{"id":9004,"date":"2022-10-28T08:00:38","date_gmt":"2022-10-28T07:00:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9004"},"modified":"2022-10-06T19:47:33","modified_gmt":"2022-10-06T18:47:33","slug":"aac2022-victoria-morris","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-victoria-morris\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i Victoria sy\u2019n frwd dros godi safonau gofal plant"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-victoria-morris\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-victoria-morris\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Victoria Morris yn manteisio i\u2019r eithaf ar ei phrofiad o dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sector gofal plant wrth wneud ei gwaith presennol fel asesydd gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8 Training.<\/p>\n<p>Mae Victoria, 52 oed, sy\u2019n byw ger Caerffili, yn defnyddio&#8217;i gwybodaeth a\u2019i sgiliau i gefnogi prentisiaid, cyflogwyr a\u2019i chydweithwyr, ac mae\u2019n frwd dros godi safonau gofal plant. <\/p>\n<div id=\"attachment_15222\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Educ8-Victoria-Morris-1-e1665081856795.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15222\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Educ8-Victoria-Morris-1-e1665081856795.jpg\" alt=\"Victoria sitting at her desk.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15222\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15222\" class=\"wp-caption-text\">Victoria Morris, sy\u2019n elwa ar 20 mlynedd o brofiad ym maes gofal plant.<\/p><\/div>\n<p>Bu&#8217;n gweithio mewn lleoliadau gofal plant yn amrywio o ysgolion cynradd i ofal dydd preifat a chlybiau ar \u00f4l ysgol, gan wneud gwaith uwch-arweinydd a rheoli t\u00eem o staff. Cyn mynd i fyd gofal plant, bu&#8217;n trin gwallt am 15 mlynedd. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l ymuno ag Educ8 Training bron i ddwy flynedd yn \u00f4l, cymhwysodd Victoria fel asesydd ac mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal Plant a Phrentisiaeth mewn Gwaith Chwarae. Erbyn hyn, mae&#8217;n cyflenwi&#8217;r prentisiaethau hyn o Lefelau 2 i 5 a chafodd ei chanmol am \u201csafon eithriadol ac ysbrydoledig\u201d ei gwaith.<\/p>\n<p>I gydnabod ei gwaith, mae Victoria wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Gyda chymorth aseswyr llythrennedd digidol Educ8 Training a chyrsiau annibynnol, aeth Victoria ati i wella&#8217;i sgiliau digidol a chreu llyfrynnau i helpu dysgwyr i addasu i sesiynau dysgu ar-lein yn ystod y pandemig. <\/p>\n<p>Mae&#8217;n frwd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eu hymgorffori yn ei chynlluniau dysgu. Mae&#8217;n diweddaru ei gwybodaeth am gymwysterau a strategaethau asesu newydd yn barhaus ac yn ei rhannu \u00e2 chydweithwyr. <\/p>\n<p> \u201cRhinwedd fwyaf Victoria yw\u2019r gallu i wybod beth yw anghenion pob un o&#8217;i dysgwyr a theilwra\u2019r dulliau dysgu er mwyn goresgyn rhwystrau dysgu personol neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY),\u201d meddai Emma McCutcheon, rheolwr ansawdd Educ8 Training. <\/p>\n<p> \u201cMae\u2019n cydnabod bod rhai o\u2019i dysgwyr, yn enwedig y rhai ag ADY, yn dysgu orau trwy wrando a gwylio yn hytrach na darllen. Caiff adnoddau Victoria eu rhannu fel arferion gorau gyda\u2019r t\u00eem asesu gofal plant.\u201d<\/p>\n<p>Mae Emma&#8217;n canmol gallu Victoria i ailennyn diddordeb dysgwyr a chyflogwyr sydd wedi colli diddordeb mewn prentisiaethau trwy addasu cynlluniau dysgu. <\/p>\n<p> \u201cRydyn ni&#8217;n hynod falch o gael Victoria yn ein t\u00eem,\u201d meddai Emma. \u201cMae\u2019r gefnogaeth a\u2019r arweiniad y mae\u2019n eu rhoi i\u2019w chydweithwyr yn sicrhau bod gennym d\u00eem effeithiol iawn o aseswyr sy\u2019n cyrraedd y safonau uchaf wrth ddysgu. Mae pob rhan o&#8217;i gwaith yn batrwm o arferion gorau. <\/p>\n<p>Dywedodd Victoria: \u201cMae&#8217;r profiad a gefais yn y sector gofal plant yn ddefnyddiol iawn i helpu dysgwyr i gysylltu gwaith ymarferol \u00e2 theori a gwybodaeth. Mae hynny\u2019n bwysig gan fod y cymhwyster newydd wedi\u2019i anelu at uwchsgilio\u2019r gweithlu. <\/p>\n<p> \u201cMae gen i wahanol fathau o ddysgwyr ac mae\u2019n braf ceisio canfod ffordd o ddysgu sy\u2019n gweithio iddyn nhw.\u201d <\/p>\n<p>Wrth longyfarch Victoria a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p> \u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p> \u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p> \u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-victoria-morris#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Victoria Morris yn manteisio i\u2019r eithaf ar ei phrofiad o dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sector gofal plant wrth wneud ei gwaith presennol fel asesydd gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Educ8 Training. Mae Victoria, 52 oed, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-victoria-morris\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9004","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9004","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9004"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9004\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9036,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9004\/revisions\/9036"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9004"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9004"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9004"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}