{"id":8999,"date":"2022-10-28T08:00:17","date_gmt":"2022-10-28T07:00:17","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=8999"},"modified":"2022-10-06T19:19:11","modified_gmt":"2022-10-06T18:19:11","slug":"aac2022-hayley-walters","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-hayley-walters\/","title":{"rendered":"Hayley, yr asesydd prentisiaethau, yn frwd o blaid cefnogi pobl eraill"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-hayley-walters\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-hayley-walters\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Hayley Walters, asesydd Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn eithriadol o frwd dros gefnogi pobl eraill.<\/p>\n<p>I Itec Training Solutions yng Nghaerdydd mae Hayley, 32, yn gweithio ac mae&#8217;n defnyddio\u2019r wybodaeth werthfawr a gasglodd dros 13 blynedd yn gweithio mewn cartrefi nyrsio a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol er budd dysgwyr, cydweithwyr a\u2019i chyflogwr. <\/p>\n<div id=\"attachment_15217\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-ITEC-Hayley-Walters-3-e1665080158778.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15217\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-ITEC-Hayley-Walters-3-e1665080158778.jpg\" alt=\"Hayley Walters outside workplace.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15217\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15217\" class=\"wp-caption-text\">Hayley Walters, yn ymroi i gefnogi pobl eraill.<\/p><\/div>\n<p>Cafodd ei chanmol yn aml am fynd yr ail filltir i helpu ei dysgwyr, rhannu arferion gorau a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer aseswyr newydd dan hyfforddiant.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Hayley wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ae Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae Hayley&#8217;n deall sut mae dysgwyr yn elwa wrth iddi hi fynd ati i wella&#8217;n barhaus. Amlygir hyn gan y gwaith y mae wedi\u2019i wneud i ddatblygu\u2019r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd ac i gefnogi t\u00eem aseswyr Itec Training Solutions.  <\/p>\n<p>Aeth ati i bennu gwelliannau i hybu a gwella taith dysgwyr ar Lefelau 2 a 3 ac i gyflwyno&#8217;r defnydd mewn ffordd fwy rhyngweithiol a diddorol i gydweithwyr, dysgwyr a\u2019r busnes.  <\/p>\n<p>\u201cMae Hayley wedi bod ar daith o ddatblygiad proffesiynol parhaus ers iddi adael yr ysgol ac mae wir yn batrwm i eraill,\u201d meddai Hannah Barron, rheolwr adnoddau dynol Itec. <\/p>\n<p>Ymunodd Hayley ag Itec dair blynedd yn \u00f4l ar \u00f4l gwneud Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chymhwysodd yn asesydd yn fuan iawn wedyn.  Cam nesaf ei datblygiad proffesiynol fydd Dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol Lefel 4.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gwneud cynllun strategol o daith pob dysgwr, gan gyfarfod \u00e2 nhw\u2019n aml a datblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth trwy ddysgu cyfunol wedi&#8217;i seilio ar eu hanghenion unigol.  <\/p>\n<p>Mae\u2019n cysylltu cynlluniau datblygiad personol \u00e2 nodau a dyheadau pob dysgwr, sy\u2019n golygu eu bod yn dal i gael eu hysgogi i weithio a bod y berthynas rhyngddyn nhw a\u2019u cyflogwyr yn parhau. <\/p>\n<p>Yn ystod y pandemig, bu&#8217;n cynnig cefnogaeth emosiynol a llesiant i ddysgwyr a oedd yn dioddef o straen a phryder.  Llwyddodd hefyd i addasu i ddysgu o bell trwy uwchraddio ei sgiliau amlgyfrwng, datblygu adnoddau ychwanegol a chynnig cymorth ychwanegol i ddysgwyr. <\/p>\n<p>Bellach, mae Hayley wedi ymuno \u00e2 gr\u0175p ffocws allanol i ddatblygu adnoddau safonau proffesiynol newydd Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer dysgwyr \u00f4l-16.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd bod fy nghydweithwyr, fy nysgwyr a fy nghyflogwyr wedi cefnogi fy enwebiad i fod yn Ymarferydd  y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.  Mae hyn yn golygu&#8217;r byd i mi ac yn gwneud i mi deimlo&#8217;n falch o&#8217;r hyn rwy wedi&#8217;i gyflawni.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae cefnogi arferion gorau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn un o fy mhrif uchelgeisiau erioed.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Cafodd Hayley ei chanmol gan Debbie Hobbs, swyddog sicrhau ansawdd yn ISS Healthcare, Caerdydd, am gefnogi 30 aelod o staff o bell i gwblhau eu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod y pandemig. <\/p>\n<p>\u201cRoedd hi\u2019n mynd yr ail filltir i sicrhau nad oedden nhw ar ei h\u00f4l hi a&#8217;u bod yn cwblhau eu cymwysterau fel y gallen nhw aros yn y sector gofal,\u201d meddai.  \u201cBu hynny&#8217;n help aruthrol i mi gadw staff.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Hayley a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.itecskills.ac.uk\/cy\/\">Itec Skills &#038; Employment<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-hayley-walters#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Hayley Walters, asesydd Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn eithriadol o frwd dros gefnogi pobl eraill. I Itec Training Solutions yng Nghaerdydd mae Hayley, 32, yn gweithio ac mae&#8217;n defnyddio\u2019r wybodaeth werthfawr a gasglodd dros 13 &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-hayley-walters\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-8999","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8999","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8999"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8999\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9034,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8999\/revisions\/9034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8999"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8999"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8999"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}