{"id":9496,"date":"2023-06-22T07:00:00","date_gmt":"2023-06-22T06:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9496"},"modified":"2023-06-20T03:13:11","modified_gmt":"2023-06-20T02:13:11","slug":"jisc-june-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-june-2023\/","title":{"rendered":"Dileu dirgelwch galluogrwydd digidol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/jisc-june-2023\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-june-2023\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Daeth technolegau digidol \u00e2 newidiadau mawr i\u2019r ffordd y mae pobl Cymru&#8217;n byw, yn dysgu ac yn gweithio. Yn ogystal, mae technolegau digidol yn golygu bod bywyd personol a chymunedol pobl yn newid yn gyflym, er enghraifft o ran cysylltiad pobl \u00e2&#8217;i gilydd, y ffordd maent yn cael eu newyddion ac yn deall y byd, y ffordd maent yn cymryd rhan mewn democratiaeth a mwy.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/15-Jisc-edit-e1687099501573.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/15-Jisc-edit-e1687099501573.jpg\" alt=\"Fan graph in regard to article\" width=\"460\" height=\"246\" class=\"alignleft size-full wp-image-15991\" \/><\/a><\/p>\n<p>Canfu <a href=\"https:\/\/beta.jisc.ac.uk\/reports\/a-review-of-research-policy-and-practice-for-planning-digital-and-blended-learning\">adolygiad o ymchwil, polisi ac ymarfer a gynhaliwyd er mwyn cynllunio dysgu digidol a chyfunol<\/a> fod technolegau digidol yn y gwaith yn creu cyfleoedd a risgiau newydd i weithwyr. Mae swyddi a galwedigaethau&#8217;n newid. Gwelir swyddi newydd yn datblygu sy&#8217;n seiliedig ar dechnoleg, er enghraifft ym maes seiberddiogelwch, cyfrifiadura cwmwl, ynni gwyrdd a pheirianneg deallusrwydd artiffisial. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o swyddi&#8217;n dal wedi&#8217;u seilio ar yr economi sylfaenol, gyda thechnolegau digidol mewn r\u00f4l ategol. Mae iechyd a gofal digidol, a thechnoleg addysgol ei hun, yn sectorau sy\u2019n ehangu ac sy\u2019n fwyfwy tueddol o lywio natur y gwaith a wneir yn yr economi ehangach.Yn y b\u00f4n, mae\u2019r galluoedd digidol y mae ar bobl eu hangen yn newid a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y sgiliau, y dulliau gweithredu a\u2019r technolegau y mae ar addysgwyr eu hangen er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer gwaith a llwyddiant. <\/p>\n<p>Ers 2021, bu Jisc yn cydweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru i ddatblygu a rhedeg enghraifft bwrpasol o\u2019r offeryn darganfod <a href=\"https:\/\/digitalcapability.jisc.ac.uk\/\">Building Digital Capability<\/a>, gan hybu datblygiad sgiliau digidol yn uniongyrchol wrth staff ar draws y sector \u00f4l-16 yng Nghymru. Gallai staff asesu lefel eu gallu digidol eu hunain, cael adroddiad personol yn amlinellu eu cryfderau a&#8217;u gwendidau, a chael eu cyfeirio at nifer o adnoddau a ddewiswyd gan arbenigwyr er mwyn gwella eu sgiliau eto.<br \/>\nYn ogystal, canfu&#8217;r prosiect dueddiadau sefydliadol a chenedlaethol y gellid mynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw ar y cyd. O safbwynt cenedlaethol, nododd Jisc bedwar maes lle\u2019r oedd staff yn ymddangos yn llai hyderus:<\/p>\n<ul>\n<li>Llythrennedd data &#8211; sut rydych yn trin data fel math arbennig o wybodaeth.<\/li>\n<li>Creu digidol &#8211; cynhyrchu deunydd yn ddigidol, o waith technegol fel codio apiau newydd i greu delweddau a dogfennau digidol, a gwefannau.<\/li>\n<li>Defnyddio dulliau digidol i ddatrys problemau ac arloesi &#8211; y gallu i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau ac ateb cwestiynau gan ddefnyddio tystiolaeth ddigidol a&#8217;ch parodrwydd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac i ddefnyddio technoleg ddigidol i chwilio am atebion.<\/li>\n<li>Dysgu ac addysgu digidol &#8211; y gallu i ddefnyddio cyfleoedd digidol i ddysgu pethau ac i gefnogi a datblygu eraill mewn ffyrdd digidol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn aml, mae diffyg hyder yn codi o ddryswch yngl\u0177n \u00e2&#8217;r labeli ar gyfer sgiliau, teimlo bod angen i chi wybod popeth, neu or-feddwl am rywbeth. Trwy gydol Mehefin a Gorffennaf, mae Jisc yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein gyda\u2019r nod o ddileu dirgelwch galluogrwydd digidol, gan edrych i weld sut y gall sgiliau digidol feithrin hyder i ddefnyddio gwahanol dechnolegau a dulliau gweithredu, gan arwain at fwy o foddhad yn y gwaith ac, felly, staff mewn gwell sefyllfa i gefnogi dysgwyr \u00e2&#8217;u dyheadau digidol. <\/p>\n<p>Mae Jisc yn bwriadu cynnal rhagor o weithdai yn yr hydref ar gyfer pobl sy&#8217;n methu mynd yn yr haf. <\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am y gweithdai, sut i gyrraedd at y gwasanaeth meithrin galluogrwydd digidol a&#8217;i ddefnyddio, neu sut y gall Jisc gefnogi eich taith ddigidol, cysylltwch \u00e2\u2019ch <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/contact\/your-account-manager\">rheolwr perthynas Jisc<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/wales\">Jisc Wales<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-june-2023#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Daeth technolegau digidol \u00e2 newidiadau mawr i\u2019r ffordd y mae pobl Cymru&#8217;n byw, yn dysgu ac yn gweithio. Yn ogystal, mae technolegau digidol yn golygu bod bywyd personol a chymunedol pobl yn newid yn gyflym, er enghraifft &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/jisc-june-2023\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9496","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9496","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9496"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9496\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9541,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9496\/revisions\/9541"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9496"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9496"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9496"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}