{"id":8979,"date":"2022-10-11T08:00:11","date_gmt":"2022-10-11T07:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8979"},"modified":"2022-10-06T18:11:45","modified_gmt":"2022-10-06T17:11:45","slug":"aac2022-chrystalla-moreton","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-chrystalla-moreton\/","title":{"rendered":"Chrystalla, y prentis, am fod yn batrwm i ferched ym myd peirianneg"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-chrystalla-moreton\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-chrystalla-moreton\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae prentis peirianneg o&#8217;r enw Chrystalla Moreton yn awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn \u00f4l ei chyflogwr, mae\u2019n \u201cseren ddisglair\u201d. <\/p>\n<p>Mae Chrystalla, 20, o\u2019r Tyllgoed, Caerdydd, yn gweithio i&#8217;r cwmni dur cyfnerthedig Celsa Steel yn y ddinas ac mae\u2019n gwneud Prentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW. <\/p>\n<div id=\"attachment_15200\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Chrystalla-Moreton-47-e1665076164634.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15200\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Chrystalla-Moreton-47-e1665076164634.jpg\" alt=\"Chrystalla at work with steel tubes\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15200\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15200\" class=\"wp-caption-text\">Chrystalla Moreton, \u2018seren ddisglair\u2019 yn Celsa Steel.<\/p><\/div>\n<p>Bu\u2019n rhaid iddi newid ei chynllun gwreiddiol o ymuno \u00e2\u2019r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol. Effeithiodd hynny ar ei hiechyd meddwl a bu\u2019n gwneud gwaith bar am gyfnod.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Chrystalla wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae Chrystalla yn benderfynol o wneud iawn am yr amser a gollwyd, chwifio&#8217;r faner dros beirianwyr benywaidd a pharhau i gefnogi ei theulu. Yn dilyn cyfweliad ar-lein llwyddiannus gyda Celsa Steel, cafodd wahoddiad i ymweld \u00e2\u2019r cwmni ac roedd wrth ei bodd \u00e2\u2019r hyn a welodd. <\/p>\n<p>\u201cRoedd mynd i&#8217;r safle a gweld beth oedd o fy mlaen yn codi fy chwilfrydedd,\u201d meddai Chrystalla. \u201cRo&#8217;n i&#8217;n ei weld fel antur newydd o\u2019r dechrau ac rwy wedi synnu fy hun fy mod yn gwneud cystal. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cAr \u00f4l cyfnod isel, mae hwn yn drawsnewidiad enfawr. Rwy am lwyddo trwy fod y gorau y gallaf fod yn y sector a dangos i ferched y gallan nhw wneud cystal \u00e2 dynion.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cOs bydd rhywun yn dweud nad ydw i&#8217;n gallu gwneud rhywbeth, rwy\u2019n benderfynol o\u2019u profi nhw\u2019n anghywir. Ac rwy eisiau dangos i bobl sy\u2019n mynd trwy gyfnod anodd, fel y gwnes i, fod yna olau ar ben draw\u2019r twnnel.\u201d<\/p>\n<p>Llwyddodd Chrystalla i greu argraff ar Celsa Steel, sy\u2019n cyflogi 70 o brentisiaid, o\u2019r dechrau\u2019n deg. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael ei hysbrydoli gan degan Pinscreen 1987, mae hi wedi codi\u2019r syniad o ailddyfeisio a chyfrifiaduro dyfais debyg yn Celsa Steel fel y gellir cludo bariau metel o wahanol siapiau a meintiau yn fwy effeithlon a llwyddiannus. <\/p>\n<p>\u201cDydyn ni ddim yn disgwyl i brentisiaid peirianneg ddatrys problemau fel hyn tan y drydedd a\u2019r bedwaredd flwyddyn,\u201d meddai Terry Collier, rheolwr prentisiaethau\u2019r cwmni. \u201cMae Crystalla&#8217;n hyderus ac yn arloesol, hyd yn oed mor gynnar yn ei gyrfa, gan dangos mentergarwch a mynd ati&#8217;n frwd i roi cynnig ar y deunyddiau a&#8217;r peiriannau. <\/p>\n<p>\u201cMae hi\u2019n un o s\u00ear disglair ei dosbarth, ond mae&#8217;n dal yn un o\u2019r t\u00eem. Mae\u2019n fraint cael gweithio gyda hi a\u2019i gweld yn llwyddo.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Amanda Bathory-Griffiths, pennaeth marchnata TSW: \u201cMae Chrystalla wedi cael anawsterau yn ei bywyd ifanc, ond dyw hi erioed wedi gwangalonni na thynnu ei llygaid oddi ar ei huchelgeisiau.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Chrystalla a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tsw.co.uk\/apprenticeships\/\">TSW Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-chrystalla-moreton#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentis peirianneg o&#8217;r enw Chrystalla Moreton yn awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn \u00f4l ei chyflogwr, mae\u2019n \u201cseren ddisglair\u201d. Mae Chrystalla, 20, o\u2019r Tyllgoed, Caerdydd, yn gweithio i&#8217;r cwmni &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-chrystalla-moreton\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8979","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8979","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8979"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8979\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9024,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8979\/revisions\/9024"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8979"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8979"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8979"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}