{"id":8734,"date":"2022-09-22T07:30:12","date_gmt":"2022-09-22T06:30:12","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8734"},"modified":"2022-09-22T08:48:31","modified_gmt":"2022-09-22T07:48:31","slug":"alan-morgan-itec","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alan-morgan-itec\/","title":{"rendered":"Alan yn benderfynol o ddefnyddio\u2019i brofiad personol i helpu eraill"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><a href=\"#eng\"https:\/\/www.ntfw.org\/alan-morgan-itec\">English<\/a> | <a href=\"#cym\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alan-morgan-itec\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Gan fod Alan Morgan mor ddiolchgar am y gefnogaeth \u201cwych\u201d a gafodd pan oedd yn ddigartref, yn ddi-waith ac yn dioddef o iselder, mae\u2019n awyddus i helpu pobl eraill sy\u2019n wynebu yr un heriau.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019r Cynllun Ailddechrau, rhaglen gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, daeth Alan, 55 oed, i gysylltiad \u00e2\u2019r darparwr hyfforddiant Itec yn Abertawe a chael help i adfer ei frwdfrydedd, ei hyder a\u2019i synnwyr cyfeiriad.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae ar leoliad gwaith 16 wythnos fel derbynnydd yn y YMCA yn Abertawe, mae Alan wedi ymgeisio am swydd fel gweithiwr cymorth cynorthwyol yn yr hostel.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l bod yn ddigartref fy hunan a gweld sut mae\u2019n gallu digwydd, mae gen i syniad sut mae pobl yn teimlo ac rwy\u2019n awyddus i dalu yn \u00f4l,\u201d meddai Alan, sydd \u00e2 fflat yn yr Uplands, Abertawe erbyn hyn. <\/p>\n<p>\u201cMae sefyllfa pawb yn wahanol ond hoffwn i wneud rhywbeth i helpu pobl sydd mewn sefyllfa debyg i\u2019r man lle\u2019r oeddwn i. Rwy\u2019n hoffi sgwrsio \u00e2 phobl a\u2019u cynghori.\u201d<\/p>\n<p>Gadawodd Alan yr ysgol ag 11 Lefel O a dwy Lefel A a bu\u2019n gweithio i gwmni masnachwyr amaethyddol ac mewn swyddi gweinyddol i gwmn\u00efau siopau cyn treulio saith mlynedd fel paciwr gydag Amazon.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019n credu iddo ddechrau dioddef o iselder bum mlynedd yn \u00f4l. Wnaeth e ddim ceisio cymorth ac, ymhen tipyn, teimlai ei fod wedi colli rheolaeth. Collodd bob awydd a mynd mor ynysig fel na fyddai hyd yn oed yn ateb ei ff\u00f4n symudol.<\/p>\n<p>Mae Itec wedi helpu Alan i adennill ei hyder ar y Cynllun Ailddechrau. Cafodd help i weld ei wir botensial trwy bennu targedau personol a\u2019u cyflawni. Yn ogystal, cafodd gefnogaeth iechyd meddwl a chyngor ar ddyledion.<\/p>\n<p>Bu ar gyrsiau meithrin hyder, gwasanaethau cwsmeriaid a deall gofalwyr ifanc hefyd. Yn y gorffennol, roedd yn osgoi swyddi lle\u2019r oedd yn dod wyneb yn wyneb \u00e2 phobl ond, erbyn hyn, mae\u2019n mwynhau ei waith yn y dderbynfa gymaint nes ei fod wedi cynnig dal ati i wirfoddoli pan ddaw\u2019r lleoliad gwaith gyda\u2019r YMCA i ben, tan iddo gael swydd.<\/p>\n<p> \u201cMae fy mywyd yn well o lawer nawr nag y mae wedi bod ers 20 mlynedd,\u201d meddai Alan. \u201cMae gen i fflat hyfryd a chymdogion gwych.<\/p>\n<p>\u201cRoedd Debbie Jones a phawb yn Itec a\u2019r Ganolfan Waith yn ddymunol ac yn gefnogol. Roedd yn help mawr i mi gael diweddaru fy CV a chael help i weld y sgiliau sydd gen i. Roeddwn i bob amser yn teimlo\u2019n well ar \u00f4l ein cyfarfodydd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Alan yn llawn canmoliaeth i\u2019r gefnogaeth a gafodd gan y Cynllun Ailddechrau. Ei gyngor i bobl sy\u2019n wynebu heriau tebyg i\u2019r rhai a gafodd ef yw i \u201cgyfaddef eich problemau a gofyn am help\u201d.<\/p>\n<p>Mae Debbie Jones, cynghorydd cyflogaeth gydag Itec, wrth ei bodd bod pethau\u2019n mynd yn dda i Alan. \u201cMae ganddo rywle i fyw a swydd ac mae\u2019n hollol wahanol i\u2019r person oedd e pan gwrddais i ag e gynta \u2013 yn isel iawn ei ysbryd ac yn dioddef o orbryder,\u201d meddai.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy bob amser yn s\u00f4n am Alan fel enghraifft o rywun sydd wedi dal ati. Mae bob amser oleuni ym mhen draw\u2019r twnnel. Erbyn hyn mae e\u2019n helpu pobl eraill sy\u2019n ddigartref ac sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r Cynllun Ailddechrau\u2019n yn rhoi lefel uwch o gefnogaeth i bobl sy\u2019n ddi-waith ers amser hir ac sy\u2019n hawlio Credyd Cynhwysol, i\u2019w helpu i ailddechrau gweithio trwy chwalu rhwystrau i waith.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.itecskills.ac.uk\/\">Itec Skills and Employment<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alan-morgan-itec#top\">Back to top>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymraeg Gan fod Alan Morgan mor ddiolchgar am y gefnogaeth \u201cwych\u201d a gafodd pan oedd yn ddigartref, yn ddi-waith ac yn dioddef o iselder, mae\u2019n awyddus i helpu pobl eraill sy\u2019n wynebu yr un heriau. Diolch i\u2019r Cynllun Ailddechrau, rhaglen &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alan-morgan-itec\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8734","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8734","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8734"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8734\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8907,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8734\/revisions\/8907"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8734"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8734"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8734"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}