{"id":8969,"date":"2022-10-07T08:00:07","date_gmt":"2022-10-07T07:00:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8969"},"modified":"2022-10-06T16:53:16","modified_gmt":"2022-10-06T15:53:16","slug":"aac2022-albert-brennan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-albert-brennan\/","title":{"rendered":"Gyrfa Albert yn codi\u2019n uchel gyda Phrentisiaeth Radd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-albert-brennan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-albert-brennan\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Cafodd Albert Brennan, cyn bostmon, gyfle newydd pan ymunodd ag Airbus ym Mrychdyn &#8211; lle mae wedi codi&#8217;n uchel yn ei yrfa diolch i&#8217;r sgiliau a&#8217;r wybodaeth a gafodd wrth wneud Prentisiaeth Radd.<\/p>\n<div id=\"attachment_15193\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-1-Albert-Brennan-scaled-e1665071488195.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15193\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-1-Albert-Brennan-scaled-e1665071488195.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15193\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15193\" class=\"wp-caption-text\">Albert Brennan, codi\u2019n uchel yn ei yrfa gydag Airbus.<\/strong><br \/><\/p><\/div>\n<p>Mae Albert, 29, o Gefn-y-bedd, Wrecsam, yn gweithio yng nghanolfan ragoriaeth fyd-eang y cwmni ym Mrychdyn, sy\u2019n cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau Airbus.<\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth Radd (Lefel 6) mewn Peirianneg Awyrenneg trwy Brifysgol Abertawe &#8211; gan ennill Gradd Baglor mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu, ac NVQ Lefel 4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Albert yn parhau \u00e2&#8217;i ymchwil am wybodaeth trwy wneud Gradd Meistr mewn Peirianneg Strwythurau Ysgafn ac Ardrawiad, ar \u00f4l cael cynnig ysgoloriaeth lawn gan y National Structural Integrity Research Centre (NSIRC).<\/p>\n<p>Yn awr, mae Albert wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Yn ystod ei Brentisiaeth Radd yn Airbus, cafodd Albert brofiad gwerthfawr trwy leoliadau gwaith mewn gwahanol adrannau dros ddwy flynedd a hanner, yn cynnwys dylunio, straen, gweithgynhyrchu ac ansawdd. <\/p>\n<p>Yn ei flwyddyn olaf, bu\u2019n gweithio fel peiriannydd straen, yn dadansoddi strwythurau awyrennau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cynnal y llwythi sydd arnynt wrth hedfan. Roedd yn dal i dreulio un diwrnod yr wythnos yn astudio yn y brifysgol. <\/p>\n<p>Trwy gydol ei brentisiaeth, bu Albert yn cydgysylltu prosiectau ansawdd yn ymwneud \u00e2 diogelwch awyrennau, yn cyflwyno adroddiadau am straen technegol, ac yn datblygu offer digidol, gan wneud arbedion sylweddol i Airbus a chynhyrchu incwm ychwanegol. <\/p>\n<p>Yn ogystal, aeth ati i ddatblygu ei sgiliau digidol trwy gydol ei brentisiaeth, ac mae bellach yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth raglennu a gwybodaeth beirianyddol i awtomeiddio prosesau, i ddadansoddi data ac i adeiladu dangosfyrddau i ysgogi gwelliannau effeithlonrwydd. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei brentisiaeth, cynigiwyd swydd amser llawn i Albert fel peiriannydd straen yn Airbus. Mae bellach yn Beiriannydd Corfforedig ac yn Aelod Cyswllt o\u2019r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol ac enillodd Wobr y Myfyriwr Gorau gan Brifysgol Abertawe am gael y marciau uchaf yn gyffredinol ymhlith ei garfan ef o fyfyrwyr.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cDw i\u2019n teimlo bod cwblhau fy Mhrentisiaeth Radd wedi rhoi hwb fawr i fy ngyrfa ac wedi mynd \u00e2 fi o swydd ddi-grefft i yrfa broffesiynol fedrus iawn,\u201d meddai Albert.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cDw i\u2019n gobeithio gallu gweithio ar brosiectau heriol a diddorol am weddill fy ngyrfa a gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Andrew Baines, Uwch Beiriannydd Straen yn Airbus: \u201cMae Albert yn aeddfed ac mae ganddo rinweddau eraill fel bod yn ddigynnwrf, yn ystyriol ac addasu\u2019n dda i sefyllfaoedd. Dw i\u2019n falch ei fod wedi dewis dilyn gyrfa yn Airbus fel Peiriannydd Straen, ac mae ei ddyfodol yn edrych yn ddisglair.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Albert a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-albert-brennan#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd Albert Brennan, cyn bostmon, gyfle newydd pan ymunodd ag Airbus ym Mrychdyn &#8211; lle mae wedi codi&#8217;n uchel yn ei yrfa diolch i&#8217;r sgiliau a&#8217;r wybodaeth a gafodd wrth wneud Prentisiaeth Radd. Mae Albert, 29, o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-albert-brennan\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8969","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8969","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8969"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8969\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9021,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8969\/revisions\/9021"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8969"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8969"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8969"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}