{"id":8965,"date":"2022-10-04T08:00:27","date_gmt":"2022-10-04T07:00:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8965"},"modified":"2022-09-30T16:17:19","modified_gmt":"2022-09-30T15:17:19","slug":"aac-2022-james-matthewman","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-james-matthewman\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n helpu James i yrru ei yrfa ymlaen yng Nghlwb Golff Maesteg"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"english\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac-2022-james-matthewman\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-james-matthewman\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae James Matthewman wedi gwneud strocen feistrolgar wrth ddewis gwneud prentisiaeth yng Nghlwb Golff Maesteg.<\/p>\n<div id=\"attachment_15140\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-James-Matthewman-App-Awards-21-e1664550500334.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15140\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Press-pic-James-Matthewman-App-Awards-21-e1664550500334.jpg\" alt=\"James Matthewman on the golf course\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15140\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15140\" class=\"wp-caption-text\">James Matthewman, mae ei yrfa\u2019n blodeuo diolch i brentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Tir Chwaraeon a Garddwriaeth, a ddarparwyd gan Goleg Pen-y-bont, mae wedi\u2019i ddyrchafu\u2019n ddirprwy brif ofalwr y maes ac wedi ennill ysgoloriaeth gan y British and International Golf and Greenkeepers Association (BIGGA), i gydnabod ei ddatblygiad proffesiynol parhaus.  <\/p>\n<p>Mae James, 36, o Faesteg, yn falch iawn o\u2019r ysgoloriaeth, un o ddim ond pump a ddyfarnwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Yn ogystal, cafodd ei enwi\u2019n Ddysgwr y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith gan Goleg Pen-y-bont \u2013 y wobr gyntaf iddo ei hennill erioed \u2013 am ennill cymhwyster cysylltiedig \u00e2&#8217;i brentisiaeth mewn Saesneg a Mathemateg. <\/p>\n<p>Mae ei awydd i ddysgu&#8217;n parhau ac mae&#8217;n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli gyda\u2019r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ac yn gwella ei Gymraeg.<\/p>\n<p>I gydnabod ei lwyddiant, mae James wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae James yn hyrwyddo Clwb Golff Maesteg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynhyrchu fideos tiwtorial i ddangos gwelliannau i\u2019r cwrs a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hynny wedi helpu i gynyddu&#8217;r aelodaeth o 300 i fwy na 500. <\/p>\n<p>Oherwydd y llwyddiant hwn, cafodd ei benodi i redeg cyfrif cyfryngau cymdeithasol adran De Cymru o BIGGA. Mae hynny wedi arwain at fwy o rwydweithio gyda cheidwaid y meysydd mewn clybiau golff eraill. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae gofalu am feysydd golff yn gofyn am lawer o sgiliau a gallwch gael boddhad mawr o&#8217;r gwaith, ond mae llawer iawn i&#8217;w ddysgu hefyd,\u201d meddai.  \u201cDyna pam roeddwn i\u2019n meddwl bod llwybr prentisiaeth yn berffaith.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cEr fy mod eisoes wedi cael llawer o hyfforddiant ar ddefnyddio peiriannau ac offer, mae angen llawer iawn o wybodaeth arnoch ar ben hynny er mwyn sicrhau bod cwrs golff mewn cyflwr rhagorol.  Mae Clwb Golff Maesteg yn lle gwych sydd \u00e2 photensial mawr.\u201d<\/p>\n<p>Mae James wedi bod yn cydweithio \u00e2\u2019i reolwr Stephen Trickey i ddatblygu cynllun pum mlynedd i reoli\u2019r cwrs golff mewn ffordd gynaliadwy, gan neilltuo rhai mannau heb eu torri er mwyn hybu bywyd gwyllt ac arbed costau tanwydd.<\/p>\n<p>Wrth ganmol sgiliau cyfathrebu \u201cgwych\u201d James, dywedodd Colin Thomas, rheolwr cyfleusterau Clwb Golff Maesteg: \u201cMae\u2019r ffaith ei fod yn ymfalch\u00efo gymaint yn ei waith yn ysgogi staff eraill y maes. <\/p>\n<p>\u201cGan ei fod wedi cyflawni cymaint, nid yn unig yn ei swydd, ond fel unigolyn, mae&#8217;r clwb wedi&#8217;i ddyrchafu\u2019n ddirprwy brif ofalwr y maes.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch James a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www1.bridgend.ac.uk\/apprenticeships\/\">Coleg Penybont<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-james-matthewman#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae James Matthewman wedi gwneud strocen feistrolgar wrth ddewis gwneud prentisiaeth yng Nghlwb Golff Maesteg. Yn ogystal \u00e2 chwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Tir Chwaraeon a Garddwriaeth, a ddarparwyd gan Goleg Pen-y-bont, mae wedi\u2019i ddyrchafu\u2019n ddirprwy brif ofalwr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-2022-james-matthewman\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8965","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8965","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8965"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8965\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8966,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8965\/revisions\/8966"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8965"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8965"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8965"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}