{"id":8995,"date":"2022-10-25T08:00:19","date_gmt":"2022-10-25T07:00:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8995"},"modified":"2022-10-07T16:23:34","modified_gmt":"2022-10-07T15:23:34","slug":"aac2022-cwm-taf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-cwm-taf\/","title":{"rendered":"Prentisiaid yn torri tir newydd mewn bwrdd iechyd blaengar"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-cwm-taf\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-cwm-taf\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae rhaglen brentisiaethau flaengar yn cynhyrchu\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu\u2019r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru\u2019n heneiddio. <\/p>\n<p>Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 15,000 o staff, sy&#8217;n ei wneud yn gyflogwr o bwys yn ne Cymru. Mae\u2019n darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, ysbyty ac iechyd meddwl i 450,000 o bobl sy\u2019n byw ym mwrdeistrefi Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. <\/p>\n<div id=\"attachment_15215\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Cwm-Taf-Morgannwg-29--e1665079615180.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15215\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Cwm-Taf-Morgannwg-29--e1665079615180.jpg\" alt=\"Cwm Taf Morgannwg University Health Board. staff at work.\" width=\"460\" height=\"272\" class=\"size-full wp-image-15215\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15215\" class=\"wp-caption-text\">Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cymwysterau, gyda Gerrard Fletcher, Sian Yearsley a Kirsty Griffiths, prentisiaid yn y labordai.<\/p><\/div>\n<p>Ar \u00f4l canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru&#8217;n 65 oed neu drosodd erbyn 2036, datblygodd y Bwrdd ei strategaeth bedair blynedd yn \u00f4l i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith er mwyn ehangu ei gyfleoedd recriwtio. <\/p>\n<p>Ymhlith ei brentisiaethau niferus, lansiodd y Bwrdd y Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) y llynedd mewn partneriaeth \u00e2\u2019r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training. Dyma\u2019r cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru ac mae\u2019n pontio\u2019r bwlch oedd yn dilyn cymhwyster Lefel 3 ym maes iechyd gan alluogi\u2019r dysgwr i fynd i wneud gradd a dod yn wyddonydd cofrestredig.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Eglurodd Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu&#8217;r Bwrdd ar gyfer cymwysterau: \u201cO&#8217;r blaen, heb y llwybr hwn, roedd gweithwyr cymorth gofal iechyd yn sownd mewn swyddi band dau a thri heb lawer o gyfle i symud ymlaen, ond mae hyn yn rhoi\u2019r cyfle iddyn nhw ddatblygu, ennill mwy o arian a gwireddu eu breuddwydion.<\/p>\n<p>\u201cMae cyflwyno Gwyddor Gofal Iechyd Lefel 4 yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau difrifol trwy ddatblygu sgiliau allweddol yn y sector trwy dyfu ein staff ein hunain. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn gymhwyster anhygoel sy\u2019n rhan o set o adnoddau sydd ar gael i gefnogi datblygiad staff ac adeiladu ar wasanaethau o safon uchel. Mae\u2019n cynnig gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy mewn dros 50 o ddisgyblaethau gan ddarparu datrysiad cynaliadwy.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymhwyster Lefel 4 yn helpu dysgwyr i gael swyddi cynorthwyol ym maes awdioleg, gwyddor gwaed a pheirianneg glinigol, i enwi dim ond rhai. Er bod y rhaglen yn rhedeg ledled Cymru, caiff ei harwain gan d\u00eem Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. <\/p>\n<p>Cynigir prentisiaethau mewn partneriaeth \u00e2 Talk Training ac ACT Training hefyd, ond mae&#8217;r Bwrdd yn cydweithio ag Educ8 i ddatblygu prentisiaethau pwrpasol sy\u2019n berthnasol i\u2019r bwrdd iechyd ac i\u2019r unigolyn. <\/p>\n<p>Gyda 553 o staff wedi manteisio ar gymhwyster prentisiaeth, a 215 yn gweithio mewn swyddi parhaol ar hyn o bryd, mae\u2019r rhaglen yn dwyn ffrwyth. <\/p>\n<p>\u201cMae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith arloesol,\u201d meddai Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid Educ8 Training. \u201cMaen nhw\u2019n sefydliad uchelgeisiol sy\u2019n cydnabod bod hyfforddi a datblygu staff yn hanfodol er mwyn sicrhau gofal rhagorol bob amser i\u2019w cymuned a\u2019u cleifion.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-cwm-taf#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae rhaglen brentisiaethau flaengar yn cynhyrchu\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu\u2019r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru\u2019n heneiddio. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 15,000 o staff, sy&#8217;n ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-cwm-taf\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8995","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8995","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8995"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8995\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9037,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8995\/revisions\/9037"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8995"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8995"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8995"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}