{"id":9143,"date":"2022-12-15T07:47:16","date_gmt":"2022-12-15T07:47:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9143"},"modified":"2022-12-15T09:24:21","modified_gmt":"2022-12-15T09:24:21","slug":"act-dec-22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-dec-22\/","title":{"rendered":"Pobl ifanc o Wcr\u00e1in yn mwynhau ymweld \u00e2 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-dec-22\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-dec-22\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Fel rhan o Ddiwrnod Cyfoethogi arbennig, bu gr\u0175p o ddysgwyr o Wcr\u00e1in sy\u2019n astudio gydag ACT yn crwydro\u2019r safle treftadaeth helaeth gan gael cipolwg ar fywyd Cymru ar draws y cenedlaethau.<\/p>\n<div id=\"attachment_15417\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/ACT-2-e1670250858226.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15417\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/ACT-2-e1670250858226.jpeg\" alt=\"Myfyrwyr yn sefyll wrth gownter siop\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-15417\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15417\" class=\"wp-caption-text\">Myfyrwyr o Wcr\u00e1in yn siop Gwalia yn ystod ymweliad \u00e2 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.<\/p><\/div>\n<p>Mae Diwrnodau Cyfoethogi yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ a ddarperir gan ACT ac maent yn rhoi cyfle i ddysgwyr gael profiadau na fyddent yn eu cael fel arfer. Trwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau y mae eu cyfoedion mwy breintiedig yn eu cymryd yn ganiataol, maent yn helpu i daclo anghydraddoldebau ac yn hwb i ddatblygu sgiliau cysylltiedig \u00e2 gwaith, fel gwaith t\u00eem a chyfathrebu.<\/p>\n<p>Daeth yr Anogwr Dysgu Diana Oleksiuk gyda\u2019r dysgwyr i Sain Ffagan. Un o Wcr\u00e1in ydi hithau a ddechreuodd weithio gydag ACT ychydig fisoedd yn \u00f4l. Dywedodd y myfyrwyr o Wcr\u00e1in \u2013 sy\u2019n dysgu Saesneg ar raglen ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ACT \u2013 bod pawb ohonynt wedi mwynhau cael golwg ar hanes Cymru ynghanol harddwch Sain Ffagan.<\/p>\n<p>Dywedodd Tamara Podolska, 16: \u201cRoedd yna adeiladau hen iawn o bob rhan o Gymru, a oedd wedi\u2019u tynnu\u2019n ddarnau a\u2019u hailadeiladu yn yr amgueddfa. Roedd yn c\u0175l! Ers dod i Gymru, dwi&#8217;n hoffi bod yna lawer o gestyll a pharciau hardd. Hefyd, mae yna bobl garedig!\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Anogwr Dysgu, Diana Oleksiuk, sy\u2019n dod o ddinas Chernivtsi, yng ngorllewin Wcr\u00e1in, fod y dysgwyr wedi&#8217;u swyno wrth gamu i orffennol Cymru yn yr amgueddfa. Ac meddai: \u201cWrth ymweld \u00e2 Sain Ffagan fe wnaethon ni sylweddoli gymaint sydd gan y Cymry a phobl Wcr\u00e1in yn gyffredin! Mae&#8217;r Cymry&#8217;n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn. Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac yn un i\u2019w gofio!\u201d<\/p>\n<p>Mae Diana, sydd wedi bod yn dysgu ers dros 15 mlynedd, yn gobeithio gwahodd rhai o drigolion Cymru i Wcr\u00e1in rhyw ddiwrnod, pan fydd heddwch.  <\/p>\n<p>Meddai: \u201cBydd mor braf croesawu Cymry i Wcr\u00e1in, ar \u00f4l y rhyfel, i gymharu traddodiadau a dangos sut mae pobl Wcr\u00e1in yn byw. Mae\u2019n gyfnod anodd iawn nawr, ond rwy\u2019n meddwl ei fod hefyd yn gyfle i ddangos diwylliannau gwahanol i bobl ifanc a gwella eu sgiliau iaith.\u201d<\/p>\n<p>Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yw <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/twf-swyddi-cymru-plws\">Twf Swyddi Cymru+<\/a>. Mae\u2019n rhoi\u2019r sgiliau, y cymwysterau a\u2019r profiad y mae arnynt eu hangen i gael swydd neu hyfforddiant pellach.<\/p>\n<p>Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Twf Swyddi Cymru+ ac mae wedi\u2019i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae\u2019n cael ei chyllido\u2019n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymraeg.acttraining.org.uk\/traineeships\/1?force=2\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-dec-22#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Fel rhan o Ddiwrnod Cyfoethogi arbennig, bu gr\u0175p o ddysgwyr o Wcr\u00e1in sy\u2019n astudio gydag ACT yn crwydro\u2019r safle treftadaeth helaeth gan gael cipolwg ar fywyd Cymru ar draws y cenedlaethau. Mae Diwrnodau Cyfoethogi yn rhan o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-dec-22\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9143","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9143","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9143"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9143\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9215,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9143\/revisions\/9215"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9143"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9143"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9143"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}