{"id":9008,"date":"2022-10-18T08:00:59","date_gmt":"2022-10-18T07:00:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9008"},"modified":"2022-10-13T18:57:36","modified_gmt":"2022-10-13T17:57:36","slug":"aac2022-fsg-tool-die","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-fsg-tool-die\/","title":{"rendered":"Enw da gan gwmni peirianneg am brentisiaid medrus iawn"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-fsg-tool-die\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-fsg-tool-die\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae gan gwmni gwneud t\u0175ls a deiau enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>Mae prentisiaid sy&#8217;n gweithio i FSG Tool and Die, Llantrisant, yn rhagori mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. <\/p>\n<div id=\"attachment_15236\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/FSG-Press-pic-scaled-e1665683562581.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15236\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/FSG-Press-pic-scaled-e1665683562581.jpg\" alt=\"Apprenticeships co-ordinator in factory with apprentices.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15236\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15236\" class=\"wp-caption-text\">Cydlynydd prentisiaid FSG Tool and Die, Steve Cope, a phrentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Enwyd Max James yn Brentis Peirianneg y Flwyddyn, Cymru, ac roedd Kodie Higgins yn agos at y brig yng nghategori Prentis Peirianneg: Seren sy&#8217;n Codi, Cymru, yng ngwobrau Make UK 2021. Aeth Kodie ymlaen i ennill medal aur yn y categori Melino CNC yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. <\/p>\n<p>Ymunodd Sion Murray a Will Holmes \u00e2 Kodie yn rownd derfynol WorldSkills UK 2021, lle&#8217;r enillodd Sion fedal aur.<\/p>\n<p>I gydnabod ei ymrwymiad i brentisiaid, mae FSG Tool and Die wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Mae dros 90 yn gweithio i FSG Tool and Die, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwmni&#8217;n cynnig datrysiadau ym meysydd datblygu a pheirianneg i gwsmeriaid ledled y byd ac yn allforio dros hanner ei gynhyrchion. <\/p>\n<p>Bu prentisiaid y cwmni&#8217;n helpu i symleiddio ei broses weithgynhyrchu, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant. Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.<\/p>\n<p>Ers iddo sefydlu ei raglen brentisiaethau yn 1969, mae FSG Tool and Die yn cymryd pum prentis bob blwyddyn ac mae&#8217;r rheiny&#8217;n tueddu i aros gyda\u2019r cwmni am amser hir, gyda rhai ohonynt yn symud ymlaen i d\u00eem yr uwch-arweinwyr. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni\u2019n cydweithio\u2019n agos ag ysgolion a cholegau lleol i hyrwyddo gweithgynhyrchu ac mae&#8217;n rhedeg cynllun \u2018Merched mewn Peirianneg\u2019 i recriwtio mwy o weithwyr benywaidd. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cDaeth ein rhaglen brentisiaethau ni yn ffon fesur i lawer o gwmn\u00efau yn y diwydiant,\u201d meddai Steve Cope, arweinydd rhagoriaeth ddarbodus\/weithredol FSG Tool and Die a&#8217;r cydlynydd prentisiaid.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p> \u201cMae ein prentisiaid ni\u2019n allweddol i waith y busnes o ddydd i ddydd ac yn cyfrannu\u2019n fawr at ein llwyddiant. Gan fod eu gwaith o safon mor uchel, mae&#8217;n help i gynnal ein henw da ac mae gennym hanes o gadw staff am flynyddoedd, weithiau am oes.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Amanda Bathory-Griffiths, TSW Training: \u201cMae prentisiaid FSG yn cael gyrfaoedd ystyrlon, gan greu profiad gwaith sy\u2019n ymestyn dros ddegawdau a chenedlaethau o&#8217;r un teuluoedd. Trwy hynny, mae FSG yn adnabyddus fel cyflogwr i\u2019r gymuned, ond mae gan ei brentisiaid enw da gartref a thramor am eu sgiliau eithriadol, eu gwytnwch a&#8217;u penderfyniad.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch FSG Tool and Die a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p> \u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p> \u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p> \u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tsw.co.uk\/\">TSW Training<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/prentisiaethau\/\">Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-fsg-tool-die#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gan gwmni gwneud t\u0175ls a deiau enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu\u2019r cwmni. Mae prentisiaid sy&#8217;n gweithio i FSG Tool and Die, Llantrisant, yn rhagori mewn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-fsg-tool-die\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9008","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9008","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9008"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9008\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9044,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9008\/revisions\/9044"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9008"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9008"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9008"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}