{"id":8731,"date":"2022-10-18T07:30:03","date_gmt":"2022-10-18T06:30:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8731"},"modified":"2022-10-17T19:13:19","modified_gmt":"2022-10-17T18:13:19","slug":"alw-oct22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-oct22\/","title":{"rendered":"Gallwch chi ddarganfod eich angerdd dros ddysgu a meithrin eich sgiliau \u2013 fel y gwnaeth Lucy!"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"english\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/alw-oct22\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-oct22\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Eleni, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru rhwng Hydref 17 a 23 a\u2019i nod yw ysbrydoli rhagor o bobl i ddarganfod angerdd dros ddysgu a meithrin eu sgiliau.<\/p>\n<div id=\"attachment_14885\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Lucy-Williams-cropped-e1662486676886.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-14885\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Lucy-Williams-cropped-e1662486676886.jpg\" alt=\"Lucy Williams sat at her office desk\" width=\"460\" height=\"342\" class=\"size-full wp-image-14885\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-14885\" class=\"wp-caption-text\">Lucy Williams, mae prentisiaethau wedi\u2019i helpu hi i ddod yn rheolwr gofal.<\/p><\/div>\n<p>Pobl fel Lucy Williams, 40 oed, o Dreharris. Cafodd bywyd Lucy ei drawsnewid wrth iddi ddatblygu o fod yn weithiwr ffatri di-waith heb gymwysterau i fod yn rheolwr gofal o fewn 14 blynedd, diolch i gymorth Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio pobl at gannoedd o gyrsiau di-d\u00e2l, ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, sesiynau profi, digwyddiadau, dyddiau agored ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac ar gael i bawb. Ewch i <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/?lang=cy\">adultlearnersweek.wales<\/a> i gael manylion llawn yr hyn a gynigir ym mis Hydref.<\/p>\n<p>Caiff oedolion gyfle i ddarganfod eu hangerdd dros ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella\u2019u hiechyd a\u2019u llesiant, datblygu eu gyrfa neu geisio cyngor ac arweiniad arbenigol i fanteisio ar ail gyfle a newid eu stori. <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau \u00e2\u2019u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr \u00e2 staff profiadol. <\/p>\n<p>Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy&#8217;n addas i bob dysgwr mewn 23 o sectorau.<\/p>\n<p>Roedd Lucy\u2019n oedolyn erbyn iddi ddarganfod ei hangerdd dros ddysgu a datblygu ei sgiliau. Erbyn hyn, mae\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau Uwch mewn Paratoi i Arwain a Rheoli (Lefel 4) a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 5).<\/p>\n<p>Mae wedi canfod yr union alwedigaeth iddi hi, diolch i gefnogaeth ac arweiniad y darparwr hyfforddiant Educ8 Training. Diolch i\u2019w hangerdd dros ddysgu, mae Lucy wedi llwyddo i ddringo i sicrhau swydd ei breuddwydion yn rheolwr gwasanaethau galwedigaethol gyda Values in Care. Ymunodd \u00e2\u2019r sector yn 26 oed ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cRoedd gen i ddiddordeb erioed mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ond wnes i osgoi\u2019r llwybr hwnnw gan fy mod i\u2019n meddwl bod rhaid cael cymwysterau,\u201d esboniodd Lucy. \u201cDoedd gen i ddim diddordeb yn yr ysgol ac fe adewais i heb yr un TGAU a mynd yn syth i weithio mewn ffatri. <\/p>\n<p>\u201cPan wnes i ddechrau fy NVQ, roedd yn teimlo\u2019n naturiol achos ro\u2019n i\u2019n dysgu rhywbeth roeddwn i\u2019n angerddol amdano. Mae\u2019n amlwg mai dyna\u2019r peth iawn i mi neu fyddwn i ddim yn dal yma nawr.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa achos mae&#8217;r holl wybodaeth a sgiliau rwy wedi&#8217;u dysgu trwy astudio wedi fy helpu i gyrraedd lle&#8217;r ydw i eisiau bod yn y cwmni. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Sandy Hale, asesydd gydag Educ8 Training, bod Lucy yn \u201cberson pobl sydd ag empathi a sgiliau cyfathrebu da\u201d.<\/p>\n<p>\u201cYn y sector gofal, mae llawer o reolwyr wedi gweithio&#8217;u ffordd i fyny ac, yn aml, maen nhw&#8217;n gweld gofynion academaidd Prentisiaeth Uwch yn eithaf anodd,\u201d meddai. \u201cNawr bod Lucy wedi cael dyrchafiad ac wrthi&#8217;n ffurfio timau newydd, mae\u2019n deall pa mor berthnasol a phwysig yw ehangu ei gwybodaeth a sut mae hynny\u2019n mynd i&#8217;w helpu yn ei gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Bydd dros 10,000 o oedolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr Wythnos Addysg Oedolion, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.<\/p>\n<p>Bydd cyngor ac arweiniad arbenigol ar gael am ailhyfforddi, cyfrifon dysgu personol, gofal plant, a cholli swydd ar wefan Cymru\u2019n Gweithio <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/\">Cymru&#8217;n Gweithio<\/a>.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-oct22#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Eleni, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru rhwng Hydref 17 a 23 a\u2019i nod yw ysbrydoli rhagor o bobl i ddarganfod angerdd dros ddysgu a meithrin eu sgiliau. Pobl fel Lucy Williams, 40 oed, o Dreharris. Cafodd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alw-oct22\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8731","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8731","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8731"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8731\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9054,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8731\/revisions\/9054"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8731"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8731"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8731"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}