{"id":8710,"date":"2022-12-12T08:00:57","date_gmt":"2022-12-12T08:00:57","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8710"},"modified":"2022-12-12T13:07:24","modified_gmt":"2022-12-12T13:07:24","slug":"sioned-williams","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sioned-williams\/","title":{"rendered":"Sioned yn Llysgennad sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/sioned-williams\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sioned-williams\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Sioned Williams yn Brentis Uwch sy\u2019n annog dysgwyr yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gyrfaoedd trwy gychwyn ar brentisiaeth.<\/p>\n<div id=\"attachment_15376\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Sioned-Williams-scaled-e1669697696717.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15376\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Sioned-Williams-scaled-e1669697696717.jpg\" alt=\"Apprentice Sioned Williams\" width=\"460\" height=\"391\" class=\"size-full wp-image-15376\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15376\" class=\"wp-caption-text\">Sioned Williams, Llysgennad Prentisiaethau, sy\u2019n frwd o blaid yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Sioned, 41, o Drawsfynydd, yw dirprwy reolwr Meithrinfa Twt Lol, Pentrefoelas ger Betws-y-coed, lle bu\u2019n gweithio ers saith mlynedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gwneud Prentisiaeth Uwch, Lefel 5 trwy gyfrwng y Gymraeg mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, trwy City &#038; Guilds, yn cael ei chyflenwi ar y cyd gan y Mudiad Meithrin a\u2019r Urdd.<\/p>\n<p>Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a\u2019r iaith Gymraeg, mae Sioned wedi\u2019i phenodi\u2019n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector \u00f4l-orfodol yng Nghymru ac mae\u2019r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cBeth bynnag yw eich oed a\u2019ch amgylchiadau, gallwch wneud beth bynnag y mynnwch trwy ddilyn prentisiaeth, os ydych yn ddigon penderfynol,\u201d meddai Sioned.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaeth yn ffordd o ddatblygu\u2019ch gyrfa yn y gweithle a chael eich talu wrth wneud hynny. Mae Lowri Jones yn gyflogwr ardderchog sydd wedi fy annog i wneud Prentisiaeth Uwch gan ei bod yn gwybod y bydd yn lles i\u2019r feithrinfa.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gallu bod yn anodd gweithio llawn amser, bod yn fam a gwneud Prentisiaeth Uwch ond dwi\u2019n dod i ben \u00e2 hi ac mae fy nhiwtoriaid yn dda iawn. Mae\u2019n bwysig achos mae cymaint o bethau y mae angen i mi eu gwybod wrth weithio mewn meithrinfa.\u201d<\/p>\n<p>Gan mai Cymraeg yw ei hiaith gyntaf, mae\u2019n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i\u2019w hyrwyddo, yn enwedig yn y gweithle. \u201cDwi\u2019n awyddus i warchod yr iaith Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru \u2013 maen nhw\u2019n bwysig i mi,\u201d meddai Sioned.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cOs na ddefnyddiwn ni\u2019r iaith, mae arna i ofn y bydd yn marw ymhen amser. Os gwnawn ni barhau i hyrwyddo prentisiaethau a chyrsiau Cymraeg a dwyieithog, mae\u2019n bosib iawn y gwnawn ni gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r feithrinfa, sy\u2019n gofalu am 56 o blant, yn hysbysebu am brentis arall ar hyn o bryd. <\/p>\n<p>Roedd Lowri Jones, perchennog Meithrinfa Twt Lol, yn llawn canmoliaeth i Sioned am weithio\u2019n galed a bod yn awyddus i wneud pethau\u2019n iawn. \u201cGan ei bod hi\u2019n arweinydd yn y feithrinfa, mae\u2019r brentisiaeth wedi dod yn eithaf naturiol iddi,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig iawn ei bod yn gwneud ei phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd ein hamgylchiadau. O\u2019r 56 o blant sydd ar y llyfrau, dim ond dau sy\u2019n dod o deuluoedd di-Gymraeg, a\u2019r ddau deulu\u2019n awyddus i\u2019w plant ddysgu Cymraeg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Esther Mary Jones, tiwtor ac asesydd Sioned o\u2019r Mudiad Meithrin: \u201cWrth wneud Prentisiaeth Uwch, Lefel 4 trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Sioned wedi cyfrannu\u2019n frwd at y gweithdai hyfforddi ac wedi dangos gwybodaeth a dealltwriaeth eang iawn yn holl dasgau\u2019r cwrs.  <\/p>\n<p>\u201cA hithau\u2019n cychwyn ar Brentisiaeth Uwch, Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, dwi\u2019n edrych ymlaen at weld Sioned yn dangos ei sgiliau wrth barhau ar ei thaith ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: \u201cMae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.\u201d  <\/p>\n<p>\u201cMae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio\u2019n ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Elin Williams, o\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: \u201cDyma\u2019r drydedd flwyddyn o\u2019r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu\u2019n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth. <\/p>\n<p>\u201cMae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella\u2019ch cyfleoedd ym myd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau\">gyrfacymru.llyw.cymru\/prentisiaethau<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/prentisiaethau\/\">urdd.cymru\/cy\/prentisiaethau<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sioned-williams#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Sioned Williams yn Brentis Uwch sy\u2019n annog dysgwyr yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gyrfaoedd trwy gychwyn ar brentisiaeth. Sioned, 41, o Drawsfynydd, yw dirprwy reolwr Meithrinfa Twt Lol, Pentrefoelas ger Betws-y-coed, lle bu\u2019n gweithio &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sioned-williams\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-8710","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8710","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8710"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8710\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9123,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8710\/revisions\/9123"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8710"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8710"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8710"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}