{"id":9367,"date":"2023-04-26T10:27:02","date_gmt":"2023-04-26T09:27:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9367"},"modified":"2023-04-26T10:27:02","modified_gmt":"2023-04-26T09:27:02","slug":"cambrian-brod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-brod\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau&#8217;n chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant becws Danaidd"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cambrian-brod\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-brod\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Lansiwyd becws artisan Br\u00f8d yng Nghaerdydd gan Betina, sy\u2019n dod yn wreiddiol o Copenhagen, yn 2015, ar \u00f4l gweld bwlch yn y farchnad am fara, cacennau a theisennau crwst ffres Danaidd. <\/p>\n<div id=\"attachment_15717\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/23.03.23-mh-BROD-Cardiff-11-scaled-e1682090507444.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15717\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/23.03.23-mh-BROD-Cardiff-11-scaled-e1682090507444.jpg\" alt=\"Br\u00f8d apprentices Zeba and Clara in the bakery\" width=\"460\" height=\"316\" class=\"size-full wp-image-15717\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15717\" class=\"wp-caption-text\">L-R: Br\u00f8d prentis Zeba a Clara<\/p><\/div>\n<p>Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae\u2019n cyflogi 25 o bobl mewn becws modern a dwy siop goffi, mae wedi ennill nifer o wobrau ac mae ganddi gynlluniau cyffrous i ehangu ei busnes, wrth iddi barhau i ailfuddsoddi&#8217;r elw. <\/p>\n<p>Yn y Rhath, Caerdydd y mae\u2019r becws newydd 2,000 troedfedd sgw\u00e2r ac mae&#8217;r ddwy siop goffi ym Mhontcanna a Phenarth.  Mae\u2019r becws yn cynnig gwasanaeth t\u00eacawe rhwng 8am a 2pm i bobl gael prynu cynnyrch ffres, te a choffi. <\/p>\n<p>Yn \u00f4l Betina, mae&#8217;r busnes yn llwyddo trwy waith caled, ymroddiad a&#8217;r ffaith ei bod wedi meithrin ei staff medrus ei hun gan ddefnyddio rhaglen brentisiaethau&#8217;r llywodraeth, a gyflenwir gan Hyfforddiant Cambrian, darparwr hyfforddiant arobryn.<\/p>\n<p>Dydi hi ddim wedi edrych yn \u00f4l ers iddi gymryd ei phrentisiaid cyntaf yn fuan ar \u00f4l agor y busnes. Un ohonyn nhw, Rebekah Chatfield, yw&#8217;r prif bobydd erbyn hyn. Mae&#8217;n arwain t\u00eem o chwech, sy\u2019n cynnwys dau brentis, Clara White, 26, a Zeba Nessa, 26, sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Hyfedredd yn Sgiliau\u2019r Diwydiant Pobi. <\/p>\n<p>Cafodd Br\u00f8d saith prentis pobydd yn y busnes hyd yma ac mae\u2019n bwriadu cyflogi llawer eto yn y dyfodol i wneud defnydd llawn o\u2019r becws newydd, a agorwyd fis Hydref diwethaf. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy\u2019n cefnogi prentisiaethau achos rwy&#8217;n credu ei bod yn bwysig hyfforddi\u2019r genhedlaeth nesaf yn y diwydiant pobi a meithrin eich talent eich hunan,\u201d meddai.  \u201cAllwch chi ddim disgwyl pobl fedrus mewn diwydiant os na fyddwch chi&#8217;n eu hyfforddi eich hunan.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cPan fyddwch chi&#8217;n dod ar draws rhywun sy&#8217;n angerddol am eich proffesiwn, y peth gorau y gallwch ei wneud yw parhau i feithrin eu sgiliau.  Mae&#8217;n rhaid i chi fuddsoddi mewn staff medrus ar gyfer y tymor hir.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau&#8217;n rhan annatod o\u2019r busnes erbyn hyn.  Rydyn ni wedi gweld droson ni&#8217;n hunain sut mae ein prentisiaid wedi datblygu, sut mae eu sgiliau a\u2019u hyder wedi gwella a sut maen nhw wedi tyfu fel pobl.  <\/p>\n<p>\u201cRydyn ni wedi bod gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian ers chwe blynedd ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn wrth fy helpu i dyfu\u2019r busnes gan ddefnyddio\u2019r rhaglen brentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Wrth edrych i&#8217;r dyfodol, dywed Betina y bydd y becws pwrpasol yn caniat\u00e1u iddi gyflogi a hyfforddi mwy o brentisiaid, rhedeg ysgol bobi a gwasanaethu mwy o gwsmeriaid.  Mae hefyd yn ystyried agor rhagor o siopau coffi Br\u00f8d. <\/p>\n<p>Mae gan Zeba radd anrhydedd mewn Mathemateg, mae wrth ei bodd \u00e2 bara a chacennau cartref ac mae&#8217;n teimlo bod ei phrentisiaeth yn rhywbeth oedd i fod i ddigwydd.  Yn dilyn gwyliau annisgwyl yn Nenmarc ym mis Rhagfyr, gwnaeth adduned Blwyddyn Newydd i chwilio am waith pobi.  <\/p>\n<p>Yna, gwelodd hysbyseb am brentis pobydd yn Br\u00f8d, cafodd y swydd a dechrau gweithio ar 6 Mawrth. \u201cRoedd fel pe bai cyfres o ddigwyddiadau&#8217;n arwain at hyn &#8211; ffordd ddigri&#8217;r bydysawd o ddweud wrthyf y dylwn i gymryd y swydd,\u201d meddai Zeba. <\/p>\n<p>\u201cO\u2019r diwrnod cyntaf, rwy wedi bod yn plygu toes, yn dysgu gwneud eisin ac mae&#8217;r staff yn fy nhrystio i wneud popeth.  Mae yma awyrgylch braf, cartrefol ac rwy wrth fy modd.<\/p>\n<p>\u201cFel rhan o fy mhrentisiaeth, mae disgwyl i mi feddwl am ddau gynnyrch newydd sbon i&#8217;w cynllunio, eu dylunio a\u2019u gwneud. Mae hynny&#8217;n gyffrous iawn.  Roeddwn i&#8217;n awyddus i weithio yn y diwydiant bwyd erioed ond doedd gen i ddim profiad, felly mae\u2019r brentisiaeth hon yn gyfle gwych i mi.\u201d<\/p>\n<p>Mae ei chyd-brentis Clara, sy\u2019n byw yn y Barri, yn gobeithio cwblhau ei phrentisiaeth erbyn dechrau\u2019r haf.  Ar \u00f4l graddio mewn Gwyddor Bwyd, cafodd swydd ddesg gyda chwmni gwneud cacennau ond roedd arni eisiau gwaith mwy ymarferol a dyna beth mae&#8217;r brentisiaeth yn Br\u00f8d yn ei roi iddi. <\/p>\n<p>Mae hi wedi dysgu sgiliau gwneud crwst a bara ac mae&#8217;n gobeithio symud ymlaen i patisserie cyn gwireddu ei breuddwyd o redeg ei busnes ei hunan yn y pen draw. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r brentisiaeth yn waith caled ond mae wedi talu ar ei ganfed i mi gyda\u2019r sgiliau rwy wedi\u2019u dysgu ac mae\u2019n bendant wedi rhoi hyder i mi yn fy ngwaith,\u201d meddai Clara.<\/p>\n<p>\u201cMae Mark Llewellyn, fy swyddog hyfforddi o Hyfforddiant Cambrian, wedi sicrhau fy mod wedi cadw ar y trywydd iawn gyda fy mhrentisiaeth ac mae rheolwr y becws, Becky Chatfield, sy\u2019n athrawes dda iawn, wedi bod yn barod iawn i helpu.\u201d<\/p>\n<p>Ers dros 25 mlynedd, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn darpru prentisiaethau seiliedig ar waith ledled Cymru, gan ennill llu o wobrau.  Maent yn darparu cymwysterau mewn nifer o ddiwydiannau, o gynhyrchu bwyd a lletygarwch i gynaliadwyedd a busnes, i enwi dim ond ychydig.  <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-brod#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Lansiwyd becws artisan Br\u00f8d yng Nghaerdydd gan Betina, sy\u2019n dod yn wreiddiol o Copenhagen, yn 2015, ar \u00f4l gweld bwlch yn y farchnad am fara, cacennau a theisennau crwst ffres Danaidd. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae\u2019n cyflogi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cambrian-brod\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9367","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9367","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9367"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9367\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9396,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9367\/revisions\/9396"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9367"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9367"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9367"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}