{"id":9015,"date":"2022-10-18T08:00:41","date_gmt":"2022-10-18T07:00:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9015"},"modified":"2022-10-13T19:08:21","modified_gmt":"2022-10-13T18:08:21","slug":"aac2022-si-lwli","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-si-lwli\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau&#8217;n helpu meithrinfa ddydd i ddatblygu staff medrus gofal plant"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-si-lwli\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-si-lwli\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae meithrinfa ddydd Gymraeg yng Nghaerdydd yn defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithwyr medrus i roi&#8217;r gofal gorau posibl i deuluoedd a phlant. <\/p>\n<p>Mae 20 o weithwyr ym meithrinfa Si Lwli yn yr Eglwys Newydd. Mae&#8217;n rhannu arferion gorau gyda meithrinfeydd eraill ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn i&#8217;r staff wella&#8217;u sgiliau a&#8217;u gwybodaeth yn barhaus. <\/p>\n<div id=\"attachment_15230\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Si-Lwli-Nursery-1-e1665156682320.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15230\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Press-pic-App-Awards-Si-Lwli-Nursery-1-e1665156682320.jpg\" alt=\"Si Lwli manager Kim Hellyar with staff. in nursery.\" width=\"460\" height=\"303\" class=\"size-full wp-image-15230\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15230\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Si Lwli, Kim Hellyar gydag aelodau o\u2019r staff.<\/p><\/div>\n<p>Mae gan y cwmni saith prentis sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Gofal Plant o Lefelau 2 i 4 ac mae\u2019r ddwy reolwr, Kimberley Hellyar a Sophie Lewis, wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Cyflenwir yr holl brentisiaethau gan y darparwr hyfforddiant Educ8 Training o Ystrad Mynach.<\/p>\n<p>Yn awr, cafodd ymrwymiad Si Lwli i brentisiaethau ei gydnabod trwy ei chynnwys ar restr fer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi\u2019u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw\u2019r prif noddwr.<\/p>\n<p>Nod y feithrinfa yw cefnogi anghenion ieithyddol sensitif pob teulu drwy feithrin perthnasoedd da a hybu\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>Dywed Si Lwli fod prentisiaethau wedi galluogi\u2019r feithrinfa i feithrin enw da am ddarparu gofal o safon uchel trwy hyfforddi, datblygu a chadw staff medrus.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cBu gan Si Lwli raglen brentisiaethau ers sefydlu\u2019r cwmni ddegawd yn \u00f4l ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i\u2019r busnes,\u201d meddai Kimberley. \u201cMae prentisiaethau\u2019n ganolog i&#8217;n gwaith dysgu a thwf y busnes.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cMaen nhw&#8217;n esbonio&#8217;r theori a&#8217;r rhesymau pam rydyn ni&#8217;n gwneud yr hyn a wnawn ac maen nhw wedi helpu&#8217;r t\u00eem ehangach i ddeall pam maen nhw\u2019n gwneud gwahanol bethau a sut mae&#8217;r rhain o fudd i&#8217;r plant.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni&#8217;n ymfalch\u00efo mewn dod o hyd i dalent a phobl sydd wir yn teimlo&#8217;n angerddol dros y sector, gan helpu&#8217;r genhedlaeth nesaf o ddarparwyr gofal plant i gymryd eu cam cyntaf i&#8217;r diwydiant. <\/p>\n<p>\u201cDylai pawb gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a\u2019u harbenigedd a gall prentisiaeth helpu pobl i gyflawni eu dyheadau hirdymor ar gyfer eu gyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Trwy gydweithio&#8217;n agos \u00e2&#8217;r feithrinfa, mae Rhian Weeks, o Educ8 Training, yn teilwra hyfforddiant hyblyg i ateb anghenion prentisiaid unigol, yn cynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae mentora cychwynnol, arweiniad rheolaidd un i un, adolygu ac arfarnu perfformiad a chymorth iechyd meddwl a llesiant oll yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau dysgu unigol. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r bartneriaeth gydag Educ8 Training wedi sicrhau bod ein rhaglen brentisiaethau wedi aeddfedu ac esblygu\u2019n barhaus,\u201d meddai Kim. <\/p>\n<p>Dywedodd Rhian Weeks, o Educ8 Training: \u201cMae Si Lwli yn mynd yr ail filltir i helpu ei staff, gan roi cefnogaeth aruthrol iddyn nhw i ddatblygu eu sgiliau, cyrraedd eu potensial a rhoi&#8217;r\u2019r gwasanaeth gorau posibl i\u2019r plant yn ei gofal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r cwmni\u2019n credu&#8217;n gryf mewn datblygiad gydol oes a dysgu seiliedig ar waith.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch Si Lwli a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: \u201cMae prentisiaethau\u2019n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cGallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. <\/p>\n<p>\u201cFel rhan o\u2019n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella\u2019u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-si-lwli#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae meithrinfa ddydd Gymraeg yng Nghaerdydd yn defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithwyr medrus i roi&#8217;r gofal gorau posibl i deuluoedd a phlant. Mae 20 o weithwyr ym meithrinfa Si Lwli yn yr Eglwys Newydd. Mae&#8217;n rhannu arferion &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-si-lwli\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9015","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9015","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9015"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9015\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9047,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9015\/revisions\/9047"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9015"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9015"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9015"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}