{"id":8983,"date":"2022-10-11T08:00:02","date_gmt":"2022-10-11T07:00:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8983"},"modified":"2022-10-06T18:27:37","modified_gmt":"2022-10-06T17:27:37","slug":"aac2022-evan-coombs","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-evan-coombs\/","title":{"rendered":"Cwmni fferyllol yn taro ar aur wrth gyflogi Evan, y prentis arobryn"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-evan-coombs\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-evan-coombs\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Llwyddodd cwmni gwasanaethau gweithgynhyrchu a phecynnu fferyllol byd-eang, PCI Pharma Services, i daro ar aur pan ymunodd Evan Coombs, prentis dadansoddwr labordy, \u00e2\u2019r busnes trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu&#8217;n Uchel Blaenau Gwent. <\/p>\n<div id=\"attachment_15205\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-PCI-Evan-Coombs-App-awards-6-e1665077064907.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15205\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-PCI-Evan-Coombs-App-awards-6-e1665077064907.jpg\" alt=\"Evan in the laboratory\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15205\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15205\" class=\"wp-caption-text\">Mae Evan Coombs yn ymroi i ddysgu.<\/p><\/div>\n<p>Enillodd Evan, 19, o Flaenafon, fedal aur yn y categori Technegydd Labordy yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni ac mae wedi arbed amser ac arian i\u2019w gyflogwr gyda\u2019r data a gasglodd ar gyfer prosiect gwelliant parhaus. <\/p>\n<p>O ganlyniad i&#8217;r prosiect, mae PCI Pharma Services wedi cyflogi dau dechnegydd ar gontractau 12 mis.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Evan wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae Evan, sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth a ddarperir gan Goleg y Cymoedd, yn cael ei gyflogi gan PCI Pharma Services ac Anelu&#8217;n Uchel Blaenau Gwent ar y cyd. Mae hefyd yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Cemeg Gymhwysol yng Ngholeg G\u0175yr Abertawe. <\/p>\n<p>Mae Evan yn cael ei ganmol am ei waith ardderchog. Mae eisoes yn gweithio i safon dadansoddwr Lefel 1 yn y diwydiant ac yn gweithio goramser er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau achub bywyd yn cyrraedd y farchnad mewn digon o bryd a bod ei adran yn cyrraedd targedau ariannol. <\/p>\n<p>\u201cRwy wedi gweld Evan yn datblygu mewn cyfnod byr, o fewn blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth, i fod yn ddadansoddwr abl ac effeithiol,\u201d meddai Danielle Davies, arweinydd t\u00eem sefydlogrwydd PCI. <\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n llwyddo oherwydd ei ymroddiad i ddysgu a\u2019r awydd i wneud yn dda. Mae wedi ymroi&#8217;n llwyr i bob tasg ac wedi cyrraedd pob un o&#8217;i nodau a&#8217;i amcanion.\u201d<\/p>\n<p>Er iddo wneud yn dda yn ei Lefel A, roedd Evan yn ansicr a ddylai fynd i\u2019r brifysgol oherwydd bygythiad o ragor o ddysgu o bell o achos pandemig COVID-19. Mae\u2019r brentisiaeth gydag Anelu&#8217;n Uchel a PCI wedi rhoi cyfle iddo ddefnyddio&#8217;i wybodaeth a\u2019i sgiliau, ennill profiad, hybu ei addysg a datblygu gyrfa.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy\u2019n mwynhau fy swydd yn fawr achos rwy&#8217;n cael gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd ac mae\u2019n gyfle i mi roi popeth rwy\u2019n ei ddysgu ar waith,\u201d meddai. \u201cFy uchelgais yw dal i symud ymlaen gyda PCI.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ar \u00f4l cyrraedd rhestr fer gwobr Doniau&#8217;r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022, dywedodd Evan: \u201cRoedd yn dipyn o sioc, ond mae\u2019n braf cael eich cydnabod.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Lena Shipley, tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: \u201cMae sgiliau a hyder Evan wedi cynyddu\u2019n sylweddol dros flwyddyn gyntaf ei brentisiaeth ac mae wedi ymdaflu i\u2019w hyfforddiant gyda brwdfrydedd ac ymroddiad. <\/p>\n<p>\u201cMae Evan wedi bod yn batrwm o fyfyriwr ers iddo ddechrau gyda ni. Mae&#8217;n gwneud gwaith o safon eithriadol ac mae wedi cael &#8216;Rhagoriaeth&#8217; ym mhob uned a gwblhawyd hyd yn hyn.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Evan a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymoedd.ac.uk\/?lang=cy\">Coleg y Cymoedd<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-evan-coombs#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Llwyddodd cwmni gwasanaethau gweithgynhyrchu a phecynnu fferyllol byd-eang, PCI Pharma Services, i daro ar aur pan ymunodd Evan Coombs, prentis dadansoddwr labordy, \u00e2\u2019r busnes trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu&#8217;n Uchel Blaenau Gwent. Enillodd Evan, 19, o Flaenafon, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-evan-coombs\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8983","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8983","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8983"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8983\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9028,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8983\/revisions\/9028"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8983"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8983"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8983"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}