{"id":8981,"date":"2022-10-11T08:00:07","date_gmt":"2022-10-11T07:00:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8981"},"modified":"2022-10-06T18:20:18","modified_gmt":"2022-10-06T17:20:18","slug":"aac2022-anya-ocallaghan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-anya-ocallaghan\/","title":{"rendered":"Anya\u2019r prentis yn \u201cased amhrisiadwy\u201d i fusnes gwallt"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-anya-ocallaghan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-anya-ocallaghan\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r penderfyniad i recriwtio Anya O&#8217;Callaghan yn swyddog marchnata, addysg a datblygu busnes yn talu ar ei ganfed i salon gwallt arobryn Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach. <\/p>\n<p>Mae Anya, 25, yn gweithio tuag at Brentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau gyda&#8217;r darparwr hyfforddiant Educ8. I ddechrau, cyflogwyd hi i weithio rhan-amser i helpu i drefnu gweithdai hyfforddi ar-lein gyda chyflenwyr y cwmni yn ystod cyfnodau clo&#8217;r pandemig Covid-19. <\/p>\n<div id=\"attachment_15202\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Anya-0Callaghan-15-e1665076638947.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15202\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Anya-0Callaghan-15-e1665076638947.jpg\" alt=\"Anya at the office with logo in the background\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15202\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15202\" class=\"wp-caption-text\">Anya O\u2019Callaghan, \u201cased amhrisiadwy\u201d.<\/p><\/div>\n<p>Erbyn hyn. mae&#8217;n gweithio llawn amser ac mae&#8217;n \u201cased amhrisiadwy\u201d i\u2019r busnes. Mae ei swydd wedi\u2019i hymestyn i gynnwys datblygu busnes, recriwtio prentisiaid, datblygu&#8217;r wefan, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud dysgu\u2019n fwy hwylus i brentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.<\/p>\n<p>I gydnabod ei heffaith ar y busnes, mae Anya wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae perchennog Spirit Hair Team, Janine O&#8217;Callaghan, wrth ei bodd \u00e2 gwaith ei merch Anya ac yn disgwyl iddi roi hwb o 12% i drosiant y cwmni eleni. <\/p>\n<p>\u201cMae Anya wedi gwneud llawer mwy na&#8217;r disgwyl i ddatblygu fy musnes,\u201d meddai Janine, a gafodd grant adfer gan Lywodraeth Cymru yng nghyfnod Covid i helpu i\u2019w chyflogi hi ac un prentis arall. \u201cMae hi wedi dod o hyd i gyfleoedd busnes newydd i ni ac wedi cyflwyno gwasanaethau trin gwallt a gwasanaethau ar-lein newydd, i&#8217;n gwneud yn gynaliadwy at y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n frwd iawn, yn greadigol ac yn llawn syniadau ar sut y gallwn ddatblygu ein busnes. Ar \u00f4l y cyfnodau clo, sylweddolais ein bod yn dod yn \u00f4l i ddiwydiant hollol wahanol a oedd wedi symud ar-lein. <\/p>\n<p>\u201cNawr yn fwy nag erioed, mae prentisiaid yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein busnes. Rwy wedi gorfod ailfeddwl am fy musnes, gan gydnabod bod gwendidau yn ein strategaeth farchnata a\u2019r ffordd yr oedden ni&#8217;n recriwtio prentisiaid a thalentau newydd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Janine, sy\u2019n berchen ar Spirit Hair Team ac Outpost Barbers, wedi cyflogi 55 o brentisiaid dros y blynyddoedd ac ar hyn o bryd mae ganddi chwech yn gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr gydag ISA Training, rhan o Educ8 Group. <\/p>\n<p>Mae Anya wedi meithrin cysylltiadau gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion lleol i drefnu lleoliadau profiad gwaith ac mae Janine yn gobeithio y bydd y rhain yn datblygu i fod yn brentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae gan Anya ei hun anghenion dysgu ychwanegol ac felly mae&#8217;n gallu defnyddio&#8217;i phrofiad personol i wneud dysgu\u2019n fwy hwylus i brentisiaid sydd \u00e2 dyslecsia a dyspracsia. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae&#8217;n hyfforddi dysgwyr trin gwallt ar y rhaglen Lefel 1, gan ailgynllunio&#8217;r rhaglen i wella dulliau ymarferol o ddysgu. \u201cRydw i eisiau helpu pobl sy\u2019n dod i mewn i\u2019r diwydiant,\u201d meddai Anya. <\/p>\n<p>Yn \u00f4l Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid yn Educ8, <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">mae Anya&#8217;n \u201cenghraifft berffaith\u201d o brentis sydd wedi defnyddio&#8217;i sgiliau, ei gwybodaeth, ei mentergarwch a\u2019i phrofiad personol i wella hyfforddiant yn ei gweithle er budd prentisiaid eraill.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Cafodd Anya a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/apprenticeships\">Educ8<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/\">ISA Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-anya-ocallaghan#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r penderfyniad i recriwtio Anya O&#8217;Callaghan yn swyddog marchnata, addysg a datblygu busnes yn talu ar ei ganfed i salon gwallt arobryn Spirit Hair Team yn Ystrad Mynach. Mae Anya, 25, yn gweithio tuag at Brentisiaeth yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-anya-ocallaghan\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8981","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8981"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8981\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9026,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8981\/revisions\/9026"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}