{"id":8987,"date":"2022-10-25T08:00:00","date_gmt":"2022-10-25T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8987"},"modified":"2022-10-06T19:01:45","modified_gmt":"2022-10-06T18:01:45","slug":"aac2022-celsa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-celsa\/","title":{"rendered":"Prentisiaid yn atgyfnerthu gweithlu cwmni dur Celsa"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-celsa\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-celsa\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae annog gweithwyr profiadol sydd ag un llygad ar eu hymddeoliad i \u2018dalu \u2019n\u00f4l\u2019 trwy helpu\u2019r genhedlaeth newydd wedi dod yn ffordd allweddol o ddatblygu gweithlu ffyddlon a medrus yn Celsa Steel UK, Caerdydd. <\/p>\n<p>Sefydlodd y cwmni ei raglen brentisiaethau yn 2005 am fod y gweithlu&#8217;n heneiddio ac nad oedd eu gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i genhedlaeth ifanc. <\/p>\n<div id=\"attachment_15213\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-CELSA-STEEL-Carddiff-15-scaled-e1665079194602.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15213\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-CELSA-STEEL-Carddiff-15-scaled-e1665079194602.jpg\" alt=\"Celsa Steel staff sitting on steel girders in factory.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15213\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15213\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr un o felinau Celsa Steel UK, Shaun Littlemore, gyda phrentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen wedi esblygu\u2019n gynllun 10 mlynedd newydd sy\u2019n pontio bwlch o 50 mlynedd rhwng pobl sydd ar fin ymddeol a gweithwyr newydd. Defnyddir strategaeth cynaliadwyedd busnes i drosglwyddo gwybodaeth yn gynharach o lawer yng ngyrfa peiriannydd.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Celsa Steel UK wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae Chrystalla Moreton, un o brentisiaid talentog y cwmni ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Doniau\u2019r Dyfodol hefyd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Dywedodd Terry Collier, cyn-brentis sydd erbyn hyn yn rheolwr prentisiaethau Celsa Steel UK:  \u201cRydym yn edrych yn fanwl ar staff oedran ymddeol bum mlynedd cyn iddynt adael Celsa, i weld pa sgiliau y bydd angen i ni eu sicrhau er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth ddi-dor. <\/p>\n<p>\u201cFelly rydym yn gwybod faint o brentisiaid i&#8217;w recriwtio ym mhob adran bob blwyddyn er mwyn sicrhau parhad y busnes.  Mae ein ffordd ni o weithio, ynghyd \u00e2\u2019r prinder sgiliau ym Mhrydain, yn golygu bod galw mawr am ein gweithwyr ni yn y farchnad lafur, ac felly rydym yn canolbwyntio ar geisio sicrhau bod gweithwyr yn aros yn hir.\u201d<\/p>\n<p>Esboniodd fod gan y cwmni tua 70 o brentisiaid, yn cynnwys 23 wedi&#8217;u recriwtio eleni.  Mae trosiant staff yn isel gyda phrentisiaid yn aros yn Celsa am 6.8 mlynedd, o&#8217;i gymharu \u00e2 gweithwyr a gyflogir yn  uniongyrchol sy&#8217;n aros yn y gwaith am ddim ond 1.2 mlynedd. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun 10 mlynedd, a ddatblygwyd gyda\u2019r darparwr hyfforddiant TSW Training, yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 phrinder sgiliau peirianneg crefft ledled y DU drwy lywio prentisiaid newydd o\u2019r coleg i\u2019r gwaith, ac yna wrth symud ymlaen yn eu gyrfa.<\/p>\n<p>Mae pob prentis yn gweld eu llwybr gyrfa trwy Celsa o\u2019r cychwyn cyntaf, gan symud ymlaen i fod yn fentoriaid a rheolwyr, yn uwch beirianwyr ac yn aelodau o\u2019r timau arwain. <\/p>\n<p>Yna, daw \u2018trobwynt\u2019 \u2013 cam yn yr yrfa pan fydd y gweithiwr yn rhoi\u2019r gorau i ddysgu sgiliau newydd ac yn talu &#8216;n\u00f4l, gan alluogi\u2019r cwmni i greu digonedd o arbenigwyr brwd a chydwybodol sydd \u00e2\u2019r gallu i fentora. <\/p>\n<p>Celsa, sydd \u00e2 dros 9,000 o weithwyr ledled y byd, yw\u2019r cwmni dur cyntaf i ennill Safon Aur &#8216;Rydym yn Buddsoddi Mewn Prentisiaid\u2019 gan Buddsoddwyr Mewn Pobl.<\/p>\n<p>\u201cMae Celsa\u2019n haeddu\u2019r wobr gan ei fod yn un o\u2019r ychydig gwmn\u00efau sy\u2019n cadw llygad barcud ar hynt ei brentisiaid, yn gwrando ar eu hanghenion, yn gweithredu er budd yr unigolion, ac yn eu cefnogi beth bynnag yw&#8217;r her sy\u2019n eu hwynebu,\u201d meddai Amanda Bathory-Griffiths, pennaeth marchnata, TSW Training. <\/p>\n<p>Mae TSW Training yn gweithio gyda&#8217;r cwmni i gyflenwi prentisiaethau mewn Marchnata, Gweinyddu Busnes, Peirianneg a Chynhyrchu. Ymhlith y Rhaglenni Prentisiaethau a gyflwynir yn Celsa mae AAT, Gweinyddu Busnes, Rheoli Cadwyni Cyflenwi, Logisteg, Cynhyrchu, Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth, a Chrefftau Mecanyddol neu Drydanol. <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Celsa Steel UK a phawb arall ar y rhestrau byrion. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tsw.co.uk\/\">TSW Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-celsa#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae annog gweithwyr profiadol sydd ag un llygad ar eu hymddeoliad i \u2018dalu \u2019n\u00f4l\u2019 trwy helpu\u2019r genhedlaeth newydd wedi dod yn ffordd allweddol o ddatblygu gweithlu ffyddlon a medrus yn Celsa Steel UK, Caerdydd. Sefydlodd y cwmni &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-celsa\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8987","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8987","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8987"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8987\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9031,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8987\/revisions\/9031"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8987"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8987"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8987"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}