{"id":9249,"date":"2023-02-06T08:00:28","date_gmt":"2023-02-06T08:00:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9249"},"modified":"2023-02-03T14:55:56","modified_gmt":"2023-02-03T14:55:56","slug":"apps-week-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-week-2023\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau&#8217;n allweddol i ddyfodol a thwf busnes perarogleuon"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apps-week-2023\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-week-2023\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><\/p>\n<div id=\"attachment_15545\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/bwthyn-2-e1675246580145.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15545\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/bwthyn-2-e1675246580145.png\" alt=\"Owners Ruth and Alan standing in the shop with their apprentices Eleri and Eve\" width=\"460\" height=\"368\" class=\"size-full wp-image-15545\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15545\" class=\"wp-caption-text\">Perchnogion Bwthyn, Ruth ac Alun Hancock, gyda\u2019u prentisiaid Eleri Page ac Eve Stait.<\/p><\/div>\n<p>Mae aroglau llwyddiant ar fusnes a sefydlwyd gan \u0175r a gwraig mewn cwt haf yng Nghaerffili yn ystod cyfnod clo&#8217;r pandemig yn 2020. <\/p>\n<p>Mae gan gwmni Bwthyn siop a gweithdy yn Heol Caerdydd, Caerffili lle mae&#8217;n gwneud canhwyllau, sebon a thryledwyr perarogleuon \u00e2 llaw. Gan ei fod mor llwyddiannus, mae&#8217;r perchnogion Ruth ac Alun Hancock newydd recriwtio dwy brentis a&#8217;r nod yw cyflogi dau arall ym mis Mai.<\/p>\n<p>Gan eu bod yn gweld y bydd prentisiaethau&#8217;n allweddol er mwyn i&#8217;r busnes ddal i dyfu, roedd y cwpwl yn awyddus i rannu eu stori wrth ddathlu <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">Wythnos Prentisiaethau<\/a> yng Nghymru (https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth) &#8211; Chwefror 6-12.  <\/p>\n<p>Caiff nwyddau nodedig y cwmni eu cymysgu a&#8217;u harllwys, ychydig ar y tro, yn ei weithdy pwrpasol.  Mae Bwthyn yn gwneud perarogleuon unigryw hefyd ar gyfer cwmn\u00efau a chanolfannau mawr er mwyn gwella&#8217;u busnes a hyrwyddo&#8217;u brand. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae Ruth ac Alun yn manteisio ar y farchnad allforio gan fod Cymry sy\u2019n byw dramor yn hiraethu am beraroglau sy\u2019n eu hatgoffa o gartref.  Mae\u2019r cwmni\u2019n adrodd straeon i fynd gyda&#8217;i gynnyrch er mwyn ennyn atgofion hapus am Gymru. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill dwy wobr yng Ngwobrau Busnes Caerffili fis Tachwedd diwethaf, mae&#8217;r cwpl yn llawn cyffro am y dyfodol wrth iddynt gynllunio i ehangu i gynhyrchu persawrau ac agor siopau Bwthyn mewn pentrefi siopa chwaethus ledled Cymru.<\/p>\n<p>Dyna pam iddynt recriwtio dwy brentis, Eleri Page, 19, ac Eve Stait, 22, sy\u2019n gweithio ar Brentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu Busnes yn y drefn honno. C\u00e2nt eu cyflenwi gan Educ8 Training, Ystrad Mynach. <\/p>\n<p>Cafodd Eve, sy\u2019n awtistig, ei recriwtio gyda chymorth Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaid anabl.  Bwriad y cynllun, sy&#8217;n dod i ben ddiwedd Mawrth, yw annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl. <\/p>\n<p>Dywedodd Ruth, 46, sydd \u00e2 nifer o anableddau: \u201cMae\u2019r ddwy&#8217;n gwneud yn rhyfeddol o dda.  Rwy wrth fy modd yn dysgu ac rwy&#8217;n gwybod pa mor anodd yw hi i bobl ifanc gael gwaith a dysgu.  Rydyn ni&#8217;n awyddus i roi cyfle i bobl ddysgu, tyfu ac ennill cyflog ar yr un pryd.<\/p>\n<p>\u201cGan fy mod innau&#8217;n anabl, rwy&#8217;n defnyddio meddalwedd arbennig ar fy ngliniadur ac rwy&#8217;n bwriadu trefnu ei fod ar gael i Eve a gweithwyr eraill yn y dyfodol os bydd angen.  Rwy am sicrhau eu bod yn cael yr holl offer y mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu bod prentisiaethau wir yn bwysig ac rwy&#8217;n cytuno \u00e2 Richard Branson sy\u2019n dweud, &#8216;Os gofalwch chi am eich staff, fe wn\u00e2n nhw ofalu am eich cwsmeriaid&#8217;.  Mae pawb yn dysgu gyda\u2019n gilydd yn Bwthyn ac rydyn ni&#8217;n tyfu fel busnes teuluol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Rhiannon Fletcher, rheolwr cyfrifon cenedlaethol Educ8 Training: \u201cMae Bwthyn yn gyflogwr rhagorol sy\u2019n cefnogi ac yn meithrin ei brentisiaid.  Mae\u2019n wych gweld cwmni bach, lleol yn defnyddio prentisiaethau i feithrin doniau a rhoi hwb i&#8217;w busnes.\u201d<\/p>\n<p>Yn ystod Wythnos Prentisiaethau, bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, yn hyrwyddo manteision prentisiaethau wrth gyflogwyr ac unigolion.<\/p>\n<p>&#8220;Mae prentisiaethau\u2019n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau \u00e2\u2019u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr \u00e2 staff profiadol,&#8221; meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTfW. &#8220;Mae cyflogwyr yn recriwtio prentisiaid er mwyn creu gweithlu brwd a ffrwd o dalent at y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mae prentisiaethau\u2019n agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy&#8217;n addas i bob dysgwr mewn 23 o sectorau.<\/strong><\/p>\n<p>Canfu gwaith ymchwil bod pobl sydd \u00e2 sgiliau swydd-benodol yn ennill \u00a3100,000 yn fwy, yn ystod eu hoes weithiol, na phobl sydd heb grefft.<\/p>\n<p>Fel rhan o&#8217;i hymgyrch <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">&#8216;Dewis Doeth&#8217;<\/a>, dywed Llywodraeth Cymru fod prentisiaethau&#8217;n helpu unigolion i sbarduno&#8217;u gyrfa trwy ddarparu\u2019r profiad cywir a sgiliau swydd-benodol, a&#8217;u bod yn helpu busnesau i recriwtio mewn ffordd gost-effeithiol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-week-2023#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae aroglau llwyddiant ar fusnes a sefydlwyd gan \u0175r a gwraig mewn cwt haf yng Nghaerffili yn ystod cyfnod clo&#8217;r pandemig yn 2020. Mae gan gwmni Bwthyn siop a gweithdy yn Heol Caerdydd, Caerffili lle mae&#8217;n gwneud &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/apps-week-2023\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[],"class_list":["post-9249","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9249","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9249"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9249\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9254,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9249\/revisions\/9254"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9249"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9249"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9249"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}