{"id":8912,"date":"2022-09-29T10:20:10","date_gmt":"2022-09-29T09:20:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8912"},"modified":"2022-09-29T10:20:06","modified_gmt":"2022-09-29T09:20:06","slug":"educ8-sept22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-sept22\/","title":{"rendered":"Educ8 yn Mynd i\u2019r Afael \u00e2\u2019r 5 Prif Fyth am Brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-sept22\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-sept22\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am brentisiaethau, mae llawer o gamsyniadau amdanynt o hyd. Ein bwriad ni yw chwalu\u2019r mythau hyn a phrofi bod prentisiaethau\u2019n gymhwyster gwerthfawr i bawb. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/WNS_220222_Educ8_Training_53-scaled-e1663865505427.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/WNS_220222_Educ8_Training_53-scaled-e1663865505427.jpg\" alt=\"Dau ddyn yn gweithio ar eu gliniaduron\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-15075\" \/><\/a><\/p>\n<p><strong>\u2018Dim ond ar gyfer sgiliau galwedigaethol, fel gwaith plymer neu drin gwallt mae prentisiaethau.\u2019<\/strong><\/p>\n<p>Er ei bod yn wir bod cyrsiau ar gyfer y mathau hyn o sgiliau, mae llawer mwy o gyfleoedd ar gael. Rydym yn cynnig prentisiaethau mewn Marchnata Digidol, Gweinyddu Busnes, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i enwi dim ond ychydig.<\/p>\n<p>Nid yw prentisiaeth yn eich cyfyngu i un sector neu alwedigaeth chwaith \u2013 mae prentisiaethau&#8217;n gyfle gwych i symud ymlaen yn eich gyrfa. Efallai&#8217;ch bod yn brentis Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 ac yn dewis gwneud prentisiaeth Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli, gan gymhwyso&#8217;r sgiliau trosglwyddadwy yr ydych wedi&#8217;u dysgu mewn bywyd go iawn. <\/p>\n<p>Dechreuodd Elinor Whitcombe ar brentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 3 cyn gynted ag y dechreuodd yn ei swydd fel cynghorydd recriwtio. Meddai, \u201cRoedd hyn o fantais i mi yn y swydd newydd gyffrous hon yn y brif swyddfa, ac yn gyfle i weithio tuag at ennill cymhwyster newydd ar yr un pryd. Mae&#8217;n bwysig iawn cymryd cymaint o gyfleoedd dysgu a datblygu ag y cewch eu cynnig wrth i&#8217;ch gyrfa ddatblygu gan ei fod yn gyfle i ehangu&#8217;ch sgiliau ac ychwanegu atynt.\u201d <\/p>\n<p><strong>\u2018Dydi prentisiaethau ddim yn arwain at swydd lawn-amser.\u2019<\/strong><br \/>\nMae prentisiaethau\u2019n rhoi hyfforddiant i chi wrth weithio. Yn \u00f4l data diweddar, mae\u2019r mwyafrif mawr yn aros mewn gwaith, yn aml gyda\u2019r un cyflogwr.<\/p>\n<p>Bu Hollie Kitson yn astudio ar gyfer tair prentisiaeth gydag ISA Training. Ers hynny, mae hi wedi gwibio ymlaen i yrfa lwyddiannus fel steilydd hunangyflogedig prysur, gan ennill gwobr Technegydd Lliw y Flwyddyn 2022 yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru. <\/p>\n<p>\u201cFe orffennais i fy mhrentisiaeth ddiwethaf tua blwyddyn yn \u00f4l. Ers hynny, rwy wedi bod yn brysur gyda chleientiaid ac mae fy llyfr yn llawn. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i ble rydw i nawr, yn gallu gweithio i mi fy hun ac wedi ennill y wobr, pe na bawn i wedi dilyn llwybr prentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p><strong>\u2018Pobl sy\u2019n methu mynd i\u2019r brifysgol sy\u2019n gwneud prentisiaethau\u2019<\/strong><br \/>\nMae prentisiaethau&#8217;n cynnig llwybr gwahanol i fyd gwaith ond dydyn nhw ddim yn llai gwerthfawr. Gall dysgu ymarferol fod yn llawer mwy addas na&#8217;r brifysgol i rai pobl, gyda chyfle i symud ymlaen yn gyflym yn eu gyrfa. <\/p>\n<p>Gellir astudio prentisiaethau ar sawl lefel \u2013 o brentisiaethau sylfaen i brentisiaethau uwch, ac maent yn addas ar gyfer pobl \u00e2 sgiliau ar bob lefel. Yn ogystal, bydd prentisiaid yn gadael gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd yr un mor werthfawr \u00e2 chymhwyster coleg neu brifysgol.<\/p>\n<p>Does dim i rwystro rhywun rhag gwneud prentisiaeth ar \u00f4l bod yn y brifysgol chwaith, fel y prentis Marchnata Digidol Carys Bradley-Roberts. <\/p>\n<p>\u201cFe benderfynais i wneud prentisiaeth oherwydd, er bod gen i radd a gradd meistr eisoes, does gen i ddim cymwysterau penodol ym maes marchnata. Mewn marchnad sy&#8217;n mynd yn fwyfwy cystadleuol, roeddwn i eisiau sicrhau fy mod yn sefyll allan.\u201d<\/p>\n<p><strong>\u2018Dydi prentisiaid ddim yn cael eu talu\u2019n dda.\u2019<\/strong><br \/>\nMae&#8217;ch cyflog fel prentis yn dibynnu ar y diwydiant, y lleoliad, a&#8217;r math o gymhwyster a ddewiswch. Mae rhai cyflogwyr yn talu&#8217;r isafswm ond mae llawer yn cynnig cyflog cystadleuol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, caiff prentisiaethau eu hariannu\u2019n llawn gan y llywodraeth, sy\u2019n golygu nad oes rhaid i brentisiaid dalu benthyciadau myfyrwyr na ffioedd dysgu, yn wahanol i fyfyrwyr prifysgol.<br \/>\nI Zenzy Flowers, roedd y cyfle i ennill cyflog wrth astudio yn amhrisiadwy. Meddai, \u201cDim ond 19 oed oeddwn i pan anwyd fy merch. <\/p>\n<p>Felly, er fy mod yn awyddus i gael addysg, roedd yn bwysig i mi allu darparu ar ei chyfer. Roedd gwneud prentisiaeth yn well na mynd i&#8217;r coleg i mi gan fy mod yn ennill cyflog wrth ddysgu. Roedd ennill cymhwyster, ochr yn ochr \u00e2 fy swydd, a chael fy nhalu ar yr un pryd, yn bwysig iawn pan oedd gen i blentyn ifanc yn y t\u0177.\u201d<\/p>\n<p><strong>\u2018Dim ond pobl ifanc 16-18 oed sy\u2019n gwneud prentisiaethau.\u2019<\/strong><br \/>\nEr mai pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol a dechrau gweithio yw llawer o brentisiaid, gall pobl o bob oed wneud prentisiaeth. Mae rhai pobl yn dilyn prentisiaeth er mwyn dysgu sgiliau newydd yn eu sector neu eu galwedigaeth, gan ychwanegu gwybodaeth newydd at eu profiad blaenorol. <\/p>\n<p>Pan oedd yn 26 oed, collodd Lucy Williams ei gwaith mewn ffatri. Doedd ganddi ddim cymwysterau na chynllun ar gyfer ei chamau nesaf. Gyda chymorth Educ8, canfu swydd oedd wrth ei bodd, gweithiwr cymorth, ac nid yw wedi edrych yn \u00f4l. 14 blynedd yn ddiweddarach, mae&#8217;n gweithio yn ei swydd ddelfrydol fel Rheolwr Gwasanaethau Galwedigaethol gyda Values in Care.<\/p>\n<p> \u201cErbyn hyn, rwy wedi symud ymlaen i astudio Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefel 5. Rydw i wedi cyrraedd y man lle&#8217;r ydw i eisiau bod yn y cwmni ond ro&#8217;n i&#8217;n awyddus i wneud y cwrs i weld beth all ei roi i mi. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.\u201d<\/p>\n<p>P\u2019un bynnag a yw prentis ar ddechrau ei yrfa neu\u2019n awyddus i symud ymlaen yn ei swydd bresennol, mae manteision prentisiaeth yn amlwg. Mae&#8217;r profiad ymarferol, gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a&#8217;r cyfle i fynd allan o&#8217;r ystafell ddosbarth a rhoi sgiliau ar waith yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>Cewch ddysgu mwy am Brentisiaethau gydag <a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/apprenticeships\">Educ8<\/a> heddiw!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-sept22#top\">Back to top>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am brentisiaethau, mae llawer o gamsyniadau amdanynt o hyd. Ein bwriad ni yw chwalu\u2019r mythau hyn a phrofi bod prentisiaethau\u2019n gymhwyster gwerthfawr i bawb. \u2018Dim ond ar gyfer &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-sept22\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-8912","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8912","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8912"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8912\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8947,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8912\/revisions\/8947"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8912"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8912"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8912"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}