{"id":9114,"date":"2022-11-21T08:00:21","date_gmt":"2022-11-21T08:00:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9114"},"modified":"2022-11-19T10:48:29","modified_gmt":"2022-11-19T10:48:29","slug":"winners2022-apprentice","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/winners2022-apprentice\/","title":{"rendered":"Technegydd fferyllol cydwybodol yn ennill gwobr Prentis y Flwyddyn"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"english\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/winners2022-apprentice\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/winners2022-apprentice\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Kiera Dwyer wedi ennill gwobr genedlaethol o fri, diolch i\u2019w phenderfyniad, ei hymroddiad a\u2019i hymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon.<\/p>\n<div id=\"attachment_15337\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Press-pic-Kiera-Dwyer-app-awards-18-e1668854771106.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15337\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Press-pic-Kiera-Dwyer-app-awards-18-e1668854771106.jpg\" alt=\"kiera in her uniform at work\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15337\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15337\" class=\"wp-caption-text\">Kiera Dwyer, Prentis y Flwyddyn yng Nghymru.<\/p><\/div>\n<p>Enwyd Kiera, 24, technegydd fferyllol o Rydyfelin, Pontypridd, yn Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.<\/p>\n<p>Roedd Kiera, sydd \u00e2 Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, yn gweithio ar reng flaen y GIG yn ystod y pandemig, a bu&#8217;n rhaid iddi ddelio \u00e2 nifer o ddigwyddiadau trawmatig yn y teulu, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi.<\/p>\n<p>\u201cMae ennill y wobr yma\u2019n meddwl y byd i mi,\u201d meddai. \u201cEr gwaetha\u2019r anawsterau yn fy mywyd personol a fy anabledd, mae\u2019n dangos bod gwaith caled yn talu\u2019r ffordd. Roedd yn wych cael y bobl rwy\u2019n meddwl fwyaf ohonyn nhw wrth fy ochr i ddathlu.<\/p>\n<p>\u201cRoedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr yn rhyfeddol ac roedd ei hennill yn hollol anhygoel.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i eisiau gwneud prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso\u2019r wybodaeth rydw i\u2019n ei dysgu, yn cynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau cyffuriau\u2019n gweithio mewn gwahanol ffyrdd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni\u2019n tynnu sylw at y rhyfeddodau a gyflawnwyd gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith mewn cyfnod anodd.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r noddwr pennaf, Openreach.<\/p>\n<p>Mae Kiera wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Fferyllfa Sheppards, sy\u2019n rhan o gr\u0175p Avicenna, i ymdrin \u00e2 chleifion. O ganlyniad i hyn, mae&#8217;r fferyllfa wedi cael sg\u00f4r o hyd at 100% gan gleifion. <\/p>\n<p>Er mwyn dod dros y straen gweledol, buddsoddodd Kiera mewn cymhorthion dysgu ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifennu ac adolygu er mwyn cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy\u2019r corff dyfarnu Pearson, a City &#038; Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth. <\/p>\n<p>Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training. Ei bwriad yn awr yw parhau \u00e2\u2019i thaith ddysgu fel y gall roi mwy o gefnogaeth i\u2019r fferyllwyr yn y gwaith.<\/p>\n<p>Llongyfarchwyd Kiera a holl enillwyr eraill y gwobrau a\u2019r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. \u201cMae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru\u2019n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi\u2019r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwyf i o\u2019r farn bod prentisiaethau\u2019n hanfodol i\u2019r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni\u2019n buddsoddi \u00a3366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy\u2019n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau\u2019r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.<\/p>\n<p>\u201cEr mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a\u2019n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw\u2019r norm i gyflogwyr.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/winners2022-apprentice#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Kiera Dwyer wedi ennill gwobr genedlaethol o fri, diolch i\u2019w phenderfyniad, ei hymroddiad a\u2019i hymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith mewn fferyllfa gymunedol yn Abercynon. Enwyd Kiera, 24, technegydd fferyllol o Rydyfelin, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/winners2022-apprentice\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9114","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9114"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9114\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9115,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9114\/revisions\/9115"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}