{"id":9089,"date":"2022-11-10T21:21:41","date_gmt":"2022-11-10T21:21:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9089"},"modified":"2022-11-10T21:21:41","modified_gmt":"2022-11-10T21:21:41","slug":"aac2022-winners","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-winners\/","title":{"rendered":"Cydnabod s\u00ear Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith mewn seremoni wobrwyo rithwir"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"english\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac2022-winners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-winners\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Cafwyd cyfle i wobrwyo prentisiaid sydd \u00e2 straeon ysbrydoledig, cyflogwyr sy&#8217;n ymroi i ddatblygu gweithlu medrus iawn ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sy\u2019n mynd yr ail filltir ar ran eu dysgwyr, mewn seremoni rithwir neithiwr (nos Iau).<\/p>\n<p>Roedd 23 o gystadleuwyr, o bob rhan o Gymru, sydd wedi rhagori ar Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Roedd angen mewngofnodi ar lein i glywed enwau enillwyr y naw gwobr yn cael eu cyhoeddi. <\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r noddwr pennaf, Openreach.<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd holl enillwyr y gwobrau a\u2019r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. \u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru\u2019n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi\u2019r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwyf i o\u2019r farn bod prentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau.  Rwy\u2019n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau\u2019r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.<\/p>\n<p>\u201cEr mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru, \u201cLlongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.  Mae pawb sydd ar y rhestrau byrion wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i&#8217;w sefydliad ac mae&#8217;n iawn bod hynny&#8217;n cael ei gydnabod.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni yn Openreach yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein prentisiaid yn ei wneud wrth ddod \u00e2 sgiliau, egni a ffyrdd newydd o weithio i\u2019r busnes.<\/p>\n<p>\u201cWrth i ni barhau i adeiladu ein rhwydwaith ffeibr cyflym iawn ledled Cymru bydd ein prentisiaid yn chwarae rhan hanfodol \u2013 nid dim ond yn Openreach ond hefyd yn economi ehangach Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae dwy o enillwyr y gwobrau, Chrystalla Moreton, 20, o\u2019r Tyllgoed, Caerdydd a Kiera Dwyer, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, wedi goresgyn heriau mawr yn eu bywydau a mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd addawol.<\/p>\n<p>Prentis peirianneg yw Chrystalla, a enillodd y wobr <strong>Doniau\u2019r Dyfodol<\/strong> ac mae\u2019n gweithio i&#8217;r cwmni dur cyfnerthedig Celsa Steel UK yng Nghaerdydd. Mae\u2019n awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn \u00f4l ei chyflogwr, oedd ar restr fer y wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, mae\u2019n \u201cseren ddisglair\u201d.<\/p>\n<div id=\"attachment_15324\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15324\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/App-Awards-Chrystalla-Moreton-28-e1668114153668.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15324\" \/><p id=\"caption-attachment-15324\" class=\"wp-caption-text\">Chrystalla Moreton, enillydd gwobr Doniau\u2019r Dyfodol.<\/p><\/div>\n<p>Bu\u2019n rhaid i Chrystalla newid ei chynllun gwreiddiol o ymuno \u00e2\u2019r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Erbyn hyn. mae\u2019n gwneud iawn am yr amser a gollwyd gan weithio tuag at Brentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW. Mae hefyd yn parhau i gefnogi ei theulu. <\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l cyfnod isel iawn, mae hwn yn drawsnewidiad enfawr,\u201d meddai Chrystalla.<\/p>\n<p>Kiera, technegydd fferyllol sydd \u00e2 Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, enillodd wobr <strong>Prentis y Flwyddyn<\/strong>. Mae wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith yn Sheppards Pharmacy, rhan o gr\u0175p Avicenna, yn Abercynon.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, bu&#8217;n rhaid i Kiera ddelio \u00e2 nifer o ddigwyddiadau trawmatig yn y teulu, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi. Mae wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i\u2019r fferyllwyr ymdrin \u00e2 chleifion. O ganlyniad i hyn, mae&#8217;r fferyllfa gymunedol yn cael sg\u00f4r o hyd at 100% gan gleifion.<\/p>\n<p>Er mwyn dod dros y straen gweledol, buddsoddodd Kiera mewn cymhorthion dysgu ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifennu ac adolygu er mwyn cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy\u2019r corff dyfarnu Pearson, a City &#038; Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth.  <\/p>\n<p>Cyflenwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd bob amser yn troi at Jayne Williams, enillydd gwobr <strong>Prentis Uwch y Flwyddyn<\/strong>, i annog pobl i wneud prentisiaethau, diolch i\u2019w brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu.<\/p>\n<p>Mae swydd Jayne, 58, o Gasnewydd, fel clerc llys wedi&#8217;i ehangu i gynnwys hyfforddi staff, mentora, hwyluso a chyrsiau academi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd drwy weithdai ar-lein.<\/p>\n<p>Hi oedd y cyntaf o weithwyr y Gwasanaeth i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT. Yn awr, mae Jayne yn gobeithio parhau \u00e2\u2019i thaith ddysgu trwy ennill rhagor o gymwysterau.<\/p>\n<p>Angelina Mitchell, 28, sy\u2019n swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol gyda\u2019r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd, a enwyd yn <strong>Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith<\/strong>.<\/p>\n<div id=\"attachment_15325\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15325\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/APP-Awards-Angelina-Mitchell-4-e1668114233581.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"293\" class=\"size-full wp-image-15325\" \/><p id=\"caption-attachment-15325\" class=\"wp-caption-text\">Angelina Mitchell, Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.<\/p><\/div>\n<p>A hithau\u2019n gwneud gwaith arloesol yn cyflwyno\u2019r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru, mae Angelina yn credu mai ei r\u00f4l yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.<\/p>\n<p>Bu Angelina\u2019n dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd ac ymunodd ag ACT gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a\u2019i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio\u2019r dechnoleg ddigidol.<\/p>\n<p>Er mwyn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau ac mae\u2019n eu cyflenwi\u2019n ddwyieithog ar \u00f4l ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn &#8216;Cymraeg Gwaith&#8217; (canolradd). Mae naw deg y cant o ddysgwyr Angelina\u2019n cwblhau eu cymhwyster ac mae&#8217;n cael sg\u00f4r ymgysylltu \u00e2 chyflogwyr o 88%. <\/p>\n<p>Cwmni FSG Tool and Die o Lantrisant a enwyd yn <strong>Gyflogwr Canolig y Flwyddyn<\/strong>. Mae ganddo enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>Mae prentisiad y cwmni gwneud t\u0175ls a deiau yn serennu mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ac maent wedi helpu i symleiddio ei broses weithgynhyrchu, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant. <\/p>\n<p>Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.<\/p>\n<p>Mae dros 90 yn gweithio i FSG Tool and Die, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.<\/p>\n<p>Aeth gwobr <strong>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn<\/strong> i\u2019r Kepak Group Limited, Merthyr Tudful sydd wedi creu ei hyfforddwyr mewnol ei hun er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr a datblygu gweithlu medrus.<\/p>\n<p>Ddim ond 18 mis ar \u00f4l i Kepak fabwysiadu&#8217;r drefn hyfforddi newydd hon sy&#8217;n seiliedig ar waith, gyda chefnogaeth y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae\u2019r cwmni eisoes wedi elwa o weld gostyngiad o 15% yn nhrosiant staff ac mae&#8217;r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch.<\/p>\n<p>Mae deugain o weithwyr yn gweithio tuag at brentisiaethau sy\u2019n cynnwys Sgiliau\u2019r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau\u2019r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain T\u00eem Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4), a Rheolaeth (Lefel 4 a 5). <\/p>\n<p>Arweinydd t\u00eem gofal cartref, Boglarka-Tunde Incze o Lanrug a enwyd yn <strong>Brentis Sylfaen y Flwyddyn<\/strong>.  Newidiodd gyfeiriad ei gyrfa yn ystod y pandemig ar \u00f4l cyfnod yn defnyddio\u2019i Gradd Baglor mewn Cyfrifiadureg i weithio i gwmn\u00efau rhyngwladol. <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n helpu Boglarka-Tunde i wneud gwahaniaeth i fywydau\u2019r bobl y mae hi\u2019n gofalu amdanynt yn eu cartrefi ac i\u2019w chydweithwyr. O Romania y daw Boglarka yn wreiddiol. Mae\u2019n dysgu Cymraeg ac yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf ac fel cynorthwyydd gofal iechyd lliniarol gyda Marie Curie.<br \/>\n.<br \/>\nMae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment a hoffai gymhwyso fel asesydd. <\/p>\n<p>Lansiwyd meithrinfa Willow Daycare, enillydd gwobr <strong>Cyflogwr Bach y Flwyddyn<\/strong>, yng Nghaerfyrddin yn anterth y pandemig Covid-19 gan roi pwyslais cryf ar hyfforddi staff trwy brentisiaethau.<\/p>\n<p>Agorodd y perchennog, Rebecca Davies, y busnes ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ar \u00f4l gweld bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG.<\/p>\n<p>Mae gan Willow Daycare 20 o weithwyr ac mae nifer y plant sy\u2019n mynychu wedi codi o saith ar y dechrau i 130 ymhen blwyddyn. Cyflenwir Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal \u00e2 Gwaith Chwarae Lefel 3 gan TSW Training. <\/p>\n<p>Aeth gwobr <strong>Macro-gyflogwr y Flwyddyn<\/strong> i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi lansio rhaglen brentisiaethau flaengar i gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu\u2019r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru\u2019n heneiddio.<\/p>\n<div id=\"attachment_15323\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15323\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/App-Awards-Cwm-Taf-Morgannwg-7--e1668113599920.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15323\" \/><p id=\"caption-attachment-15323\" class=\"wp-caption-text\">Rhian Lewis, partner busnes dysgu a datblygu ym maes cymwysterau gyda phrentisiais labordy ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, enillydd gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn.<\/p><\/div>\n<p>Ar \u00f4l canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru&#8217;n 65 oed neu\u2019n h\u0177n erbyn 2036, datblygodd y Bwrdd ei strategaeth bedair blynedd yn \u00f4l i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith. Cyflenwir Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) \u2013 y gyntaf o\u2019i math yng Nghymru \u2013 mewn partneriaeth \u00e2\u2019r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training. <\/p>\n<p>Mae\u2019r Brentisiaeth Uwch yn pontio\u2019r bwlch oedd rhwng prentisiaethau Lefel 3 ym maes iechyd a gradd, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i fod yn wyddonwyr cofrestredig. Mae dros 550 o staff wedi manteisio ar brentisiaeth.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000. <\/p>\n<p><strong>Ar y Rhestrau Byrion:<\/strong><\/p>\n<p>Ar restr fer <strong>Prentis Sylfaen<\/strong> y Flwyddyn:  Olivia Headley-Grant, o\u2019r Barri, sy\u2019n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a\u2019r Fro; Malgorzata Bienko, sy\u2019n gweithio yn School Lane Preschool, Llandudno ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor.<\/p>\n<p>Ar restr fer <strong>Prentis y Flwyddyn<\/strong>: James Matthewman, o Glwb Golff Maes-teg, y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Penybont; a Dion Evans, sy\u2019n gweithio i Alwyn Evans Cyf yn Nhalgarreg, Llandysul ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Ceredigion and Choleg Sir G\u00e2r<\/p>\n<p>Ar restr fer gwobr <strong>Prentis Uwch<\/strong> y Flwyddyn: Albert Brennan o Gefn-y-bedd, Wrecsam, sy\u2019n gweithio i Airbus ym Mrychdyn ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Brifysgol Abertawe; a Michelle Gaskell o\u2019r Fenni, sy\u2019n gweithio i\u2019r Forensic Capability Network ac y darparwyd ei hyfforddiant gan ALS Training.<\/p>\n<p>Ar restr fer gwobrau <strong>Cyflogwr Bach a Chanolig<\/strong> y Flwyddyn: Si Lwli, yr Eglwys Newydd, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training; ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd y darperir ei hyfforddiant gan Portal Training.<\/p>\n<p>Ar restrau byrion <strong>Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr<\/strong> y Flwyddyn: Persimmon Homes West Wales y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Penybont; a Celsa Steel UK, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training<\/p>\n<p>Ar restr fer <strong>Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith<\/strong>: Victoria Morris o Educ8 Training, Ystrad Mynach a Hayley Walters o Itec Training Solutions, Caerdydd.<\/p>\n<p>Ar restr fer gwobr <strong>Doniau\u2019r Dyfodol<\/strong>: Anya O&#8217;Callaghan o Spirit Hair Team, Ystrad Mynach, y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training ac Evan Coombs o PCI Pharma Services ac Anelu\u2019n Uchel Blaenau Gwent ac y darperir ei hyfforddiant gan Goleg y Cymoedd a Choleg G\u0175yr, Abertawe.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2022\">Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-winners#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafwyd cyfle i wobrwyo prentisiaid sydd \u00e2 straeon ysbrydoledig, cyflogwyr sy&#8217;n ymroi i ddatblygu gweithlu medrus iawn ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sy\u2019n mynd yr ail filltir ar ran eu dysgwyr, mewn seremoni rithwir neithiwr (nos &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac2022-winners\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9089","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9089","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9089"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9089\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9093,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9089\/revisions\/9093"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9089"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9089"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9089"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}