{"id":8985,"date":"2022-10-25T08:00:53","date_gmt":"2022-10-25T07:00:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8985"},"modified":"2022-10-06T18:43:21","modified_gmt":"2022-10-06T17:43:21","slug":"aac2022-kepak","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-kepak\/","title":{"rendered":"Chwant rhagor o brentisiaethau ar gwmni bwyd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-kepak\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-kepak\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Elfen ganolog yn llwyddiant un o brif gyflogwyr Merthyr Tudful i feithrin gweithlu medrus yw&#8217;r gallu i greu ei hyfforddwyr mewnol ei hun i ddatblygu\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr. <\/p>\n<p>Mae Kepak Group Limited yn buddsoddi yn ei ddoniau a\u2019i gyfleusterau ei hunan fel rhan o strategaeth dysgu a datblygu egn\u00efol, gyda chynllun ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynllunio olyniaeth a datblygu rheolwyr. <\/p>\n<div id=\"attachment_15208\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Keypak-3-e1665077989768.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15208\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Keypak-3-e1665077989768.jpg\" alt=\"Trainee butcher Henry cutting meat on butcher&#039;s table\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15208\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15208\" class=\"wp-caption-text\">Henry Lawson, cigydd dan hyfforddiant yn y Kepak Group.<\/p><\/div>\n<p>\u201cYn fuan iawn, datblygodd hwn yn fframwaith sy&#8217;n troi gweithwyr di-grefft yn weithwyr lled-grefftus mewn dim ond tri mis,\u201d meddai Jeremy Jones, rheolwr gweithrediadau adnoddau dynol gyda&#8217;r cwmni bwyd rhyngwladol sy\u2019n arbenigo mewn cynhyrchu cig ar safle Merthyr Tudful. <\/p>\n<p>\u201cYna, maen nhw\u2019n symud ymlaen yn syth i brentisiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhaglen \u00e2\u2019n matrics hyfforddi ym mhob adran ac mae angen o leiaf 17 o dasgau ar bob prentis er mwyn dod yn gwbl grefftus.\u201d<\/p>\n<p>Yn awr, mae Kepak Group wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Ddim ond 18 mis ar \u00f4l i Kepak fabwysiadu&#8217;r drefn hyfforddi newydd hon sy&#8217;n seiliedig ar waith, mae\u2019r cwmni eisoes wedi elwa o weld gostyngiad o 15% yn nhrosiant staff ac mae&#8217;r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae deugain o weithwyr yn dilyn prentisiaethau sy\u2019n cynnwys Sgiliau\u2019r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau\u2019r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain T\u00eem Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4), a Rheolaeth (Lefel 4 a 5). Goruchwylir pob cwrs gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r prentisiaethau wedi arwain at well perfformiad ac elw mewn adrannau lle mae prentisiaid yn dysgu eu crefft, gyda hyfforddwyr i ffwrdd o&#8217;r gwaith yn goruchwylio eu datblygiad ac yn creu cynlluniau dysgu unigol mewn cydweithrediad \u00e2&#8217;u darparwr hyfforddiant. <\/p>\n<p>Gyda dros 800 o weithwyr ar ei lyfrau, mae gan y cwmni gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y dysgwyr fel bod tua 100 yn gwneud prentisiaeth ar y tro. Bydd hyn yn cynnwys staff newydd, staff presennol sy\u2019n symud i swyddi newydd a phrentisiaid sy\u2019n symud ymlaen i brentisiaeth ar y lefel nesaf.<\/p>\n<p>Datblygwyd y strategaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian a dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes y cwmni ym maes gweithgynhyrchu bwyd: \u201cYn syml iawn, mae Kepak wedi ymrwymo 100% i\u2019r rhaglen brentisiaethau ac i\u2019w staff. <\/p>\n<p> \u201cMaen nhw\u2019n buddsoddi yn eu staff ac yn y gymuned leol er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol a dylid eu defnyddio fel patrwm o sut i gynnal rhaglen brentisiaethau er mwyn cadw gweithlu am oes.\u201d <\/p>\n<p>Wrth longyfarch Kepak Group a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-kepak#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Elfen ganolog yn llwyddiant un o brif gyflogwyr Merthyr Tudful i feithrin gweithlu medrus yw&#8217;r gallu i greu ei hyfforddwyr mewnol ei hun i ddatblygu\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Mae Kepak Group Limited yn buddsoddi yn ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-kepak\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8985","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8985","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8985"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8985\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9029,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8985\/revisions\/9029"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8985"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8985"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8985"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}