{"id":8708,"date":"2023-01-09T08:00:03","date_gmt":"2023-01-09T08:00:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8708"},"modified":"2022-11-29T05:00:09","modified_gmt":"2022-11-29T05:00:09","slug":"sion-jones","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sion-jones\/","title":{"rendered":"Colli swydd yn hwb annisgwyl i Lysgennad Prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/sion-jones\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sion-jones\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Sion Jones, yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed.<\/strong><\/p>\n<div id=\"attachment_15270\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Sion-Jones-1-e1666281825179.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15270\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Sion-Jones-1-e1666281825179.jpg\" alt=\"Sion drilling timber frames.\" width=\"460\" height=\"330\" class=\"size-full wp-image-15270\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15270\" class=\"wp-caption-text\">Mae\u2019r Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Sion Jones, yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed.<\/p><\/div>\n<p>Pan gafodd Sion Jones ei wneud yn ddi-waith yn 2020 ar \u00f4l bod yn gabolwr yn y diwydiant argraffu am 19 o flynyddoedd, roedd yn hwb annisgwyl iddo.<\/p>\n<p>Dywed Sion, o Benparcau, Aberystwyth, sy\u2019n 37 ac yn dad i ddau, bod ansawdd ei fywyd wedi gwella\u2019n fawr a\u2019i fod yn hapusach o lawer ers iddo fynd yn brentis saer.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gweithio i Owen Evans, Saer Coed, yn Nhrisant, ger Aberystwyth ac yn gwneud Prentisiaeth Lefel 3 mewn Galwedigaethau Gwaith Coed trwy City &#038; Guilds, wedi\u2019i chyflenwi gan Hyfforddiant Ceredigion Training, ar \u00f4l cwblhau Prentisiaeth Sylfaen y llynedd.<\/p>\n<p>Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Sion wedi\u2019i benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRo\u2019n i\u2019n siomedig pan ges i fy ngwneud yn ddi-waith oherwydd ro\u2019n i\u2019n gweithio i\u2019r cwmni ers amser maith,\u201d meddai Sion. \u201cOnd, yn y diwedd, roedd yn hwb annisgwyl achos, er fy mod i\u2019n mwynhau\u2019r gwaith, doeddwn i ddim yn hapus yn gweithio shifftiau nos nac oriau hir oedd yn golygu nad oeddwn yn gweld llawer ar y teulu.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n difaru peidio \u00e2 dewis gwneud prentisiaeth mewn gwaith coed flynyddoedd yn \u00f4l. Rwy\u2019n hoffi rhoi cynnig ar DIY gartref ac ro\u2019n i\u2019n falch iawn o\u2019r cyfle i wneud prentisiaeth gydag Owen ar \u00f4l cael profiad o\u2019r gwaith am ddau fis yn ystod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r swydd mor hyblyg. Mae pob diwrnod yn wahanol, gan ein bod ni\u2019n gweithio ar wahanol safleoedd ac rwy gartref am 5 o\u2019r gloch gan amlaf. Pan o\u2019n i\u2019n gweithio yn y ffatri, roedd pob diwrnod yr un peth.\u201d<\/p>\n<p>Mae Sion wrth ei fodd o gael ei benodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau. Dywed mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf a bod ei deulu, ei gydweithwyr a llawer o\u2019i gwsmeriaid yn ei siarad.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi ac mae\u2019n braf cael ei defnyddio yn y gwaith,\u201d meddai. \u201cMae llawer o\u2019r bobl h\u0177n r\u0177n ni\u2019n gweithio gyda nhw yn teimlo\u2019n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cMae\u2019n braf iawn cael hyrwyddo\u2019r iaith a s\u00f4n am fy mhrentisiaeth a fy ngwaith. Mae prentisiaethau\u2019n wych achos r\u0177ch chi\u2019n gallu ennill cyflog tra byddwch chi\u2019n dysgu sgiliau newydd yn y gweithle. Beth bynnag yw\u2019ch oed, byddwch yn sicr yn elwa o brentisiaeth.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Craig Davies, cynghorydd hyfforddiant mewn gwaith coed gyda Hyfforddiant Ceredigion Training, bod Sion yn \u201cddysgwr eithriadol sy\u2019n dysgu gwybodaeth a sgiliau yn sydyn\u201d.<\/p>\n<p>\u201cMae Sion yn batrwm o\u2019r hyn y dylai dysgwr fod,\u201d meddai. \u201cRwy wedi dweud wrtho y dylai fod wedi mynd yn saer coed 20 mlynedd yn \u00f4l achos mae\u2019n grefftwr naturiol ac yn gweithio\u2019n galed.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ceredigiontraining.co.uk\/hafan\/\">ceredigiontraining.co.uk<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sion-jones#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Sion Jones, yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed. Pan gafodd Sion Jones ei wneud yn ddi-waith yn 2020 ar \u00f4l bod yn gabolwr yn y diwydiant argraffu am 19 o flynyddoedd, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sion-jones\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8708","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8708","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8708"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8708\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9070,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8708\/revisions\/9070"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8708"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8708"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8708"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}