{"id":9618,"date":"2023-08-08T16:45:09","date_gmt":"2023-08-08T15:45:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9618"},"modified":"2023-08-08T16:41:40","modified_gmt":"2023-08-08T15:41:40","slug":"isa-vr-hair-july23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-vr-hair-july23\/","title":{"rendered":"Y Cyntaf yng Nghymru i Lansio Profiad Rhithwir o Drin Gwallt"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"english\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/isa-vr-hair-july23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-vr-hair-july23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>ISA Training yw\u2019r darparwr prentisiaethau cyntaf yng Nghymru i gynnig hyfforddiant rhithwir (VR). <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/ISA-Virtual-Reality-e1689672312419.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/ISA-Virtual-Reality-e1689672312419.png\" alt=\"Person wearing a virtual reality face mask..\" width=\"460\" height=\"258\" class=\"alignleft size-full wp-image-16072\" \/><\/a><\/p>\n<p>Bydd yr hyfforddiant yn gwella profiad prentisiaid trin gwallt o ddysgu a chael eu dysgu. Disgwylir i&#8217;r hyfforddiant gael ei lansio ym mis Awst 2023, mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET), a bydd VR ar gael i&#8217;r dysgwyr yn y salon. Byddant yn dysgu mewn amgylchedd cynaliadwy a di-risg. <\/p>\n<p>Yma mae Rheolwr Datblygu&#8217;r Cwricwlwm, Deborah Birkett, yn trafod manteision gweithio gyda thechnolegau datblygol mewn addysg. <\/p>\n<p><strong>Sut ffurfiwyd y bartneriaeth gyda CEMET? <\/strong><br \/>\nEin Swyddog Datblygu Digidol, Daniel Sims, oedd yn arwain yr ymchwil i&#8217;r dechnoleg ddatblygol. <\/p>\n<p>Gwelodd fod Prifysgol De Cymru yn cydweithio \u00e2 CEMET i gefnogi BBaChau yng Nghymru.<\/p>\n<p>O Realiti Rhithwir (VR) i Ddeallusrwydd Artiffisial, mae CEMET yn defnyddio&#8217;r dechnoleg ddiweddaraf i greu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol i helpu busnesau a sefydliadau i dyfu. <\/p>\n<p>Cynigiwyd sawl senario cyn penderfynu dewis gwaith lliwio gwallt. Y teimlad oedd bod hwn yn waith risg uchel ac y byddai&#8217;n berffaith ar gyfer datblygu meddalwedd i&#8217;w wneud yn ddi-risg.  <\/p>\n<p>Bu datblygwyr CEMET yn cydweithio \u00e2 ni i gytuno ar ganlyniadau oedd o fewn cyrraedd. Rhoddwyd prawf ar fersiynau wedi&#8217;u diweddaru o&#8217;r adnodd VR i sicrhau ei fod yn bodloni ein hamcanion.  <\/p>\n<p><strong>Pryd gaiff VR ei ddefnyddio i hyfforddi mewn salonau? <\/strong><br \/>\nBydd yr adnodd VR yn cael ei lansio ym mis Awst 2023, ar \u00f4l cyfnod o hyfforddi staff. Caiff ei gynnig i bob prentis trin gwallt sy\u2019n cofrestru gyda ni yn ystod y chwe mis nesaf a&#8217;r tu hwnt. <\/p>\n<p>Gall dysgwyr roi cynnig, yn ddiogel, ar liwio gwallt a gwneud camgymeriadau mewn amgylchedd cynaliadwy, di-risg. Trwy ddefnyddio VR, bydd dysgwyr yn dysgu heb niweidio gwallt cleient na gwastraffu cynhyrchion cemegol.  <\/p>\n<p>Mae\u2019r adnodd newydd yn ennyn diddordeb ein dysgwyr ac yn gwella&#8217;u sgiliau digidol, gan ddefnyddio senario rhyngweithiol, hwyliog. ISA Training, rhan o&#8217;r Educ8 Training Group, yw\u2019r cyntaf o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru i gynnig y profiad hwn.<\/p>\n<p><strong>Beth yw manteision defnyddio VR yn y salon? <\/strong><br \/>\nMae VR yn cynnig amgylchedd dysgu cynaliadwy a di-risg. Mae\u2019n ennyn ac yn ysbrydoli chwilfrydedd dysgwyr i ddefnyddio technoleg ddatblygol, gan gynnig profiad unigryw a phwrpasol. <\/p>\n<p>Mae llai o wastraff i gyflogwyr, ac mae cost prynu lliwiau gwallt a deunyddiau lliwio yn llai. Does dim risg i wallt y cleient a does dim angen dod o hyd i fodelau i ymarfer y technegau hyn arnynt.  <\/p>\n<p><strong>Pam y dylid gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg mewn addysg?<\/strong><br \/>\nMae&#8217;r gwahaniaeth rhwng cenedlaethau&#8217;n golygu bod ein dysgwyr yn disgwyl y bydd technoleg yn cael ei defnyddio yn eu rhaglen ddysgu. Mae\u2019n cyd-fynd \u00e2 strategaeth ddigidol 2030 i adeiladu ar gymwyseddau digidol a ddatblygwyd mewn addysg orfodol.  <\/p>\n<p>Mae defnyddio technoleg yn rhoi cyfle i gyfoethogi\u2019r profiad addysgu a dysgu yn ein rhaglen brentisiaethau ac ymwneud \u00e2 dysgwyr ar hyd eu taith dysgu gydol oes.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/hairdressing\">Astudiwch ar gyfer prentisiaeth mewn trin gwallt<\/a> a byddwch yn un o&#8217;r cyntaf yng Nghymru i gael profiad o VR yn y salon.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/hairdressing\">ISA Training<\/a> yw\u2019r unig ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru sy&#8217;n arbenigo&#8217;n benodol mewn trin gwallt, gwaith barbwr a harddwch, ac mae ein staff yn arbenigwyr sydd wedi bod yn weithwyr, rheolwyr a pherchnogion salonau. Rydym yn deall y busnes, ei anghenion, a sut mae llwyddo yn eich gyrfa yn y diwydiant gwallt a harddwch. Rydym ni yma i helpu\u2019r cyflogwyr a\u2019r dysgwyr rydym yn gweithio gyda nhw i Ysbrydoli, Llwyddo a Syfrdanu. <\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cemet.wales\/\">CEMET<\/a> yn cefnogi busnesau trwy roi cyfle i gymryd rhan mewn Ymchwil a Datblygu a ariennir. Bydd CEMET yn cydweithio \u00e2 chi, gan ddefnyddio&#8217;r dechnoleg ddiweddaraf i greu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol ar gyfer eich busnes gan helpu i siapio&#8217;r dyfodol. <\/p>\n<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-vr-hair-july23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg ISA Training yw\u2019r darparwr prentisiaethau cyntaf yng Nghymru i gynnig hyfforddiant rhithwir (VR). Bydd yr hyfforddiant yn gwella profiad prentisiaid trin gwallt o ddysgu a chael eu dysgu. Disgwylir i&#8217;r hyfforddiant gael ei lansio ym mis Awst &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-vr-hair-july23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9618","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9618","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9618"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9618\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9647,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9618\/revisions\/9647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9618"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9618"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9618"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}