{"id":9002,"date":"2022-10-28T11:00:50","date_gmt":"2022-10-28T10:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9002"},"modified":"2022-10-06T19:28:21","modified_gmt":"2022-10-06T18:28:21","slug":"aac2022-angelina-mitchell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-angelina-mitchell\/","title":{"rendered":"Angelina\u2019n awyddus i helpu eraill i ddeall y dechnoleg ddigidol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-angelina-mitchell\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-angelina-mitchell\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Dywed Angelina Mitchell sy\u2019n gwneud gwaith arloesol fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol, mai ei nod yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.<\/p>\n<p>Gweithio i&#8217;r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd mae Angelina, 28, a bu&#8217;n arloesi gyda&#8217;r gwaith o gyflwyno\u2019r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru.<\/p>\n<div id=\"attachment_15220\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pci-APP-Awards-Angelina-Mitchell-4-e1665080731666.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15220\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pci-APP-Awards-Angelina-Mitchell-4-e1665080731666.jpg\" alt=\"Angelina in the office\" width=\"460\" height=\"293\" class=\"size-full wp-image-15220\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15220\" class=\"wp-caption-text\">Angelina Mitchell \u2013 ieithydd.<\/p><\/div>\n<p>Eglurodd Lucy Wilkinson, rheolwr llwybr gwasanaethau digidol ACT: \u201cBu&#8217;n rhaid i Angelina lywio\u2019r gwaith o gyflwyno\u2019r cymhwyster hwn ar ei phen ei hun oherwydd, ar y pryd, hi oedd unig asesydd y cymhwyster yng Nghymru. Mae ei brwdfrydedd a\u2019i hymroddiad i\u2019w datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y diwydiannau digidol yn eithriadol.\u201d\u201d<\/p>\n<p>Yn awr, mae Angelina wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l bod yn dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd, ymunodd Angelina ag ACT fel asesydd dan hyfforddiant yn 2018 gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a\u2019i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio\u2019r dechnoleg ddigidol.<\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau ei bod yn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau y mae\u2019n eu cyflenwi ac mae wedi dysgu Cymraeg er mwyn iddi allu gweithio\u2019n ddwyieithog. <\/p>\n<p>Mae Angelina, sy\u2019n byw yng Nghaerdydd ac yn dod yn wreiddiol o\u2019r Iseldiroedd, wedi dysgu\u2019r iaith mor dda nes iddi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn &#8216;Cymraeg Gwaith&#8217; (canolradd) gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae&#8217;n rhugl mewn pum iaith. <\/p>\n<p>Mae dysgwyr a chyflogwyr wrth eu bodd \u00e2 hi a hi sy&#8217;n cael y canlyniadau gorau yn ei th\u00eem &#8211; mae 90% o&#8217;i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae&#8217;n cael sg\u00f4r ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr o 88%. <\/p>\n<p>Mae hi hefyd yn cefnogi ac yn goruchwylio dysgwyr ar y llwybr gwasanaethau digidol yn ACT ac mae\u2019n gwella&#8217;i sgiliau\u2019n barhaus er mwyn cadw i fyny \u00e2 thechnoleg a chymwysterau.<br \/>\nCyn y pandemig, roedd hi eisoes wedi addasu i ddysgu o bell ac wedi cyflwyno trafodaethau 20 munud ar bwnc penodol er mwyn i&#8217;w dysgwyr ddysgu&#8217;r wybodaeth ar gyfer eu prentisiaeth. Mae ei chydweithwyr wedi mabwysiadu&#8217;r dull asesu hwn fel arfer gorau.<\/p>\n<p>Ymhlith ei chymwysterau mae gradd Baglor mewn Addysg yn arbenigo mewn dysgu Ffrangeg, cymhwyster atodol mewn Dylunio Amlgyfrwng, Prentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Asesu Hyfforddiant a Sicrwydd Ansawdd Mewnol. <\/p>\n<p> \u201cMae Angelina&#8217;n arwain trwy esiampl,\u201d meddai Lucy. \u201cMae wedi cael ei haddysg yn rhyngwladol, sy&#8217;n golygu bod ganddi brofiad o arferion gorau rhai o&#8217;r gwledydd \u00e2 systemau addysg gorau\u2019r byd. Mae Angelina yn mynd yr ail filltir i rannu ei gwybodaeth a\u2019i sgiliau gyda chydweithwyr a dysgwyr fel ei gilydd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Angelina: \u201cRwy\u2019n falch iawn fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, gan ei fod yn golygu llawer i mi. Mae\u2019n dangos bod eraill yn teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth mewn sefydliadau ac ysgolion yng Nghymru. <\/p>\n<p> \u201cRwy\u2019n gweithio\u2019n galed iawn ac yn gobeithio bod y pethau rydw i wedi\u2019u dysgu yn y brifysgol ac yn y gwaith o fudd i diwtoriaid, athrawon a datblygwyr cwricwla.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Angelina a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p> \u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p> \u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p> \u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymraeg.acttraining.org.uk\/?force=2\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-angelina-mitchell#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dywed Angelina Mitchell sy\u2019n gwneud gwaith arloesol fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol, mai ei nod yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus. Gweithio i&#8217;r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-angelina-mitchell\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9002","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9002","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9002"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9002\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9035,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9002\/revisions\/9035"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9002"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9002"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9002"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}