{"id":9526,"date":"2023-06-20T08:00:13","date_gmt":"2023-06-20T07:00:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9526"},"modified":"2023-06-19T14:57:47","modified_gmt":"2023-06-19T13:57:47","slug":"educ8-eo-day-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-eo-day-23\/","title":{"rendered":"Educ8 Training yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/Educ8-EO-Day-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/Educ8-EO-Day-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae staff yr Educ8 Training Group o dde Cymru yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr yn y Deyrnas Unedig ddydd Gwener 23 Mehefin.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/EO-Day-Educ8-2-scaled-e1687096335781.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/EO-Day-Educ8-2-scaled-e1687096335781.jpg\" alt=\"Large group of Educ8 staff sitting on grass outside the office\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-15988\" \/><\/a><\/p>\n<p>Trefnir y digwyddiad y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr (EOA) a\u2019r thema eleni yw #TheEOeffect. Ei nod yw dangos faint o les y mae perchnogaeth gweithwyr yn ei wneud i weithwyr, busnes, yr economi ehangach, cymunedau a&#8217;r amgylchedd. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r Educ8 Training Group, a ffurfiwyd yn 2004 ac sy&#8217;n cyflogi dros 250 o staff, yn ddarparwr prentisiaethau a hyfforddiant arobryn sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr. Ers mis Chwefror 2022, mae&#8217;r gweithwyr yn berchen ar y cwmni. <\/p>\n<p>Dywedodd Colin Tucker, Cadeirydd yr Educ8 Training Group, <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><br \/>\n\u201cMae ein pobl yn golygu popeth i ni. Heb weithlu brwdfrydig ac ymroddedig fyddai&#8217;r cwmni ddim wedi tyfu mor fawr nac wedi ennill cymaint o glod. Roedden ni&#8217;n hynod falch o ddod yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithwyr.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>R\u0177n ni&#8217;n awyddus i gydweithio \u00e2&#8217;r Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT) a Bwrdd y Gr\u0175p i greu amgylchiadau lle r\u0177n ni&#8217;n dod yn batrwm yn y byd EOT, gan hybu cyfoeth trwy ein gweithwyr a&#8217;i gyfeirio i&#8217;n cymunedau. Rydym yn edrych i&#8217;r dyfodol gyda chyffro ac yn edrych ymlaen at gydweithio \u00e2&#8217;n holl bartneriaid i gyflawni&#8217;r dyheadau sydd gennym yn gyffredin.\u201d<\/p>\n<p>Ac meddai Grant Santos, Prif Swyddog Gweithredol Educ8 Training Group, \u201cMae\u2019n anodd credu bod dros flwyddyn wedi mynd ers i Educ8 ddod yn fusnes ym mherchnogaeth gweithwyr. Bu\u2019r flwyddyn ddiwethaf yn un hynod o brysur, gyda Haddon Training ac Aspire2Be yn ymuno \u00e2\u2019r gr\u0175p gan sicrhau rhagor o dwf. Mae gennym 50 aelod yn rhagor o staff ac mae ein statws fel cwmni ym mherchnogaeth gweithwyr, yn sicr wedi helpu i gadw a recriwtio staff.\u201d<\/p>\n<p>I gyd-fynd \u00e2 Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, mae&#8217;r Educ8 Training Group yn lansio fforwm gweithwyr i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth ymhellach a hybu ymgysylltiad gweithwyr. Bydd y fforwm yn sianel rhwng yr EOT, bwrdd gweithredol y gr\u0175p a\u2019r gweithwyr. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae&#8217;r gr\u0175p yn lansio cystadleuaeth i staff \u2013 dylunio logo ar gyfer yr EOT, gyda gwobr i&#8217;r cynnig sy&#8217;n dod i&#8217;r brig.<\/p>\n<p>Dywedodd James de le Vingne, Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr, \u201cMae cwmn\u00efau fel Educ8 Training Group yn enghreifftiau gwych o fanteision posibl \u2013 economaidd a chymdeithasol \u2013 rhoi llais i weithwyr yn y busnes lle maen nhw&#8217;n gweithio. Ers y ddechrau, mae Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr wedi llwyddo i gyrraedd mwy a mwy o bobl ac mae sector perchnogaeth y gweithwyr wedi tyfu&#8217;n fwy, gyda\u2019r ddau beth wedi mwy na dyblu yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, mae gennym gyfle i gyflymu twf a chyrraedd cynulleidfaoedd hyd yn oed yn ehangach er mwyn codi llais dros berchnogaeth gweithwyr a\u2019i effaith. <\/p>\n<p>Eleni, bydd y Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr yn codi ymwybyddiaeth o fanteision perchnogaeth gweithwyr i fusnesau a gweithwyr. Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae manteision perchnogaeth gan weithwyr, i weithwyr, busnesau ac ardaloedd lleol, yn arbennig o berthnasol. Trwy ddathlu, gallwn helpu i ddangos effaith perchnogaeth gweithwyr a #TheEOeffect.\u201d<\/p>\n<p>Cynhelir nifer o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig a bydd miloedd o weithwyr-berchnogion a phartneriaid yn cymryd rhan. Dechreuwyd cynnal y Diwrnod Perchnogaeth Gweithwyr i godi ymwybyddiaeth o berchnogaeth gweithwyr fel model busnes economaidd cryf a chytbwys. <\/p>\n<p>Dywedodd Tracey O\u2019Neill, Pennaeth Adnoddau Dynol yn Educ8 Training Group, \u201cMae bod yn rhan o EOT yn rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Pe baem yn gwerthu\u2019r cwmni ryw dro, rydym yn gwybod y byddai cyfran yr EOT o enillion y gwerthiant yn cael ei rhannu rhwng y gweithwyr.  Pwy a \u0175yr pa gyfleoedd allai godi mewn blynyddoedd i ddod. Mae&#8217;r EOT yn sicrhau gwaddol a fydd yn parhau ac yn tyfu. Os caiff y cwmni ei werthu yn y dyfodol bydd y gweithwyr yn cael rhan o&#8217;r enillion, sy&#8217;n wych.\u201d<\/p>\n<p>Mae manteision perchnogaeth gweithwyr wedi&#8217;u profi mewn ymchwil dan arweiniad y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr (EOA). Ymhlith y manteision mae gwella iechyd a lles gweithwyr, cynyddu cynhyrchiant a meithrin creadigrwydd ac arloesedd mewn llawer o sectorau diwydiant.<br \/>\nMae cwmn\u00efau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yn cyfrannu dros \u00a330 biliwn i economi\u2019r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Yn ogystal, mae gweithwyr-berchnogion yn cael mwy o foddhad yn eu gwaith, maent yn teimlo&#8217;u bod yn cyflawni mwy ac yn teimlo mwy o sicrwydd yn eu swydd. Maent hefyd yn fwy tebygol o argymell eu gweithle na gweithwyr mewn busnesau nad ydynt yn eiddo i&#8217;r gweithwyr. <\/p>\n<p>Mae busnesau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yn gweithredu mewn nifer o sectorau gan gynnwys gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant, trafnidiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu a gwasanaethau proffesiynol. <\/p>\n<p>Dysgwch fwy am yr <a href=\"https:\/\/www.educ8training.co.uk\/\">Educ8 Training Group<\/a>, dewch yn rhan o&#8217;n EOT ac ymunwch \u00e2&#8217;n t\u00eem.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/Educ8-EO-Day-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae staff yr Educ8 Training Group o dde Cymru yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr yn y Deyrnas Unedig ddydd Gwener 23 Mehefin. Trefnir y digwyddiad y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr (EOA) a\u2019r thema eleni yw #TheEOeffect. Ei &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/educ8-eo-day-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9526","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9526","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9526"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9526\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9540,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9526\/revisions\/9540"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9526"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9526"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9526"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}