbarth i ddysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/kameron-harrhy\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kameron-harrhy\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Ar \u00f4l pum mlynedd yn athro mewn ysgolion Cymraeg, cynradd ac uwchradd, mae Kameron Harrhy yn defnyddio\u2019i wybodaeth a\u2019i brofiad yn ei swydd newydd fel prentis gydag ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghaerdydd.<\/p>\n<div id=\"attachment_15296\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/kameron-harrhy-1-crop-e1666292465609.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15296\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/kameron-harrhy-1-crop-e1666292465609.jpg\" alt=\"Kameron standing by a whiteboard in the classroom.\" width=\"460\" height=\"293\" class=\"size-full wp-image-15296\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15296\" class=\"wp-caption-text\">Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Kameron Harrhy.<\/p><\/div>\n<p>Mae Kameron, 27, o\u2019r Coed-duon, yn gweithio ar ddatblygu cwricwla Cymraeg yn ACT er mwyn helpu ymarferwyr y cwmni a\u2019r dysgwyr sydd yn yr ysgol neu\u2019n cymryd rhan mewn hyfforddeiaethau a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae\u2019n cydweithio \u00e2 thimau o dan arweiniad Vicky Galloni, rheolwr datblygu cwricwla ACT a Non Wilshaw, rheolwr datblygu\u2019r Gymraeg, i ddatblygu cwricwla ac adnoddau dysgu, yn cynnwys ffilm, i ymwneud \u00e2 dysgwyr sy\u2019n cael y cyfle i ddysgu\u2019n ddwyieithog.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn sicrhau bod y dimensiwn Cymreig a diwylliant Cymru\u2019n cael eu cynnwys yn holl adnoddau dysgu\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>Er mwyn deall profiad y dysgwr yn well, mae Kameron yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu, trwy City &#038; Guilds, wedi\u2019i gyflenwi gan ACT, a dyfarniad asesydd.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae hefyd wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n arbenigo mewn datblygu yn yr iaith Gymraeg gan weithio\u2019n ddwyieithog,\u201d esboniodd Kameron, a gafodd radd gyfun mewn Cymraeg, a Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd yn athro. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig iawn fy mod i\u2019n gwneud prentisiaeth er mwyn dod i ddeall profiad y dysgwr. Mae\u2019n fy helpu i ganolbwyntio ar fy uchelgeisiau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd fod cael ei benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau\u2019n fater o falchder iddo a\u2019i fod yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o\u2019r cyfleoedd y mae prentisiaethau\u2019n eu rhoi i ddysgwyr. <\/p>\n<p>\u201cDydw i ddim yn meddwl y byddwn i\u2019n addas ar gyfer fy swydd bresennol pe na bawn i wedi bod ym myd addysg,\u201d meddai. \u201cMae gweld y cyfleoedd sydd ar gael ym myd dysgu seiliedig ar waith wedi bod yn agoriad llygad i mi.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cEr mwyn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae\u2019n hollbwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i ddysgu trwy eu dewis iaith. Dylen ni fod yn falch o gael hyrwyddo\u2019r Gymraeg fel iaith lewyrchus a ddefnyddir yn y gweithle.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Vicky Galloni fod Kameron wedi creu argraff ffafriol iawn yn ACT. \u201cMae\u2019n rhoi hwb i ni i sicrhau ein bod yn hollol ddwyieithog a\u2019n bod yn hyrwyddo\u2019r dimensiwn a\u2019r diwylliant Cymreig ac yn eu cynnwys yn ein holl adnoddau ac ym mhopeth a wnawn. <\/p>\n<p>\u201cACT yw\u2019r sefydliad hyfforddi cyntaf yng Nghymru i ddatblygu proses dderbyn hollol ddwyieithog ar gyfer y prentisiaid a bu gan Kameron ran flaenllaw yn hynny.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymraeg.acttraining.org.uk\/?force=2\">cymraeg.acttraining.org.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kameron-harrhy#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ar \u00f4l pum mlynedd yn athro mewn ysgolion Cymraeg, cynradd ac uwchradd, mae Kameron Harrhy yn defnyddio\u2019i wybodaeth a\u2019i brofiad yn ei swydd newydd fel prentis gydag ACT, darparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghaerdydd. Mae Kameron, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kameron-harrhy\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8705","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8705","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8705"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8705\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9069,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8705\/revisions\/9069"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8705"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8705"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8705"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}