{"id":8977,"date":"2022-10-07T08:00:16","date_gmt":"2022-10-07T07:00:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8977"},"modified":"2022-10-06T17:09:57","modified_gmt":"2022-10-06T16:09:57","slug":"aac2022-michelle-gaskell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-michelle-gaskell\/","title":{"rendered":"Michelle sy\u2019n Brentis Uwch yn rhoi hwb i safonau ansawdd gwyddor fforensig"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-michelle-gaskell\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-michelle-gaskell\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Prentisiaeth Uwch wedi helpu Michelle Gaskell i reoli prosiectau er mwyn gwella safonau ansawdd gwyddor fforensig gyda\u2019r potensial o arbed miliynau o bunnoedd i heddluoedd, y GIG ac elusennau. <\/p>\n<div id=\"attachment_15197\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/press-pic-App-Awards-Michelle-Gaskell-30-e1665072407687.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15197\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/press-pic-App-Awards-Michelle-Gaskell-30-e1665072407687.jpg\" alt=\"Michelle standing outside the police station.\" width=\"460\" height=\"285\" class=\"size-full wp-image-15197\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15197\" class=\"wp-caption-text\">Michelle Gaskell, awydd mawr i wella safonau gwyddor fforensig.<\/p><\/div>\n<p>Mae Michelle, 32, o\u2019r Fenni, yn Arbenigwr Ansawdd yn y Forensic Capability Network, rhan o bortffolio fforensig Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, lle mae\u2019n rheoli prosiectau i gefnogi\u2019r 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. <\/p>\n<p>Bu&#8217;n rheoli prosiect cenedlaethol gan y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) a ddangosodd nad oes DNA ar nwyddau traul fforensig hyd nes y c\u00e2nt eu defnyddio i gasglu tystiolaeth gan ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol. Cymerodd pob SARC yng Nghymru a Lloegr ran yn y prosiect hwn, gan arbed dros \u00a3500,000. <\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Michelle yn rheoli prosiect sydd \u00e2&#8217;r nod o newid y rheoliadau ynghylch llif aer a lefelau derbyniol o DNA mewn ystafell lle cynhelir archwiliadau meddygol fforensig. \u201cDisgwylir y bydd cwblhau\u2019r prosiect hwn yn llwyddiannus yn arwain at welliant sylweddol yn y gwasanaeth a roddir i bobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac, ar ben hynny, bydd yn arbed miliynau o bunnau,\u201d esboniodd.<\/p>\n<p>I gydnabod ei gwaith eithriadol a\u2019i hymrwymiad i ddysgu parhaus, mae Michelle wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae Michelle wedi helpu i safoni prosesau SARC ledled Cymru a Lloegr ac i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol mawr o feddygon, rheolwyr SARC, gwyddonwyr DNA, arbenigwyr ansawdd, yr heddlu a darparwyr gwasanaethau fforensig er mwyn gwella prosesau fforensig a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr. <\/p>\n<p>Er mwyn datblygu ei sgiliau, gwnaeth Michelle Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Prosiectau drwy EAL, wedi&#8217;i chyflenwi gan ALS Training a\u2019i darparu gan Heddlu De Cymru, mewn dim ond saith mis yn lle\u2019r ddwy flynedd a drefnwyd. Ar yr un pryd, cafodd ei phenodi&#8217;n rheolwr prosiectau achredu gyda Heddlu De Cymru.<\/p>\n<p>Cyn hynny, roedd wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli, gradd Meistr yn y Gwyddorau (MSc) mewn Gwyddorau Dadansoddol, Sbectrometreg M\u00e0s Cromatograffi Hylif o Brifysgol Abertawe a gradd Baglor yn y Gwyddorau (BSc) mewn Gwyddor Fforensig gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru.<\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019n ystyried astudio ar gyfer PhD er mwyn gwneud ymchwil a fydd yn dylanwadu ar newidiadau i reoliadau gwyddor fforensig. Mae&#8217;n gobeithio gwneud gwahaniaeth trwy gefnogi datblygiad mewn gwyddor fforensig a gwella safonau ansawdd. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRoedd yn her i mi gwblhau\u2019r Brentisiaeth Uwch ochr yn ochr \u00e2\u2019m swydd lawn-amser,\u201d meddai Michelle. \u201cFodd bynnag, po fwyaf roeddwn i&#8217;n ei ddysgu, ro&#8217;n i&#8217;n gweld fy mod yn dod yn fwy effeithlon yn fy swydd ac yn fwy effeithiol wrth reoli prosiectau mawr.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Deborah Pendry, Cyfarwyddwr Ansawdd y Forensic Capability Network: \u201cHeb os, mae\u2019r sgiliau y mae Michelle wedi&#8217;u meithrin trwy wneud Prentisiaeth Uwch yn Heddlu De Cymru wedi ei helpu i fod yn llwyddiannus iawn yn ei swydd newydd.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Michelle a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymraeg.alstraining.org.uk\/?force=2\">AlS Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-michelle-gaskell\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Prentisiaeth Uwch wedi helpu Michelle Gaskell i reoli prosiectau er mwyn gwella safonau ansawdd gwyddor fforensig gyda\u2019r potensial o arbed miliynau o bunnoedd i heddluoedd, y GIG ac elusennau. Mae Michelle, 32, o\u2019r Fenni, yn Arbenigwr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-michelle-gaskell\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8977","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8977","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8977"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8977\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9023,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8977\/revisions\/9023"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8977"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8977"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8977"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}