{"id":9376,"date":"2023-05-15T08:00:11","date_gmt":"2023-05-15T07:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9376"},"modified":"2023-05-12T17:56:44","modified_gmt":"2023-05-12T16:56:44","slug":"mhw-educ8-matthew","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mhw-educ8-matthew\/","title":{"rendered":"Goresgyn gorbryder gyda chefnogaeth ei gyflogwr"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/mhw-educ8-matthew\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mhw-educ8-matthew\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Matthew Angel yn gweithio i&#8217;r darparwr hyfforddiant Educ8 ers mis Ionawr 2017. Dechreuodd Matthew fel Asesydd dan Hyfforddiant gan weithio i sicrhau dyfarniad TAQA ac ennill cymwysterau Asesydd.  <\/p>\n<div id=\"attachment_15729\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Educ8_Matthew-e1682340107237.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15729\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Educ8_Matthew-e1682340107237.jpg\" alt=\"Matthew Angel standing outside by trees.\" width=\"460\" height=\"302\" class=\"size-full wp-image-15729\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15729\" class=\"wp-caption-text\">Matthew Angel Educ8 Recriwtiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p><\/div>\n<p>Bu Matthew&#8217;n Asesydd am ddwy flynedd cyn dechrau cael problemau \u00e2 gorbryder ac iselder a achoswyd gan sawl ffactor.  <\/p>\n<p>Cefnogwyd Matthew gan y t\u00eem yn Educ8 yn ystod y cyfnod anodd hwn a chafodd ei annog i ymgeisio am swydd arall yn y gr\u0175p, gyda chefnogaeth lawn ei reolwr ar y pryd.  <\/p>\n<p>Cafodd swydd cynorthwyydd gweinyddol yn y t\u00eem gweinyddol a dyna y bu&#8217;n ei wneud am ddwy flynedd.  Roedd mwy o strwythur i&#8217;r swydd a helpodd hynny i leddfu ei orbryder.  Yn ogystal, bu Matthew&#8217;n mynychu sesiynau gyda\u2019r elusen MIND lle\u2019r oedd yn cael siarad \u00e2 chynghorwyr hyfforddedig am ei bryderon.  <\/p>\n<p>Ar \u00f4l dwy flynedd yn y t\u00eem gweinyddol cododd swydd ar gyfer Recriwtiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd y swydd honno&#8217;n golygu llawer o siarad \u00e2 dysgwyr a chyflogwyr, ond roedd Matthew o&#8217;r farn ei fod yn barod am hynny ac ymgeisiodd amdani. <\/p>\n<p>Mae Educ8 yn cefnogi Matthew yn ei swydd newydd gan gysylltu ag ef yn rheolaidd ac asesu ei lwyth gwaith i sicrhau ei fod yn gallu ymdopi ag ef.<br \/>\nDywedodd Katie Owen, Arweinydd T\u00eem Iechyd Clinigol a Gofal Cymdeithasol Educ8 a rheolwr llinell Matthew: \u201cRydyn ni&#8217;n gweithio\u2019n agos iawn fel t\u00eem, ac mae gwahanol gydweithwyr o bob rhan o\u2019r busnes yn helpu \u00e2 llwythi achosion recriwtwyr er mwyn lleihau&#8217;r pwysau mewn swydd lle mae popeth yn symud yn gyflym.<br \/>\n\u201cMae Matthew&#8217;n gaffaeliad i\u2019r t\u00eem ac mae\u2019n dal i weithio mewn ffyrdd cadarnhaol i oresgyn yr heriau sy\u2019n ei wynebu. <\/p>\n<p>\u201cOherwydd ei heriau iechyd meddwl ei hun, mae\u2019n gallu cefnogi staff o bob rhan o\u2019r busnes sy&#8217;n wynebu profiadau tebyg.  Gall hyn fod yn unrhyw beth \u2013 sgwrs, cyfarfod dros goffi neu gyfeirio staff at ein t\u00eem cefnogi llesiant.\u201d <\/p>\n<p>Rhannodd Matthew ei stori gyda staff yn ystod un o\u2019u dyddiau llesiant, &#8216;Gr8 days\u2019.  Teimlai ei bod yn bwysig dangos i bobl bod cael help a chefnogaeth yn eich galluogi i ddechrau delio \u00e2&#8217;ch gorbryder a rhoi llai o bwysau arnoch eich hun. <\/p>\n<p>Mae Matthew&#8217;n llawn canmoliaeth i Educ8, \u201cHeb gymorth a chefnogaeth fy rheolwyr a fy nghydweithwyr, dydw i ddim yn credu y byddwn i&#8217;n dal gyda\u2019r sefydliad. <\/p>\n<p>\u201cMae gwerthoedd Educ8 wedi chwarae rhan enfawr yn fy mhenderfyniad i ddal ati a gwneud fy ngorau i gyfoethogi bywydau\u2019r dysgwyr rwy\u2019n gweithio gyda nhw.\u201d <\/p>\n<p>Mae Matthew&#8217;n cefnogi Signposted Cymru a llwyddodd i godi dros \u00a32,000 y llynedd trwy feicio 10 milltir bob dydd drwy gydol mis Tachwedd. <\/p>\n<p>Mae Signposted Cymru yn wasanaeth sy&#8217;n cynnig ymyrraeth gychwynnol, ar unwaith, i bobl sy\u2019n cael trafferthion ac a fyddai&#8217;n elwa o gymorth \u00e2 materion iechyd meddwl a llesiant.  <\/p>\n<p>Mae Signposted Cymru yn cynnig cymorth a chefnogaeth ymatebol wedi&#8217;i deilwra i unigolion sy&#8217;n ymdrechu i sicrhau dyfodol mwy disglair. https:\/\/signpostedcymru.com\/ <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mhw-educ8-matthew#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Matthew Angel yn gweithio i&#8217;r darparwr hyfforddiant Educ8 ers mis Ionawr 2017. Dechreuodd Matthew fel Asesydd dan Hyfforddiant gan weithio i sicrhau dyfarniad TAQA ac ennill cymwysterau Asesydd. Bu Matthew&#8217;n Asesydd am ddwy flynedd cyn dechrau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mhw-educ8-matthew\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9376","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9376","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9376"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9376\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9405,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9376\/revisions\/9405"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9376"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9376"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9376"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}