{"id":8948,"date":"2022-09-30T08:00:01","date_gmt":"2022-09-30T07:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8948"},"modified":"2022-09-29T20:24:49","modified_gmt":"2022-09-29T19:24:49","slug":"aac2022-boglarka-tunde-incze","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-boglarka-tunde-incze\/","title":{"rendered":"Boglarka\u2019n brentis sy\u2019n gwneud gwahaniaeth fel gofalwr ar \u00f4l newid gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"welsh\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/AAC2022-Boglarka-Tunde-Incze\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/AAC2022-Boglarka-Tunde-Incze\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n helpu Boglarka-Tunde Incze, sy&#8217;n arweinydd t\u00eem gofal cartref, i wneud gwahaniaeth i fywydau\u2019r bobl y mae hi\u2019n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw.<br \/>\n<div id=\"attachment_15122\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-2-Boglarka-scaled-e1664478974920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15122\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-2-Boglarka-scaled-e1664478974920.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15122\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15122\" class=\"wp-caption-text\">Boglarka-Tunde Incze \u2013 mae prentisiaethau wedi helpu i newid ei gyrfa.<\/p><\/div><\/p>\n<p>O Hwngari y daw Boglarka ac mae\u2019n byw yng Nghymru gyda&#8217;i g\u0175r a&#8217;u dau blentyn ers chwe blynedd. I ddechrau, defnyddiodd y Radd Baglor mewn Cyfrifiadureg, a enillodd yn Rwmania, i weithio i gwmn\u00efau rhyngwladol.  Mae hi wedi cwblhau dwy flynedd o Radd Meistr mewn Dylunio Graffig a Diwydiannol hefyd. <\/p>\n<p>Fodd bynnag, er mwyn ennill mwy o arian i helpu i brynu cartref i&#8217;r teulu yng Nghymru, cymerodd swydd ychwanegol fel gofalwr rhan amser, gan gefnogi pobl yn eu cartrefi. Roedd yn mwynhau&#8217;r gwaith gymaint nes iddi newid gyrfa yn ystod y pandemig. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment ac mae&#8217;n awyddus i gymhwyso fel asesydd. <\/p>\n<p>Yn awr, i gydnabod ei llwyddiant, mae Boglarka wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae Boglarka, sy&#8217;n byw yn Llanrug, ger Caernarfon, yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf lle mae wedi rhoi cyngor gwerthfawr i helpu&#8217;r cwmni i gyflwyno model gofal newydd, gwell i gleientiaid. <\/p>\n<p>Bu&#8217;n gynorthwyydd gofal iechyd lliniarol gyda Marie Curie ers dros flwyddyn ac mae wedi cwblhau cyfres o gyrsiau i gynyddu ei sgiliau.  <\/p>\n<p>Mae&#8217;n dysgu Cymraeg hefyd ac wedi llwyddo yn ei harholiad lefel canolradd ar \u00f4l chwe blynedd gyda Dysgu Cymraeg ym Mangor.  Dywed bod dysgu Cymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar ei bywyd.<\/p>\n<p>Mae hi hefyd wedi cymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro ar 14 Tachwedd ac mae ar restr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 ar Dachwedd 10. <\/p>\n<p>\u201cDw i\u2019n frwd iawn ac yn awyddus i barhau \u00e2\u2019m taith ddysgu wrth i mi anelu at fod yn asesydd,\u201d meddai.  \u201cMewn swydd fel honno, dw i\u2019n credu y gallaf i wneud gwahaniaeth i bobl debyg i mi sydd eisiau dod i wybod ac i ddeall mwy am weithio mewn gofal. <\/p>\n<p>\u201cMae fy rhaglen ddysgu wedi bod o fudd i ddatblygu fy ngwybodaeth a fy sgiliau a bydd yn fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa broffesiynol.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae prentisiaethau wedi rhoi ail gyfle i mi \u2013 cyfle i ddatblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd fe ddechreuais i o ddim.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Lynn Kennedy, asesydd iechyd a gofal cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment: \u201cMae Boglarka&#8217;n berson hyfryd ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi. Mae hi\u2019n frwd iawn ac yn awyddus i ddal ati i ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Boglarka a phawb arall ar y rhestrau byrion gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/AAC2022-Boglarka-Tunde-Incze#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaethau\u2019n helpu Boglarka-Tunde Incze, sy&#8217;n arweinydd t\u00eem gofal cartref, i wneud gwahaniaeth i fywydau\u2019r bobl y mae hi\u2019n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw. O Hwngari y daw Boglarka ac mae\u2019n byw yng Nghymru gyda&#8217;i &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-boglarka-tunde-incze\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8948","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8948","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8948"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8948\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8951,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8948\/revisions\/8951"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8948"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8948"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8948"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}