{"id":9431,"date":"2023-05-23T11:51:52","date_gmt":"2023-05-23T10:51:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9431"},"modified":"2023-05-23T11:51:52","modified_gmt":"2023-05-23T10:51:52","slug":"ctc-awards-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ctc-awards-2023\/","title":{"rendered":"Seremoni raddio gan gwmni hyfforddi i ddathlu llwyddiant prentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ctc-awards-2023\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ctc-awards-2023\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae un o&#8217;r prif gwmn\u00efau dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi dathlu llwyddiant prentisiaid o bob rhan o\u2019r wlad mewn Seremoni Raddio i Brentisiaid. <\/p>\n<div id=\"attachment_15805\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Graduates-e1684838955245.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15805\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/05\/Graduates-e1684838955245.jpg\" alt=\"Cambrian apprenticeship graduates standing outside with their cap and gowns and certificates\" width=\"460\" height=\"438\" class=\"size-full wp-image-15805\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15805\" class=\"wp-caption-text\">Prentisiaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian oedd yn graddio, gyda\u2019r rheolwr gyfarwyddwr Faith O\u2019Brien (blaen, yr ail o\u2019r chwith), yn y seremoni wobrwyo.<br \/>\n<br \/><\/p><\/div>\n<p>Cyflwynwyd eu sgroliau graddio i chwe deg o brentisiaid yn eu capiau a\u2019u gynau yn y seremoni a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian o\u2019r Trallwng yng Ngwesty a Sba y Metropole, Llandrindod. <\/p>\n<p>Ymhlith y graddedigion roedd Patrick Rixson, 24, prif gogydd yn Bank Farm Leisure, Horton, G\u0175yr, a enillodd gymwysterau peiriannydd cyn penderfynu canolbwyntio ar ei gariad at goginio, a daniwyd gan ei fam. <\/p>\n<p>Dechreuodd Patrick olchi llestri yng nghegin ei dafarn leol, The Ship Inn ym Mhort Eynon, yn 15 oed a symudodd ymlaen i fod yn commis chef.  Yna, bu&#8217;n gweithio yn Bank Farm Leisure a\u2019r Britannia Inn, Llanmadog, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol gyda Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Mae Patrick yn awyddus i barhau i ddysgu ac yn ddiweddar cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch. Ei obaith yw meithrin profiad yn gweithio mewn ceginau eraill cyn agor ei fistro ei hunan a mynd ati i ddysgu cogyddion yn y pen draw. <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau\u2019n wych gan eu bod yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu wrth weithio llawn amser,\u201d meddai Patrick.  \u201cMaen nhw&#8217;n agor eich llygaid i&#8217;r hyn y gall y diwydiant ei gynnig pan fydd y sgiliau a&#8217;r wybodaeth gywir gennych. <\/p>\n<p>\u201cFy nghyngor i i bobl ifanc sy\u2019n gadael yr ysgol neu unrhyw un sy\u2019n ystyried pa yrfa i&#8217;w dilyn yw peidio \u00e2 bod yn ddafad a dilyn y praidd i\u2019r coleg neu\u2019r brifysgol.  Gallwch symud ymlaen ar eich pen eich hunan trwy brentisiaeth a chyflawni mwy nag y byddech chi&#8217;n ei wneud trwy fynd i&#8217;r coleg neu&#8217;r brifysgol, lle byddai gennych ddyled enfawr ar y diwedd.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Patrick ei ganmol gan y swyddog hyfforddi Will Richards am ei frwdfrydedd a&#8217;i barodrwydd i ddysgu pethau newydd.  \u201cFe allwn ni ddysgu\u2019r sgiliau a\u2019r theori, ond allwn ni ddim dysgu\u2019r ewyllys i lwyddo ac mae gan Patrick ddigonedd o hynny,\u201d meddai.  <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfle iddo feithrin cymeriad gan ei fod yn cyfuno\u2019r Brentisiaeth Uwch \u00e2 rhedeg cegin brysur.\u201d<\/p>\n<p>Wrth longyfarch yr holl raddedigion, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Faith O\u2019Brien, wrthynt: \u201cRydych wedi gweithio\u2019n galed, wedi dangos ymroddiad ac wedi codi i\u2019r brig, gyda sgiliau a gwybodaeth a fydd yn para oes.  <\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;ch hyfforddiant wedi rhoi cyfle i chi dyfu, yn bersonol ac yn broffesiynol, a dod yn rhan o weithlu medrus a fydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.<\/p>\n<p>\u201cMae gennych chi\u2019r potensial i wneud lles yn y byd a dw i&#8217;n sicr yr ewch chi ymlaen i gyflawni pethau gwych.  <\/p>\n<p>\u201cCofiwch nad yw dysgu byth yn dod i ben.  Mae&#8217;ch prentisiaeth wedi rhoi sylfaen gadarn i chi, ac yn awr mater i chi yw siapio&#8217;ch dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Aeth ymlaen i ganmol swyddogion hyfforddi a staff Hyfforddiant Cambrian a phartneriaid y cwmni am chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod prentisiaid yn cael yr hyfforddiant galwedigaethol gorau a\u2019r profiad gorau o ran datblygiad personol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, roedd hi&#8217;n awyddus i gydnabod y gefnogaeth bwysig a roddir i brentisiaid gan gyflogwyr, cydweithwyr, eu teuluoedd a&#8217;u ffrindiau. <\/p>\n<p>Mae Sirius Skills Consulting, Lifetime Training, Progression Training, Call of the Wild, Clybiau Plant Cymru, AGW, y Work-based Training Agency, Portal Training, Inspiro ac NTG Training yn bartneriaid i Hyfforddiant Cambrian. <\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ctc-awards-2023#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o&#8217;r prif gwmn\u00efau dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi dathlu llwyddiant prentisiaid o bob rhan o\u2019r wlad mewn Seremoni Raddio i Brentisiaid. Cyflwynwyd eu sgroliau graddio i chwe deg o brentisiaid yn eu capiau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ctc-awards-2023\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9431","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9431","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9431"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9431\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9432,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9431\/revisions\/9432"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9431"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9431"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}