{"id":9013,"date":"2022-10-18T08:00:34","date_gmt":"2022-10-18T07:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9013"},"modified":"2022-10-13T19:03:16","modified_gmt":"2022-10-13T18:03:16","slug":"aac2022-newtown-school","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-newtown-school\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau Uwch yn helpu i godi safonau yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-newtown-school\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-newtown-school\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Ysgol Uwchradd y Drenewydd i symud allan o fesurau arbennig trwy wella arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ynghyd \u00e2 safonau addysgu a dysgu.<\/p>\n<div id=\"attachment_15228\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-Newtown-HS-e1665156502927.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15228\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-Newtown-HS-e1665156502927.jpg\" alt=\"Headteacher and staff standing outside Newtown High School\" width=\"460\" height=\"311\" class=\"size-full wp-image-15228\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15228\" class=\"wp-caption-text\">Pennaeth Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Robert Edwards gyda Cate Harnden o Portal Training ac aelodau o\u2019r staff, Natalie Havard, Ben Jones, Hannah Walton a Sally Huxley.<br \/><\/p><\/div>\n<p>Rhoddwyd yr ysgol, sydd \u00e2 1,200 o ddisgyblion, o dan fesurau arbennig yn dilyn arolygiad gan Estyn yn 2015 pan nodwyd gwendidau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, hunanasesu a chynllunio cyffredinol ar gyfer gwelliant parhaus.<\/p>\n<p>Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn, mae 18 aelod o&#8217;r staff naill ai wedi cwblhau neu\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant Portal Training o Gaerdydd.<\/p>\n<p>Codwyd y mesurau arbennig oedd ar yr ysgol ym mis Hydref y llynedd ac mae pawb ond un o\u2019r t\u00eem arwain presennol o bump wedi cymryd rhan mewn Prentisiaeth Uwch.<br \/>\nMae arweinyddiaeth a rheolaeth, safonau addysgu a dysgu, a lefelau presenoldeb oll wedi gwella.<\/p>\n<p>Mae nifer y gwersi yn yr ysgol a ddyfarnwyd yn &#8216;Dda&#8217; neu&#8217;n uwch wedi cynyddu&#8217;n sylweddol a lefel presenoldeb wedi codi o 94% i 95.5%, gan fynd \u00e2&#8217;r ysgol o&#8217;r 25% isaf i&#8217;r 25% uchaf yng Nghymru o fewn 12 mis.<\/p>\n<p>I gydnabod y trawsnewidiad hwn, mae Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Canmolwyd cyfraniad Portal Training gan y pennaeth, Robert Edwards, gan ddweud bod Prentisiaethau Uwch wedi rhoi\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau i staff weithio mewn swyddi uwch, sicrhau dyrchafiad mewnol a dod yn arweinwyr effeithiol yn yr ysgol a&#8217;r tu hwnt. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae&#8217;r staff yn cyfrannu at strategaethau addysg Powys gyfan ac yn s\u00f4n wrth ysgolion eraill ledled Cymru am daith lwyddiannus Ysgol Uwchradd y Drenewydd tuag at wella. <\/p>\n<p>Ers ymweliad monitro diwethaf Estyn, mae\u2019r ysgol wedi mabwysiadu nifer o strategaethau i alluogi arweinwyr canol i fod yn fwy effeithiol yn eu gwaith. <\/p>\n<p>Ffurfiwyd partneriaethau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 lleoliadau profiad gwaith mewn busnesau lleol a phrosiectau llesiant cymunedol.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Mr Edwards, roedd effaith Prentisiaethau Uwch yn \u201cenfawr\u201d. Ymrwymodd i barhau i&#8217;w cynnig ochr yn ochr \u00e2 phecyn cymorth ar gyfer adolygu datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn helpu i gynllunio olyniaeth gyda&#8217;r nod o ddiogelu&#8217;r ysgol at y dyfodol.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cTrwy gynnig Prentisiaethau Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, rydyn ni&#8217;n credu&#8217;n gryf ein bod wedi datblygu, ac y byddwn yn dal i ddatblygu, arweinwyr cryf \u00e2 chydwybod foesol a fydd yn cyfrannu at weledigaeth yr uwch arweinwyr ar gyfer yr ysgol,\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p> meddai. \u201cBydd hyn, yn ei dro, yn golygu bod yr ysgol gyfan yn ymroi i wella.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Clare Jeffries, cyfarwyddwr gweithrediadau Portal Training: \u201cMae Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi bod ar daith ryfeddol, gan ddangos gwydnwch ac angerdd i roi newidiadau ar waith er mwyn gwella safonau, cymhelliant staff a hyder rhieni a\u2019r gymuned yn yr ysgol.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Ysgol Uwchradd y Drenewydd a phawb arall ar y rhestrau byrion gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.portaltraining.co.uk\/cy\/\">Portal<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-newtown-school#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Ysgol Uwchradd y Drenewydd i symud allan o fesurau arbennig trwy wella arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ynghyd \u00e2 safonau addysgu a dysgu. Rhoddwyd yr ysgol, sydd \u00e2 1,200 o ddisgyblion, o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-newtown-school\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9013","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9013","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9013"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9013\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9046,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9013\/revisions\/9046"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9013"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9013"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9013"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}