{"id":8952,"date":"2022-09-30T08:00:29","date_gmt":"2022-09-30T07:00:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8952"},"modified":"2022-09-29T20:52:04","modified_gmt":"2022-09-29T19:52:04","slug":"aac-2022-malgorzata-bienko","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-malgorzata-bienko\/","title":{"rendered":"Prentis yn rhannu ei diwylliant Pwylaidd \u00e2 phlant bach yn Llandudno"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/AAC-2022-malgorzata-bienko\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/AAC-2022-malgorzata-bienko\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae prentis o Wlad Pwyl wedi goresgyn rhwystrau iaith a nam ar y clyw gan ddod yn aelod gwerthfawr o\u2019r t\u00eem mewn lleoliad i blant cyn oed ysgol yn y gogledd.<\/p>\n<div id=\"attachment_15125\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-1-Malgorzata-e1664480509476.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15125\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-1-Malgorzata-e1664480509476.jpg\" alt=\"Malgorzata Bienko sitting in playground with her tutor.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15125\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15125\" class=\"wp-caption-text\">Malgorzata Bienko gyda Jamie Norris o Hyfforddiant Arfon Dwyfor.<\/p><\/div>\n<p>Mae Malgorzata Bienko, 41, yn gweithio yn School Lane Preschool yn Llandudno, lle mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a ddarperir gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor Cyfyngedig.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gweithio am gyfnod yn y sector gofal cymdeithasol, mae hi wedi addasu\u2019n gyflym i weithio gyda phlant bach ac mae wrth ei bodd \u00e2\u2019i swydd lle caiff ei hannog i rannu diwylliant a thraddodiadau Gwlad Pwyl.  Mae hi hefyd yn helpu plant Pwylaidd yn y feithrinfa.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Malgorzata wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Dywed Malgorzata, sydd \u00e2 mewnblaniad clyw, ei bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth y rheolwr Sandie Cox, ei chydweithwyr a&#8217;r asesydd hyfforddiant Jamie Norris i&#8217;w helpu i gyflawni ei Phrentisiaeth Sylfaen.<\/p>\n<p>\u201cWrth gwblhau\u2019r brentisiaeth, dw i wedi dod yn aelod cymwysedig o\u2019r staff ac dw i\u2019n ceisio rhoi popeth dw i wedi\u2019i ddysgu ar waith er mwyn rhoi gwasanaeth o safon uchel i blant a\u2019u teuluoedd,\u201d meddai. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cDw i&#8217;n gwerthfawrogi\u2019r wybodaeth a\u2019r profiad a gefais drwy gydol y brentisiaeth gan eu bod yn cyfrannu at fy natblygiad personol.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>&#8220;Mae\u2019r hyfforddiant wedi agor fy meddwl ac wedi ehangu fy nealltwriaeth o bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar a r\u00f4l chwarae yn natblygiad plentyn.  <\/p>\n<p>\u201cMae bod yn weithiwr gofal plant yn gyfrifoldeb mawr ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo Menai a Gradd BA mewn Darlunio o Brifysgol Glynd\u0175r yn Wrecsam, mae Malgorzata yn cyfuno ei sgiliau artistig \u00e2&#8217;i gwybodaeth am ddatblygiad plant wrth weithio gyda phlant ar brosiectau celf a chrefft. <\/p>\n<p>Roedd gan Sandie ganmoliaeth i Malgorzata, sy\u2019n fam i dri o blant, am ei gwaith caled yn cyflawni\u2019r Brentisiaeth Sylfaen, gan oresgyn rhwystrau iaith a nam ar y clyw wrth wneud hynny. <\/p>\n<p>\u201cMae hi wir wedi rhoi ei chalon a\u2019i henaid ynddo,\u201d meddai.  \u201cMae\u2019n mynychu pob cwrs yn y gweithle ac, erbyn hyn, mae&#8217;n aelod cymwysedig ac yn rhan hanfodol o\u2019r t\u00eem. <\/p>\n<p>\u201cMae Malgorzata yn dod \u00e2\u2019i diwylliant i\u2019r gwaith hefyd, gan ddathlu gwahanol draddodiadau Pwylaidd ac mae hynny wedi ein helpu ni i ddathlu amrywiaeth gyda\u2019r plant.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Malgorzata a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/AAC-2022-malgorzata-bienko#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentis o Wlad Pwyl wedi goresgyn rhwystrau iaith a nam ar y clyw gan ddod yn aelod gwerthfawr o\u2019r t\u00eem mewn lleoliad i blant cyn oed ysgol yn y gogledd. Mae Malgorzata Bienko, 41, yn gweithio &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-malgorzata-bienko\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8952","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8952","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8952"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8952\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8954,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8952\/revisions\/8954"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8952"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8952"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8952"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}