{"id":9152,"date":"2022-12-15T07:45:29","date_gmt":"2022-12-15T07:45:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9152"},"modified":"2022-12-15T09:24:21","modified_gmt":"2022-12-15T09:24:21","slug":"educ8-dec-22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec-22\/","title":{"rendered":"Angen gwell sgiliau cyflogadwyedd ar weithwyr y dyfodol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-dec-22\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec-22\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi dysgu a phrofiad ymarferol, yn \u00f4l y darparwr prentisiaethau Educ8<\/p>\n<p>Ychydig wythnosau yn \u00f4l cafodd prentisiaethau gryn sylw unwaith eto a&#8217;u canmol am chwarae rhan ganolog yn system sgiliau ac addysg y Deyrnas Unedig \u2013 gan y Brenin Charles ei hun y tro hwn. <\/p>\n<div id=\"attachment_15430\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/Jude-Holloway-with-Zenzy-Flowers-scaled-e1670255253601.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15430\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/Jude-Holloway-with-Zenzy-Flowers-scaled-e1670255253601.jpg\" alt=\"Jude Holloway, rheolwr yn Educ8, gyda Zenzy Flowers, prentis, yn ei seremoni raddio.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15430\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15430\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Gyfarwyddwr Educ8, Jude Holloway (chwith) gyda Zenzy Flowers, prentis.<\/p><\/div>\n<p>Ac yntau&#8217;n ymddangos mewn pennod arbennig o The Repair Shop cyn dod yn frenin, canmolodd y Tywysog werth sgiliau technegol a phrentisiaethau, gan ddweud:  \u201cRwy&#8217;n gweld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud i bobl sydd \u00e2 sgiliau technegol, sy&#8217;n angenrheidiol trwy\u2019r amser.  Mae\u2019n rhoi boddhad mawr i bobl. \u201d<\/p>\n<p>Yn y gorffennol, c\u00e2i prentisiaethau eu hystyried yn \u2018opsiwn ail orau\u2019, rhywbeth ar gyfer pobl nad oedd yn ffynnu yn academaidd ac y byddai&#8217;n well iddynt gael hyfforddiant galwedigaethol yn hytrach na mynd  i brifysgol neu goleg fel disgyblion oedd yn llwyddo yn yr ysgol. <\/p>\n<p>Mae darparwyr fel Educ8 Training Group yn ymdrechu i chwalu&#8217;r camsyniad hwn gan bwysleisio bod prentisiaethau\u2019n cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol amhrisiadwy a chyfle i symud ymlaen yn eich gyrfa i ddysgwyr mewn amryw o sectorau.<\/p>\n<p>Fel un o brif ddarparwyr prentisiaethau Prydain, mae prentisiaethau ardderchog Educ8, sydd wedi\u2019u hariannu\u2019n llawn, yn cynnwys cyrsiau mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid, TG trwy\u2019r cwmni datrysiadau digidol Aspire 2Be, Gweinyddu Busnes, Arwain a Rheoli, Marchnata Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwallt a Harddwch, a Gofal Ceffylau ac Anifeiliaid trwy&#8217;r cwmni uchel ei barch Haddon Training. <\/p>\n<p><strong>Gwneud eich marc: yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano<\/strong><\/p>\n<p>Eleni, am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion, roedd mwy o swyddi gwag nag o bobl ddi-waith in y Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae sefydliadau\u2019n cael trafferth llenwi swyddi gweigion, gyda 61% o fusnesau\u2019r DU yn wynebu prinder sgiliau.  Amcangyfrifir bod mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r prinder hwn yn costio cyfanswm o tua \u00a36.1 biliwn y flwyddyn mewn costau hyfforddiant, cyflogau uwch, ffioedd recriwtio a staff dros dro.  Nodwyd hefyd bod diffyg \u2018sgiliau cyflogadwyedd\u2019 ymhlith ymgeiswyr; sef sgiliau datrys problemau, cynllunio a chyfathrebu sy&#8217;n hanfodol i alluogi staff i symud ymlaen ac addasu wrth i&#8217;r gweithle ddatblygu.  <\/p>\n<p>Mae prifysgolion yn newid yn sgil yr adborth hwn gan gyflogwyr, gyda chyrsiau&#8217;n cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol.  Serch hynny, hyd yn oed os yw graddau prifysgol yn esblygu, mae ymchwil gan y CIPD yn dangos bod dros draean (36%) o raddedigion y DU yn or-gymwys ar gyfer eu swyddi, gyda chyfran gynyddol yn cael eu caethiwo mewn swyddi sgiliau isel. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r astudiaeth yn dangos bod cyfran y graddedigion mewn swyddi sgiliau isel\/canolig wedi dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf, a bod graddedigion gor-gymwys yn llai bodlon yn eu swyddi a&#8217;u bywyd, eu bod yn llai brwdfrydig am eu gwaith ac yn fwy tebygol o fod eisiau rhoi&#8217;r gorau iddi, na graddedigion sydd mewn swyddi sy&#8217;n addas i&#8217;w cymwysterau.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n pontio\u2019r bwlch rhwng cyflogaeth ac astudio, ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater hwn trwy sicrhau bod prentisiaid yn cael y profiad a\u2019r wybodaeth ymarferol y mae arnynt eu hangen yn eu dewis faes.  Trwy gael y cyfle i roi\u2019r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith yn syth, mae gan brentisiaid fantais a gallant symud ymlaen yn gyflym yn eu swydd gyda mwy o foddhad a gwell canlyniadau.  <\/p>\n<p>Mae Zenzy Flowers wedi cael sawl swydd, o ofalwr i reolwr cofrestredig, gan wneud sawl cymhwyster gydag Educ8 Training:  \u201cRydw i wedi gweithio gydag Educ8 ers 8 mlynedd.  Rydw i wedi astudio ar gyfer Lefel 2, 3, 5 a 5 Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wedi symud ymlaen i wneud yr ILM Lefel 5. <\/p>\n<p>&#8220;Mae astudio ar gyfer y cymwysterau wedi bod yn wych gan ei fod wedi fy helpu i gael sawl dyrchafiad yn fy ngweithle a gweithio fy ffordd i fyny.  Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb hyn.&#8221; <\/p>\n<p>Y ffactor mawr arall sy\u2019n pwyso ar bob myfyriwr neu ddarpar fyfyriwr prifysgol yw\u2019r gost: gyda ffioedd bellach tua \u00a39,250 y flwyddyn, mae graddedigion yn eu cael eu hunain \u00e2 dyled gwerth bron \u00a330,000 a chyflog cyfartalog o \u00a321-25,000. <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau&#8217;n cynnig llwybr gyrfa gwych i ddysgwyr: cael eich talu i ennill eich cymhwyster.  Gan fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi dros \u00a3360m i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed dros y tair blynedd nesaf, caiff y cyrsiau eu hariannu\u2019n llawn (yn dibynnu ar gymhwysedd) ac mae&#8217;r cyflogau\u2019n gystadleuol.  <\/p>\n<p>Dywedodd Joe George, prentis :  \u201cWnes i gwblhau fy mhrentisiaeth Lefel 3 yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes yn ddiweddar. Roedd cael treulio amser mewn swydd a chael amser i astudio hefyd yn gweithio\u2019n dda i mi ac mae wedi bod yn wych gallu ennill cymhwyster a chael fy nhalu ar yr un pryd. \u201d<\/p>\n<p><strong>Paratoi cenedlaethau&#8217;r dyfodol i lwyddo  <\/strong><\/p>\n<p>Gyda chyflogwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau ymarferol, mae\u2019n amlwg bod prentisiaethau&#8217;n dod yn fwyfwy poblogaidd fel llwybr i fyd gwaith, gan ganiat\u00e1u i ddysgwyr gerdded i mewn i swydd a chael effaith gadarnhaol o&#8217;r dechrau.  <\/p>\n<p>Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i farchnad sgiliau\u2019r DU, a bydd penderfyniadau pobl ifanc am eu haddysg a\u2019u gyrfa yn cael effaith fawr ar dwf y genedl. <\/p>\n<p>Felly, mae&#8217;r cyngor a&#8217;r gefnogaeth a g\u00e2nt yn hollbwysig, gyda rhieni, ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd yn chwarae rhan enfawr.  \u00c2 phrentisiaethau wedi cael s\u00eal bendith y Brenin, mae\u2019n bryd anghofio&#8217;r stereoteipiau a mynd ati i gefnogi dysgwyr ifanc i wneud y dewis cywir drostynt eu hunain.  <\/p>\n<p>Dro ar \u00f4l tro yn Educ8, mae dysgwyr yn dangos mai cymeriad \u2013 eu huchelgais a\u2019u dycnwch \u2013 sy\u2019n sicrhau llwyddiant mewn bywyd, nid dim ond y llwybr addysg a ddewisant. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/apprenticeships\">Educ8<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec-22#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi dysgu a phrofiad ymarferol, yn \u00f4l y darparwr prentisiaethau Educ8 Ychydig wythnosau yn \u00f4l cafodd prentisiaethau gryn sylw unwaith eto a&#8217;u canmol am chwarae rhan ganolog yn system sgiliau ac addysg y Deyrnas &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-dec-22\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9152","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9152","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9152"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9152\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9213,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9152\/revisions\/9213"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9152"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9152"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9152"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}