{"id":9522,"date":"2023-06-19T08:00:40","date_gmt":"2023-06-19T07:00:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9522"},"modified":"2023-06-18T13:32:58","modified_gmt":"2023-06-18T12:32:58","slug":"educ8-ann-nicholas","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-ann-nicholas\/","title":{"rendered":"Darparwr Hyfforddiant yn galw am fwy o leoedd i brentisiaid er mwyn taclo prinder sgiliau"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/educ8-ann-nicholas\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-ann-nicholas\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae un o ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw Prydain, Educ8 Training Group, yn galw ar fwy o fusnesau i gynnwys cyfleoedd am brentisiaethau yn eu strategaeth recriwtio er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau. <\/p>\n<div id=\"attachment_15960\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Ann-Nicholas-Image-e1687091170652.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15960\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Ann-Nicholas-Image-e1687091170652.jpg\" alt=\"Ann Nicholas speaking to audience\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15960\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15960\" class=\"wp-caption-text\">Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid Educ8 Training<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r Sefydliad Dysgu a Gwaith (ILM) yn rhagweld y gallai prinder sgiliau gostio \u00a3120bn i&#8217;r Deyrnas Unedig erbyn 2030 gyda diffyg o 2.5 miliwn o weithwyr medrus iawn. <\/p>\n<p>Dywedodd Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid gydag Educ8 Training, \u201cMae\u2019r farchnad swyddi wedi gweld newidiadau mawr ers pandemig Covid ac mae cyflogwyr yn awyddus i arallgyfeirio eu strategaeth er mwyn cadw\u2019r doniau gorau. A ninnau&#8217;n ddarparwr hyfforddiant sy\u2019n cefnogi dros 3,000 o gyflogwyr, mae busnesau wedi bod yn dweud wrthym sut y gall prentisiaethau helpu i recriwtio ac uwchsgilio gweithwyr da.\u201d <\/p>\n<p>Yn aml, mae diffyg sgiliau rheoli mewn sefydliad yn creu problemau cynhyrchiant. Mae ein cymwysterau ILM yn helpu dysgwyr a chyflogwyr i fod yn fwy hyderus wrth ennill y sgiliau rheoli pwysig sy&#8217;n angenrheidiol er mwyn i&#8217;w busnes dyfu.\u201d <\/p>\n<p>Dim ond hanner swm cyfartalog yr Undeb Ewropeaidd y mae cyflogwyr y Deyrnas Unedig yn ei wario, y pen, ar hyfforddiant. Gallai rhaglenni prentisiaethau weithio ochr yn ochr \u00e2 hyfforddiant mewnol presennol i uwchsgilio staff mewn ffordd gost-effeithiol. <\/p>\n<p>Mae Orbis Education &#038; Care yn darparu gwasanaethau arbenigol i blant ac oedolion ag anghenion cymhleth sy&#8217;n gysylltiedig ag awtistiaeth. Yn 2022, cychwynnodd 43 o\u2019u staff ar brentisiaethau gydag Educ8 Training. <\/p>\n<p>Dywedodd Debra Derham, Rheolwr Dysgu a Datblygu yn Orbis, \u201cMae ein staff yn gweithio tuag at nifer o gymwysterau prentisiaethau trwy Educ8 Training. Felly maen nhw&#8217;n gallu symud ymlaen yn eu gyrfa a gweithio tuag at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig ar yr un pryd.\u201d <\/p>\n<p>Mae rhaglen brentisiaeth yn cynnig ffordd glir o ddatblygu gyrfa. Mae&#8217;n helpu&#8217;r cyflogwr a&#8217;r gweithiwr i ganolbwyntio ar ddatblygiad personol a phroffesiynol. <\/p>\n<p>Mae Lucy Williams yn astudio gydag Educ8 Training a datblygodd o fod yn weithiwr ffatri di-waith heb gymwysterau i fod yn rheolwr gofal. Meddai, &#8220;Mae prentisiaethau wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa. \u201cMae&#8217;r holl wybodaeth a sgiliau rwy wedi&#8217;u dysgu trwy astudio wedi fy helpu i gyrraedd lle&#8217;r ydw i eisiau bod yn y cwmni. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.\u201d <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau&#8217;n helpu i daclo&#8217;r prinder sgiliau presennol ac yn paratoi pobl i ymuno \u00e2&#8217;r gweithlu. Mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig strategaeth gadarn i economi\u2019r DU gyrraedd y targed allyriadau o sero net erbyn 2050. Mae angen sgiliau gwyrdd ar frys i gyflawni\u2019r strategaeth hon.<\/p>\n<p>Mae Educ8 Training ar fin lansio cwrs newydd Rheoli Ynni a Charbon. Bydd yn un o\u2019r cymwysterau cyntaf o\u2019i fath yn y Deyrnas Unedig i uwchsgilio gweithwyr er mwyn helpu i gyrraedd nod eu sefydliadau o ran lleihau allyriadau carbon a datblygu arferion gweithio mwy cynaliadwy.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-ann-nicholas#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un o ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw Prydain, Educ8 Training Group, yn galw ar fwy o fusnesau i gynnwys cyfleoedd am brentisiaethau yn eu strategaeth recriwtio er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau. Mae&#8217;r Sefydliad Dysgu a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-ann-nicholas\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9522","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9522","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9522"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9522\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9524,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9522\/revisions\/9524"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9522"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9522"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9522"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}