{"id":8993,"date":"2022-10-25T08:00:30","date_gmt":"2022-10-25T07:00:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8993"},"modified":"2022-10-25T14:35:03","modified_gmt":"2022-10-25T13:35:03","slug":"aac2022-persimmon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-persimmon\/","title":{"rendered":"Cwmni adeiladu\u2019n creu ffordd at ddyfodol disglair gyda phrentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-persimmon\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-persimmon\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cwmni adeiladu o Abertawe wedi creu ei lwybr gyrfaoedd ei hunan trwy lunio modelau hyfforddi pwrpasol i lenwi\u2019r bwlch sgiliau cynyddol yn y diwydiant. <\/p>\n<p>Trwy ei athroniaeth \u2018Persimmon Way\u2019, cr\u00ebwyd tua 150 o swyddi newydd ar gyfer prentisiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd ac ar gyfer rhai sy\u2019n dymuno ailhyfforddi er mwyn gweithio yn y sector adeiladu. <\/p>\n<div id=\"attachment_15211\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Persimmon-Homes-38-e1665078574874.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15211\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Persimmon-Homes-38-e1665078574874.jpg\" alt=\"Persimmon Homes manager and staff on building site\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15211\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15211\" class=\"wp-caption-text\">Carl Davey, cyfarwyddwr ansawdd rhanbarthol gyda Persimmon Homes gyda rhai o brentisiaid y cwmni.<\/p><\/div>\n<p>Mae Persimmon Homes West Wales, sy&#8217;n gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Choleg Penybont, yn credu bod twf organig mewn adnoddau mewnol a chyfleoedd i symud ymlaen yn eich gyrfa yn helpu\u2019r cwmni i recriwtio a chadw\u2019r doniau lleol gorau oll ac i sicrhau model busnes cynaliadwy.<\/p>\n<p>I gydnabod ei ymrwymiad i brentisiaid, mae Persimmon Homes West Wales wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Dywedodd y cwmni fod prentisiaid gosodwyr brics wedi adeiladu dros 90 o gartrefi ynghyd \u00e2 nifer fawr o waliau allanol a garejys ers 2017. Yn ogystal, yn y 12 mis diwethaf, mae prentisiaid seiri wedi codi a chwblhau 48 o gartrefi Space 4 \u2013 sef system ffr\u00e2m bren unigryw&#8217;r cwmni. <\/p>\n<p>\u201cTrwy dwf organig, rydym yn pontio\u2019r bwlch yn y gadwyn gyflenwi,\u201d meddai Carl Davey, cyfarwyddwr ansawdd rhanbarthol gyda Persimmon Homes. <\/p>\n<p>\u201cRoedd yna brinder difrifol o weithwyr yn y diwydiant adeiladu tai i ateb y galw mawr. Felly, cychwynnodd Persimmon Homes ar fenter hyfforddi sylweddol i gynhyrchu crefftwyr yn y tymor byr i ganolig.<\/p>\n<p>\u201cArweiniodd hyn at bartneriaeth \u00e2 Choleg Penybont a allai ddod yn batrwm ar gyfer modelau partneriaeth tebyg ar ein safleoedd eraill ym Mhrydain.\u201d <\/p>\n<p>Gall dysgwyr o bob oed a phob cefndir gychwyn ar raglen brentisiaeth gyda Persimmon trwy&#8217;r coleg. Yna, gallant lywio&#8217;u gyrfa gan ddringo ysgol dryloyw o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, yn amrywio o grefftau ar Lefelau 2 a 3 hyd at ddod yn arweinwyr y dyfodol gyda Persimmon trwy\u2019r Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Safle Adeiladu. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r gydfenter wedi arwain at agor Academi Persimmon Homes ar safle datblygu yn Llanilid, ger y coleg. Fel hyn, gellir hyfforddi prentisiaid mewn amgylchedd \u201cbyw\u201d ar safle Persimmon a gall staff y coleg ddod yn rhan annatod o \u2018The Persimmon Way\u2019.<\/p>\n<p>\u201cMae ein partneriaeth gyda Persimmon Homes yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd trwy brentisiaethau mewn rhan o Gymru sydd wedi dioddef yn fawr ar \u00f4l colli llawer o swyddi yn y blynyddoedd diwethaf,\u201d meddai Matthew Williams, dirprwy brifathro, dysgu seiliedig ar waith a gweithgarwch masnachol yng Ngholeg Penybont.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni&#8217;n gallu cyflenwi prentisiaethau mewn ffordd sydd wir yn cydfynd \u00e2&#8217;r cymwyseddau, yr ymddygiadau a&#8217;r gwerthoedd a fydd yn eu galluogi i lwyddo am gyfnod hir gyda Persimmon ac yn y sector adeiladu.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Persimmon Homes a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www1.bridgend.ac.uk\/\">Coleg Penybont<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-persimmon#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cwmni adeiladu o Abertawe wedi creu ei lwybr gyrfaoedd ei hunan trwy lunio modelau hyfforddi pwrpasol i lenwi\u2019r bwlch sgiliau cynyddol yn y diwydiant. Trwy ei athroniaeth \u2018Persimmon Way\u2019, cr\u00ebwyd tua 150 o swyddi newydd ar &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-persimmon\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8993","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8993","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8993"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8993\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9081,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8993\/revisions\/9081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8993"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8993"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8993"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}