{"id":8957,"date":"2022-10-04T08:00:02","date_gmt":"2022-10-04T07:00:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8957"},"modified":"2022-09-30T14:16:54","modified_gmt":"2022-09-30T13:16:54","slug":"kiera-dwyer","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kiera-dwyer\/","title":{"rendered":"Kiera\u2019n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/kiera-dwyer\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kiera-dwyer\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae technegydd fferyllol o&#8217;r enw Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon.<\/p>\n<div id=\"attachment_15131\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-Kiera-Dwyer-app-awards-18-e1664542375354.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15131\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-Kiera-Dwyer-app-awards-18-e1664542375354.jpg\" alt=\"Kiera Dwyer in work\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15131\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15131\" class=\"wp-caption-text\">Kiera\u2019n goresgyn anawsterau gan wneud prentisiaeth er mwyn helpu cleifion.<\/p><\/div>\n<p>Mae Kiera, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, sydd \u00e2 Syndrom Asperger ac Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy\u2019n rhan o gr\u0175p Avicenna, i ymdrin \u00e2 chleifion. O ganlyniad i hyn, mae&#8217;r fferyllfa wedi cael sg\u00f4r o hyd at 100% gan gleifion.<\/p>\n<p>Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy\u2019r corff dyfarnu Pearson, a City &#038; Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth. <\/p>\n<p>Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chefnogaeth ALS Training.<\/p>\n<p>I gydnabod ei hymroddiad i ddysgu, mae Kiera wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Er mwyn dod dros y straen gweledol a achosir wrth ddarllen testun ar bapur gwyn, buddsoddodd Kiera mewn pad Irlen Pukka porffor ac ailysgrifennu darnau hanfodol o wybodaeth yr oedd angen iddi eu hadolygu. Roedd hyn yn golygu ei bod yn gallu rhoi&#8217;r gorau i weithio ar amser rhesymol yn hytrach na bod wrth y gwaith tan 3am.<\/p>\n<p>Dechreuodd ar ei phrentisiaeth ychydig cyn y pandemig a daliodd ati i weithio ar reng flaen y GIG yn y fferyllfa i sicrhau bod cleifion yn derbyn meddyginiaethau hanfodol. <\/p>\n<p>Yn ogystal ag ymdopi \u00e2&#8217;r pandemig, bu&#8217;n rhaid i Kiera ddelio \u00e2 nifer o ddigwyddiadau teuluol trawmatig, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi. Er gwaethaf hyn, ni chollodd yr un o ddyddiadau cau ei chymwysterau.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i eisiau gwneud prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso\u2019r wybodaeth rydw i\u2019n ei dysgu, yn cynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau\u2019n gweithio mewn gwahanol ffyrdd,\u201d esboniodd Kiera.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cFe wnes i oresgyn llawer o rwystrau i gwblhau fy mhrentisiaeth ac roedd anawsterau&#8217;n fy wynebu o\u2019r cychwyn cyntaf. Er gwaethaf hyn, llwyddais i gyrraedd yr ochr draw gan gwblhau fy nghymwysterau BTEC ac NVQ yn ogystal \u00e2 fy mhrentisiaeth.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Rhiannon Burke, rheolwr yn Fferyllfa Sheppards: \u201cMae Kiera wedi rhoi ei chefnogaeth gyson i&#8217;r fferyllfa trwy dynnu\u2019r pwysau oddi ar y fferyllwyr a helpu i leihau eu llwyth gwaith nhw. <\/p>\n<p>\u201cMae hi\u2019n haeddu cael ei chydnabod am fod yn benderfynol, yn ymroddedig a dangos ymrwymiad, ac am fod mor fedrus wrth ennill ei chymhwyster.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Kiera a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.alstraining.org.uk\/apprenticeships\/?force=1\">ALS Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kiera-dwyer#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae technegydd fferyllol o&#8217;r enw Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon. Mae Kiera, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, sydd \u00e2 Syndrom Asperger &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kiera-dwyer\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8957","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8957"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8959,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8957\/revisions\/8959"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8957"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8957"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}