{"id":9440,"date":"2023-06-09T13:30:04","date_gmt":"2023-06-09T12:30:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9440"},"modified":"2023-06-09T13:30:04","modified_gmt":"2023-06-09T12:30:04","slug":"aac-closing-date-june-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-closing-date-june-23\/","title":{"rendered":"Mehefin 16, dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Gwobrau Prentisiaethau Cymru, yn nes\u00e1u"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac-closing-date-june-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-closing-date-june-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r cloc yn tician tuag at y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru \u2013 hanner dydd ar 16 Mehefin.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. C\u00e2nt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a\u2019u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). <\/p>\n<div id=\"attachment_9441\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Press-pic-App-Awards-Chrystalla-Moreton-28-e1686313581191.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9441\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Press-pic-App-Awards-Chrystalla-Moreton-28-e1686313581191.jpg\" alt=\"Chrystalla Moreton, last year\u2019s Tomorrow\u2019s Talent Award winner working on a piece of machinery.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9441\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9441\" class=\"wp-caption-text\">Chrystalla Moreton, enillydd Gwobr Doniau&#8217;r Dyfodol y llynedd.<\/p><\/div>\n<p>Gellir lawrlwytho ffurflenni cais y gwobrau, sy&#8217;n cydnabod s\u00ear disglair rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru o <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/ymgeisiwch\">llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/ymgeisiwch<\/a>. <\/p>\n<p>O\u2019r ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu llunio ar gyfer gwobrau, yn cynnwys Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn, sydd hefyd yn cynnwys prentisiaid gradd, a Doniau&#8217;r Dyfodol.<\/p>\n<p>Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod \u00e2 gwobrau ar gyfer Cyflogwr Bach, Canolig, Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn cydnabod pobl sy\u2019n gwneud y gwaith pwysig o gyflenwi prentisiaethau.<\/p>\n<p>I dynnu sylw at werth ymgeisio yn y gwobrau, bu Chrystalla Moreton, prentis peirianneg, yn s\u00f4n am yr hwb a gafodd i&#8217;w hyder pan enillodd Wobr Doniau&#8217;r Dyfodol y llynedd.  <\/p>\n<p>Mae Chrystalla, 21, o&#8217;r Tyllgoed, Caerdydd yn dymuno bod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac ysbrydoli pobl ifanc sy&#8217;n chwilio am rywbeth gwahanol i&#8217;r llwybrau academaidd arferol.                                           <\/p>\n<p>Gan barhau \u00e2&#8217;i thaith fel prentis gyda&#8217;r cwmni cynhyrchu dur cyfnerthedig Celsa Steel UK, mae\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gyfnod cyffrous i Chrystalla gan ei bod hi a\u2019i phartner, Daisy Evan-Watkins, yn paratoi i ddechrau rhedeg tafarn, The High Corner yn Llanharan. Mae gan y ddwy brofiad o weithio y tu \u00f4l i far.  <\/p>\n<p>Bydd Chrystalla&#8217;n dal i weithio tuag at ei phrentisiaeth yn Celsa Steel, gan weithio shifftiau nos yn y dafarn.<\/p>\n<p>Bu\u2019n rhaid iddi newid ei chynllun gwreiddiol i ymuno \u00e2\u2019r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Yn awr, mae\u2019n awyddus i ddangos i eraill sy\u2019n mynd trwy gyfnod anodd yn eu bywyd bod yna olau ar ben draw\u2019r twnnel.<\/p>\n<p>\u201cErs i mi gael yr hwb o ennill Gwobr Doniau&#8217;r Dyfodol, rydw i wedi symud ymlaen i weithio\u2019n annibynnol ar beiriannau ac rwy&#8217;n parhau i ddysgu pethau newydd,\u201d meddai Chrystalla.  \u201cRoedd yn fraint ennill y wobr ac yn gam arall tuag at yr hyn yr hoffwn i ei gyflawni yn y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cByddwn yn annog prentisiaid eraill i gystadlu yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru achos mae cael cydnabyddiaeth am y cynnydd rydych yn ei wneud yn hwb enfawr i\u2019ch hunanhyder. <\/p>\n<p>\u201cGwneud y brentisiaeth yw\u2019r penderfyniad gorau rydw i wedi\u2019i wneud. Mae wedi rhoi cyfle i fi ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd a chyflawni rhywbeth ar y diwedd.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething<\/strong>: &#8220;Pan fydd busnes yn cyflogi prentis newydd, mae&#8217;n gwneud mwy na chael aelod newydd o&#8217;r staff. Mae\u2019n buddsoddi nid yn unig yn ei ddyfodol ei hun, ond yn nyfodol ein heconomi hefyd.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cPrentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, yn gyfrifol am anelu at y nod hanfodol o fod yn wlad sero net, ochr yn ochr \u00e2 chynnal yr economi sylfaenol o-ddydd-i-ddydd a\u2019r gwasanaethau cyhoeddus y bydd angen i ni eu cyflenwi.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n annog pawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019n rhaglen brentisiaethau i ddathlu&#8217;r hyn y maen nhw yn ei gyflawni. Gallwch ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl trwy gystadlu yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a rhannu&#8217;r straeon am eich llwyddiant.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a> neu ffonio 03000 603000.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-closing-date-june-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r cloc yn tician tuag at y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru \u2013 hanner dydd ar 16 Mehefin. Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/aac-closing-date-june-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-9440","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9440","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9440"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9440\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9443,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9440\/revisions\/9443"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9440"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9440"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9440"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}