{"id":8960,"date":"2022-10-04T08:00:50","date_gmt":"2022-10-04T07:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8960"},"modified":"2022-09-30T15:53:50","modified_gmt":"2022-09-30T14:53:50","slug":"aac-2022-dion-evans","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-dion-evans\/","title":{"rendered":"Blwyddyn dda i asiedydd sy\u2019n cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac-2022-dion-evans\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-dion-evans\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae asiedydd dawnus o Geredigion, Dion Evans, yn mwynhau blwyddyn gofiadwy wrth iddo edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd.<\/p>\n<div id=\"attachment_15135\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-App-Awards-Dion-Evans-47-e1664544862892.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15135\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-App-Awards-Dion-Evans-47-e1664544862892.jpg\" alt=\"Dion working on a wood project.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15135\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15135\" class=\"wp-caption-text\">Mae Dion Evans yn mwynhau blwyddyn gofiadwy.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd Dion, 19, sy\u2019n gweithio i Alwyn Evans Cyf ym mhentref Talgarreg, Llandysul, fedal aur i gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth i asiedyddion yng Nghaeredin, ar \u00f4l ennill medal efydd y llynedd.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;n un o dri sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, ar \u00f4l cwblhau Prentisiaeth City &#038; Guilds mewn Gwaith Asiedydd o Goleg Ceredigion a Choleg Sir G\u00e2r.<\/p>\n<p>Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Dechreuodd Dion weithio i Alwyn Evans yn 14 oed yn ei amser hamdden a neidiodd ar y cyfle i ymuno \u00e2\u2019r busnes ar brentisiaeth pan adawodd yr ysgol gydag 14 TGAU. <\/p>\n<p>Gyda&#8217;i gyfraniad ef, mae llwyth gwaith ac elw\u2019r busnes wedi codi 20 y cant ac mae wedi rhyddhau Alwyn i gymryd mwy o waith, sy\u2019n cynnwys gwneud cabinetau wedi&#8217;u cynllunio&#8217;n bwrpasol a grisiau. <\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 dysgu\u2019r sgiliau angenrheidiol i wneud fy ngwaith, mae fy mhrentisiaeth wedi gwneud i mi herio fy hun ymhellach drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ac ymdrechu i gyrraedd safon uwch,\u201d meddai Dion. \u201cRwy wedi datblygu llawer fel crefftwr ac fel person.<\/p>\n<p>\u201cMae cymryd rhan yn rowndiau terfynol gornestau cenedlaethol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK wedi bod yn brofiad gwych ac yn hwb mawr i fy hyder, gan roi ffordd newydd o feddwl i mi a ffordd fwy modern o weithio. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019r hyn rydw i wedi\u2019i ddysgu yn ystod fy mhrentisiaeth, ynghyd \u00e2\u2019r gefnogaeth a\u2019r anogaeth a gefais gan Alwyn, wedi fy helpu i fod yn grefftwr medrus a llwyddiannus yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ei nod yn y pen draw yw rhedeg ei fusnes ei hun, ac mae eisoes wedi sefydlu gweithdy yn ei gartref lle mae&#8217;n gwneud dodrefn gardd i&#8217;w llogi ar gyfer digwyddiadau.<\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, aeth Dion a\u2019i chwaer, Cara, ati i feicio 75 milltir a cherdded 18 milltir gan godi \u00a317,609 at yr uned cemotherapi yn Ysbyty Glangwili er cof am eu mam a fu farw, gwaetha&#8217;r modd, pan oedd Dion yn wyth oed. <\/p>\n<p>Dywedodd Alwyn Evans: \u201cMae Dion wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fy nghwmni dros y blynyddoedd. Mae&#8217;n ddyn ifanc dibynadwy a phenderfynol iawn sydd bob amser yn anelu at berffeithrwydd ym mhob tasg. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch iawn o\u2019r hyn y mae Dion wedi\u2019i gyflawni a\u2019r ffordd y mae\u2019n ei herio\u2019i hun bob amser i gyflawni mwy.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Dion a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ceredigion.ac.uk\/index.php\/cy\/prentisiaeth\">Coleg Ceredigion<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.colegsirgar.ac.uk\/index.php\/cy\/prentisiaethau\">Coleg Sir G\u00e2r<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dion-evans#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae asiedydd dawnus o Geredigion, Dion Evans, yn mwynhau blwyddyn gofiadwy wrth iddo edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd. Enillodd Dion, 19, sy\u2019n gweithio i Alwyn Evans Cyf ym &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-dion-evans\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8960","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8960","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8960"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8960\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8964,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8960\/revisions\/8964"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8960"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8960"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8960"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}