{"id":8955,"date":"2022-09-30T08:15:36","date_gmt":"2022-09-30T07:15:36","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8955"},"modified":"2022-09-29T21:05:47","modified_gmt":"2022-09-29T20:05:47","slug":"aac-2022-olivia-headley-grant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-olivia-headley-grant\/","title":{"rendered":"Canmoliaeth loyw i gyfraniad Olivia, sy\u2019n brentis, i\u2019r bwrdd iechyd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac-2022-olivia-headley-grant\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-olivia-headley-grant\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae gan brentis o&#8217;r enw Olivia Headley-Grant uchelgais heintus i wneud pethau\u2019n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn ei th\u00eem ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro. <\/p>\n<div id=\"attachment_15128\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-OLIVIA-HEADLEY-GRANT-e1664481425879.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15128\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-OLIVIA-HEADLEY-GRANT-e1664481425879.jpg\" alt=\"Olivia sat at her desk\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15128\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15128\" class=\"wp-caption-text\">Olivia Headley-Grant \u2013 uchelgais heintus yn y bwrdd iechyd.<\/p><\/div>\n<p>Dyna farn Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy\u2019n dweud: \u201cMae Olivia\u2019n sefyll allan oherwydd ei gwaith caled, ei hymroddiad, ei gallu i addasu a\u2019i pharodrwydd i gyflawni mwy.  Mae ein t\u00eem, a&#8217;r GIG, yn well oherwydd y rhan hanfodol y mae Olivia yn ei chwarae.\u201d<\/p>\n<p>Ymunodd Olivia, 18, o\u2019r Barri, \u00e2 th\u00eem y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym maes cynllunio strategol fel prentis yn ystod y pandemig a chwblhaodd Brentisiaeth Sylfaen City &#038; Guilds mewn Gweinyddu Busnes, a ddarparwyd gan Goleg Caerdydd a\u2019r Fro, ym mis Tachwedd y llynedd.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Olivia wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae Olivia wedi creu argraff ar bawb gyda\u2019i gwaith i\u2019r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer y GIG, awdurdodau lleol a\u2019r trydydd sector i helpu i wella profiad pobl o ofal trwy wasanaethau cydgysylltiedig.<\/p>\n<p>Er iddi orfod gweithio o bell yn ystod y pandemig, mae Olivia wedi ffynnu yn ystod ei phrentisiaeth.  Cyfrannodd at Brotocol Pontio Anableddau Dysgu Caerdydd a\u2019r Fro a\u2019r Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol (ROF), sy\u2019n casglu data gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i daflu goleuni ar yr effaith a g\u00e2nt ar bobl ledled y rhanbarth. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l sicrhau swydd barhaol fel cynorthwyydd gweinyddol, gofynnwyd i Olivia gynorthwyo i reoli dyddiadur cyfarwyddwr a chafodd hi a\u2019i th\u00eem eu henwebu ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth staff y bwrdd iechyd. <\/p>\n<p>Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg oherwydd pwysigrwydd yr iaith yn y GIG a&#8217;i bartneriaid, wrth iddi fynd ati i ddatblygu ei gyrfa.<\/p>\n<p>\u201cO ganlyniad i fy mhrofiad ar y brentisiaeth, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn rheoli prosiectau,\u201d meddai.  \u201cRwy\u2019n bwriadu dilyn cwrs mewn rheoli prosiectau, fel PRINCE2, yn y dyfodol agos.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Cath yn awyddus i ganmol Olivia am feithrin perthynas gref \u00e2\u2019r t\u00eem, arweinwyr gwasanaethau ac arweinwyr gweithredol ar draws y GIG ac awdurdodau lleol.  <\/p>\n<p>\u201cBu&#8217;n bleser pur gweld Olivia&#8217;n tyfu i fod yn aelod hyderus o&#8217;r staff ac yn uchel iawn ei pharch,\u201d meddai.  \u201cMae\u2019n herio\u2019i hun yn gyson i wneud pethau\u2019n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon \u2013 mae ei huchelgais yn heintus ac mae wedi sbarduno\u2019r t\u00eem i wneud yn well hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Olivia a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod ei thymor presennol.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-olivia-headley-grant#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gan brentis o&#8217;r enw Olivia Headley-Grant uchelgais heintus i wneud pethau\u2019n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn ei th\u00eem ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro. Dyna farn Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-olivia-headley-grant\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8955","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8955","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8955"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8955\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8956,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8955\/revisions\/8956"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8955"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8955"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8955"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}